Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn lansio rhwydwaith newydd yn ystod ei hymweliad ag Ysgol Gynradd Llanrhidian yn Abertawe heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen yn dod â’r arweinwyr amlycaf o bob rhan o'r sbectrwm addysg ynghyd er mwyn sicrhau mwy o strwythur wrth ddatblygu’r cymorth a roddir i ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant rhwng  tair a saith oed.

Gyda'r nod o ysbrydoli meddyliau pobl ifanc, bydd y rhwydwaith sy’n cael cymorth gwerth £1miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau addysg awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau gofal plant sy'n darparu'r Cyfnod Sylfaen, consortia rhanbarthol, sefydliadau Addysg Uwch a sefydliadau'r trydydd sector. Byddant yn gweithio gyda'i gilydd i rannu arbenigedd, profiadau, gwybodaeth ac arferion gorau.

Mae Parth dysgu cymunedol ar-lein newydd wedi'i sefydlu i hwyluso’r  broses o rannu gwybodaeth, adnoddau ac ymchwil ymhlith ymarferwyr. Bydd y parth hefyd yn cynnwys 20 astudiaeth achos newydd gan gynnwys tair ffilm fer sy'n dangos arferion effeithiol yn y Cyfnod Sylfaen.

Cynhyrchwyd y ffilmiau drwy weithio'n agos gydag ysgolion a lleoliadau o bob cwr o Gymru mewn pum maes ymarferol allweddol: datblygiad y plentyn, profiadau o'r amgylchedd, arweinyddiaeth, addysgeg a'r Gymraeg. Bydd yr astudiaethau achos ar gael ar yr parth newydd yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill.

Wrth groesawu'r lansiad, dywedodd Kirsty Williams:

“Gan adeiladu ar lwyddiant modelau tebyg sydd eisoes yn llwyddiant megis y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg a'r Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, bydd y rhwydwaith newydd hwn ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn helpu i ddatblygu staff a sgiliau arwain, yn hybu’r ymchwil a wneir yn y proffesiwn addysg yng Nghymru ac yn sicrhau bod y Cyfnod Sylfaen yn cael ei weithredu yn gyson ac yn effeithiol.

“Mae ymarferwyr yn y Cyfnod Sylfaen yn gwneud gwaith rhyfeddol. Er bod eu swydd yn un hynod o anodd, mae hefyd yn un fuddiol iawn, ac mae’r ymarferwyr hyn yn haeddu pob cefnogaeth. Bydd y rhwydwaith hwn a'i adnoddau ar-lein yn cynnig lefel newydd o ddatblygiad proffesiynol yn y Cyfnod Sylfaen ar gyfer ysgolion a dim ond y dechrau yw hyn.

“Mae'r datblygiad hwn yn mynd i wraidd yr hyn a welwn ni fel ein cenhadaeth genedlaethol ac mae'r  cwricwlwm newydd yn ymwneud â chodi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ¬a darparu system addysg y gallwn i gyd fod yn falch ohoni.”

Mae'r parth dysgu cymunedol ar-lein newydd ar lwyfan dysgu Llywodraeth Cymru - Hwb - a gallwch gael mynediad iddo yma: http://hwb.gov.wales/fpen