Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch dysgwyr sydd wedi cael eu canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a Chymwysterau Galwedigaethol heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â myfyrwyr a oedd yn casglu eu canlyniadau yn Ysgol Gyfun Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dywedodd:

Hoffwn longyfarch pawb sy'n cael eu canlyniadau heddiw. Mae'n siŵr bod y pandemig wedi effeithio arnoch chi i gyd, ond mae cael eich canlyniadau heddiw yn garreg filltir fawr. Dylai pob un ohonoch chi fod yn falch iawn o'r gwaith caled, yr ymroddiad a'r gallu rydych chi wedi'i ddangos.

Eleni yw ein cam olaf yn ôl at y trefniadau arholi a oedd gyda ni cyn y pandemig. Ac mae canlyniadau heddiw yn adlewyrchu'r hyn roedden ni'n ei ddisgwyl, sef eu bod yn debyg i ganlyniadau 2019. 

Hoffwn ddiolch hefyd i'n hathrawon a'n gweithlu addysg sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed i gefnogi ein dysgwyr i lwyddo.

Rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael y graddau roeddech chi eu heisiau. Ond cofiwch fod llawer o ddewisiadau gwahanol ar gyfer eich cam nesaf i addysg neu gyflogaeth. Gallwch gysylltu â Gyrfa Cymru, eich ysgol neu eich coleg lleol i gael cymorth.

Pob lwc, a phob dymuniad da ichi!