Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg wedi canmol Ysgol Gynradd St. Julian's am ei rhan yn y gwaith o gynllunio sut y bydd sgiliau digidol yn cael eu defnyddio yn y cwricwlwm ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae newidiadau i'r cwricwlwm yn golygu y bydd sgiliau digidol yn cael eu datblygu a'u haddysgu drwy bob rhan o addysg plant yn hytrach na chael eu cyfyngu i wersi penodol TGCh neu gyfrifiadureg.

Mae Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru ar gael i bob ysgol erbyn hyn. Lluniwyd y Fframwaith o ganlyniad i ddau adolygiad annibynnol a oedd yn argymell newidiadau.

Mae'r dull newydd o weithredu'n cwmpasu  mwy na defnyddio cyfrifiaduron yn unig. Ei nod yw darparu'r sgiliau digidol i blant sydd eu hangen arnyn nhw, fel eu bod yn gallu eu defnyddio yn y byd go iawn am flynyddoedd i ddod.

Mae St Julian's yn Ysgol Arloesi Ddigidol a bu'n cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Ar ei hymweliad â’r ysgol, dywedodd Kirsty Williams:

“Mae Ysgolion Arloesi fel St Julian's yn hanfodol i lwyddiant y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a'r cwricwlwm newydd yn gyffredinol a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled.”

“Mae'r dull newydd a radical hwn o weithredu'n golygu ymgorffori gwybodaeth a sgiliau digidol ym mhopeth y mae ein plant yn ei wneud gydol eu gyrfa yn yr ysgol. Ni fydd materion fel hyn yn cael eu halltudio i wersi cyfrifiaduron wythnosol bellach; yn hytrach, bydd y sgiliau hanfodol hyn yn cael eu defnyddio ar draws ein cwricwlwm. Erbyn hyn, maen nhw'r un mor bwysig i ddatblygiad ein disgyblion ag yw dysgu darllen ac ysgrifennu. Mae hyn yn rhan allweddol o'n penderfyniad i gamu ymlaen a llunio cwricwlwm sy'n addas i'r presennol a'r dyfodol yn hytrach nag i ddiwedd yr 20fed ganrif.”

Dywedodd Luke Mansfield, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd St Julian's:

“Holl ddiben y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw rhoi'r sgiliau a’r ddealltwriaeth i'n dysgwyr ni yng Nghymru y bydd eu hangen arnyn nhw nid yn unig i ffynnu, ond hefyd i oroesi yn y byd cynyddol ddigidol y maen nhw'n tyfu i fyny ynddo. Mae gallu defnyddio technoleg yn effeithiol i gyfathrebu, i gydweithio, ac i gynhyrchu ac ymdrin â data yn sgiliau bywyd pwysig a byddant yn cynyddu cyfleoedd ein pobl ifanc i gael swyddi yn sylweddol. Ond yn bwysicach fyth, mae'n hanfodol fod gan ddisgyblion ddealltwriaeth o'r risgiau posibl sydd ynghlwm â defnyddio technoleg a'r effeithiau posibl ar eu hiechyd. Mae llinyn cyntaf y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn ceisio helpu plant i ddeall pwysigrwydd cyfyngu ar yr amser maen nhw'n ei dreulio o flaen sgrin, a’u haddysgu sut i ddiogelu eu hunain rhag seiberfwlio neu ddwyn hunaniaeth, a sut i werthuso pa mor ddibynadwy yw gwybodaeth ar-lein.”

“Gan fod ein disgyblion yn cael eu trwytho yn  y byd digidol hwn mor ifanc a thechnoleg yn datblygu ar y fath gyflymder, mae'r holl sgiliau hyn yn hollbwysig a rhaid i ysgolion, rhieni a'r cyfryngau gydweithio i addysgu disgyblion a chodi ymwybyddiaeth ynghylch y materion hyn.”

Bu'r Ysgrifennydd Addysg yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Lliswerry hefyd i weld sut mae'r ysgol yn helpu amrywiaeth eang o ddisgyblion o wahanol gefndiroedd ethnig. Mae Lliswerry wedi croesawu dysgwyr o Ddwyrain Ewrop ac wedi defnyddio arian oddi wrth Lywodraeth Cymru i gyflogi gweithiwr Cyswllt Treftadaeth Roma, er mwyn datblygu perthynas gref gyda'r gymuned Roma.