Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn cyfarfod â chyflogwyr y Cyflog Byw yng Nghastell Caerdydd i gefnogi ymgyrch y brifddinas i fod yn Ddinas Cyflog Byw gyntaf y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y digwyddiad yw'r diweddaraf i hyrwyddo Wythnos Cyflog Byw yng Nghymru yn dilyn y cynnydd o 25c yn y gyfradd dâl o £8.75 i £9 yr awr.

O'r 174 o gyflogwyr Cyflog Byw yng Nghymru, mae 80 wedi'u lleoli yng Nghaerdydd a'r llynedd, enwyd Cyngor Caerdydd yn Bencampwr Cyflog Byw i Gymru ar gyfer 2017-18 gan y Living Wage Foundation. Roedd hyn yn cydnabod ei gyfraniad eithriadol ar ddatblygu'r Cyflog Byw yng Nghymru, y tu hwnt i ofynion achredu.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Rwy'n croesawu ymrwymiad Cyngor Caerdydd i fod yn Ddinas Cyflog Byw - ymrwymiad i sicrhau bod gweithwyr ar hyd a lled y ddinas yn cael byw bywyd llawn urddas, gan eu cefnogi i dalu eu dyledion ac ymdopi â phwysau biliau cynyddol.

“Ers dod yn un o sefydliadau cyntaf y DU i fod yn gyflogwr Cyflog Byw yn 2015, mae Cyngor Caerdydd yn arwain trwy esiampl gyda mwy na 2,000 o staff amser llawn a rhan-amser yn elwa ar godiad cyflog, yn bennaf menywod sy'n gweithio fel goruchwylwyr clybiau brecwast, glanhawyr, gweithwyr domestig, cynorthwywyr cegin a goruchwylwyr canol dydd."

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn trafod gyda rhanddeiliaid ffyrdd o hyrwyddo'r Cyflog Byw trwy annog cwmnïau i gytuno i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi - prawf o ymrwymiad sefydliad i weithio tuag at y Cyflog Byw.

Ychwanegodd:

“Bydd y Cod Ymarfer yn annog sefydliadau i gymryd  eu hymrwymiad i ystyried y Cyflog Byw o ddifrif, ac i nodi pa gamau y gellir eu cymryd i gynyddu cyflogau staff cyflogedig a staff wedi'u contractio dros amser. Rwy'n cefnogi unrhyw system sy'n cael ei datblygu i helpu i roi cyhoeddusrwydd i gynnydd yn hyn o beth.”

Cynhelir y digwyddiad yng Nghastell Caerdydd lle y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ymuno â'r Rheolwr Partneriaethau a Gweithrediadau yn y Living Wage Foundation, Graham Griffiths, aelodau'r cyngor a staff ac amryw o gyflogwyr Cyflog Byw yng Nghaerdydd.