Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, Mark Drakeford yn cyfarfod â Gweinidog Iwerddon dros Gyllid, Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Paschal Donohue.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhaglen Cymru/Iwerddon 2014-2020 yn darparu €100m (gyda €79m yn dod o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) i gefnogi prosiectau cydweithredol ym maes arloesi, addasu i newid yn yr hinsawdd a thwristiaeth, treftadaeth a diwylliant ar draws Môr Iwerddon.

Ers mwy nag 20 o flynyddoedd mae Cyllid yr UE wedi llwyddo i feithrin partneriaethau ar draws Môr Iwerddon, i fynd i'r afael â heriau economaidd ac amgylcheddol ac i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn  anelu at ddatblygu rhaglen olynol o weithgarwch â Llywodraeth Iwerddon y tu hwnt i 2020 fel yr amlinellir yn ei phapur polisi “Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit”.

Dywedodd Mark Drakeford:

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi'n perthynas ag Iwerddon ac rydyn ni wedi ymrwymo i gadarnhau'r cysylltiad hwnnw y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, yn sgil y cysylltiad agos, gwerthoedd cyffredin a chysylltiadau masnach a diwylliannol rhwng ein dwy genedl.

"Fel cenedl agored, rydyn ni am gynnal ac adeiladu ar ein rhwydweithiau rhyngwladol, gan gynnwys trwy barhau i gymryd rhan mewn rhaglenni cydweithredol. Rydyn ni'n rhoi pwys mawr ar raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, gan gynnwys ein rhaglen drawsffiniol gyda'n cymdogion agosaf.

“Dyma ffordd dda o ddod o hyd i atebion gwirioneddol i heriau cyffredin sy'n croesi ffiniau. Rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn cynnal, ac nid yn colli'r partneriaethau ardderchog, creadigol a adeiladwyd dros y môr gydag Iwerddon."

Yn dilyn trafodaethau â'r Gweinidog cyfatebol yn Iwerddon, Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â Choleg Prifysgol Dulyn pan fydd yn cyfarfod â chynrychiolwyr nifer o gyrff sydd wedi elwa ar raglen Iwerddon/Cymru gan gynnwys:

  • Acclimatize, prosiect sy'n cael ei arwain gan Goleg Prifysgol Dulyn mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth sy'n anelu at ymladd effeithiau llygredd ar ddyfroedd ymdrochi, gan helpu i hybu twristiaeth a chefnogi gweithgareddau morol
  • Ecostructures,  prosiect  sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Choleg y Brifysgol Dulyn, Prifysgol Bangor, Coleg y Brifysgol Corc  a Phrifysgol Abertawe. Mae'n datblygu dulliau newydd o wella ansawdd strwythurau arfordirol, gan gynnwys waliau'r môr a morlynnoedd llanw drwy gynlluniau sy'n fwy sensitif yn ecolegol
  • CALIN - (Y Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch) prosiect sy'n darparu platfform Cymru-Iwerddon ar gyfer arloesi sy'n cael ei sbarduno gan ddiwydiant ym maes Nanoiechyd trwy gydweithredu rhwng Prifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor yng Nghymru ac UCD, Prifysgol Dinas Dulyn, a Phrifysgolion y Drindod, Corc ((Tyndall) a Galway yn Iwerddon.