Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi annog Llywodraeth y DU i roi terfyn ar ei pholisi cyni niweidiol a darparu'r ysgogiad ariannol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a gwella hyder yn yr economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, amlinellodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford flaenoriaethau Cymru cyn i Gyllideb y Gwanwyn gael ei chyhoeddi ar 8 Mawrth.

Mynegodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bryderon am fwriad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â thoriadau gwerth £3.5 biliwn i wariant cyhoeddus yn 2019-20 - toriadau a allai olygu gostyngiad pellach o £175 miliwn yng nghyllideb Cymru.
Gofynnodd hefyd i Lywodraeth y DU ddefnyddio Cyllideb y Gwanwyn i gyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 
Dywedodd yr Athro Drakeford:  
"Rwy'n dal i fod yn bryderus iawn ynglŷn ag effaith toriadau pellach i wariant cyhoeddus a bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â thoriadau gwerth £3.5 biliwn yn 2019-20.  
“Mae ein cyllideb eisoes yn sylweddol is mewn termau real nag ydoedd yn 2010, oherwydd y blynyddoedd o gyni gan Lywodraeth y DU. Gallai toriadau ychwanegol ar ben y rhai ry'n ni eisoes yn eu hwynebu olygu gostyngiad pellach o £175 miliwn yn ein cyllideb.
"Does dim rhaid gwneud y toriadau hyn ac maen nhw'n wrthgynhyrchiol. Mae'n amser i Lywodraeth y DU roi diwedd ar ei pholisi cyni niweidiol a darparu'r ysgogiad cyllidol y mae ei angen i wella hyder yn yr economi a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
"Dros y gaeaf, ry'n ni wedi gweld pwysau mawr ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Roedd yn siomedig na chymerodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y cyfle i i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau hyn yn Natganiad yr Hydref. 
"Rwy'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig  i gymryd camau yn y Gyllideb hon i gynyddu'r cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol i gydnabod y pwysau sylweddol y mae'r gwasanaethau hyn yn ei wynebu."

Yn ei lythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r cynnig ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe unwaith yn rhagor, a gofynnodd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau i sicrhau bod yr uchelgais ehangach ar gyfer ardal Abertawe yn cael ei gwireddu. Mae hyn yn cynnwys:
• Defnyddio Cyllideb y Gwanwyn fel cyfle i lofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe;
• Gweithredu ar Adroddiad Hendry ar Ynni'r Llanw, a galw am drafodaethau manwl rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fantiesio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer economi Cymru ac economi'r DU; 
• Cadarnhau y bydd y prif lwybr Great Western i Abertawe yn cael ei drydaneiddio yn syth ar ôl cwblhau'r gwaith o drydaneiddio'r llwybrau i Gaerdydd yn 2018.

Ychwanegodd yr Athro Drakeford:  
"Mae cynnydd da wedi'i wneud o ran y cynnig ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Yn fy marn i - ac ym marn Llywodraeth Cymru - mae'r fargen yn barod i gael ei llofnodi.  
“Mae'r Gyllideb yn gyfle gwych i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gadarnhau'r fargen hon ac rwy'n croesawu'r sylwadau cadarnhaol a wnaeth y Canghellor y Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddar, a oedd yn rhoi neges galonogol bod modd cyflawni hyn."