Neidio i'r prif gynnwy

Ymunodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams â phlant yn Llyfrgell Merthyr Tudful heddiw i lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bob blwyddyn, mae miloedd o deuluoedd ledled Cymru yn cymryd rhan yn nigwyddiad darllen mwyaf y DU i blant mewn llyfrgelloedd, Sialens Ddarllen yr Haf. Ei nod yw annog plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr neu fwy o'u llyfrgell yn ystod gwyliau'r haf. Yng Nghymru mae elfen benodol Gymreig i'r sialens ac mae'n cynnwys llyfrau Cymraeg.

Cewch gymryd rhan yn rhad ac am ddim ac mae'n un enghraifft o'r hyn y mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn ei gynnig i helpu plant i ddatblygu cariad at ddarllen, meithrin hyder a dysgu sgiliau newydd.

Thema sialens eleni yw 'Dyfeiswyr Direidi', ac mae Dennis the Menace a'i ffrindiau yn annog plant i gymryd rhan. Wrth ddarllen eu llyfrau, bydd y plant yn cael gwobrau ac yn casglu sticeri. Byddant hefyd yn cael cliwiau gan Dennis i'w helpu i gwblhau'r sialens a dod o hyd i'r gist drysor o driciau.
Gall pobl ifanc 12-24 oed hefyd gymryd rhan drwy fenter 'Hac Darllen' Cyngor Llyfrau Cymru. Byddant yn gwirfoddoli mewn llyfrgelloedd i gefnogi Sialens Ddarllen yr Haf.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi bod yn llwyddiannus dros ben o ran cymell plant i ddarllen mwy yn ystod gwyliau'r haf.

"Mae darllen yn dod â chymaint o foddhad i blant yn eu horiau hamdden, ac mae'n hollbwysig i'w datblygiad. Mae nid yn unig yn gwella eu sgiliau llythrennedd, ond mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ac, yn bwysicaf oll, yn sbarduno'r dychymyg. Os, fel sy'n aml yn digwydd, bydd yr haul bendigedig yma yn troi'n law pan ddaw'r gwyliau, pa ffordd well o gadw'r plant yn ddiddig pan na allan nhw fynd allan!"

“Mae gwaith ymchwil wedi dangos hefyd fod hyn yn helpu i gynnal eu lefel ddarllen cyn iddyn nhw fynd yn ôl i'r ysgol ym mis Medi. Dw i am annog rhieni i fanteisio ar yr amser gân nhw gyda'u plant dros yr haf, neidio i grombil llyfr a phwy a ŵyr ymhle bydd y stori'n gorffen!”

I gael gwybod mwy am Sialens Ddarllen yr Haf, gan gynnwys sut i gymryd rhan, a chael adnoddau ar gyfer ysgolion, ewch i: https://summerreadingchallenge.org.uk