Mae’r manylion wedi’u cyhoeddi cyn y ddadl derfynol ar y Bil yn y Cyfarfod Llawn yfory [12/12/2017].
Mae’r manylion wedi’u cyhoeddi cyn y ddadl derfynol ar y Bil yn y Cyfarfod Llawn yfory [12/12/2017].
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 27 Chwefror a 9 Mehefin 2017 er mwyn gofyn am safbwyntiau ar sut y dylid cyflwyno’r Bil os yw’n derbyn Cydsyniad Brenhinol, a pha drefniadau trosiannol sydd angen eu rhoi ar waith i helpu awdurdodau lleol a darparwyr addysg i hwyluso’r broses o gyflwyno’r system newydd. Cafwyd 89 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac roedd rhai ohonynt yn ymatebion ar y cyd yn cynrychioli safbwyntiau nifer o unigolion a sefydliadau.
Yn ogystal, rhwng 28 Chwefror a 9 Mawrth 2017, cynhaliodd Llywodraeth Cymru wyth digwyddiad i randdeiliaid ledled Cymru i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r system anghenion dysgu ychwanegol arfaethedig. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys gweithdai yn ymwneud â’r ymgynghoriad, a’r dewisiadau ar gyfer ei gyflwyno, ac fe’u mynychwyd gan 629 o gyfranogwyr.
Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac i’r digwyddiadau ymgysylltu wedi’u defnyddio i lywio datblygiad y dull arfaethedig o gyflwyno’r system newydd.
Wrth gyhoeddi crynodeb o’r ymgynghoriad ac amlinellu ei chynigion ar sut y bydd y system newydd yn gweithio, meddai Kirsty Williams:
“Mae’r Bil hwn yn ganolog i’n rhaglen i weddnewid addysg a chymorth ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi ymgysylltu’n helaeth â phartneriaid, rhanddeiliaid, ac yn bwysicaf oll, â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu nodi a’u hadlewyrchu yn ein cynigion ar sut i gyflwyno’r system newydd os yw’r Cynulliad yn cymeradwyo’r Bil yfory.”
Mae elfennau allweddol ein dull gweithredu yn cynnwys y canlynol:
- Dull gweithredu graddol a gorfodol o gyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU), a fydd yn darparu cymorth wedi ei deilwra ar gyfer anghenion dysgu pob unigolyn ac yn disodli cynlluniau statudol ac anstatudol presennol gan gynnwys y datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig. Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sydd â’r anghenion dysgu mwyaf difrifol.
- Dylai’r system newydd gael ei chyflwyno ym mis Medi 2020. Bydd hynny’n sicrhau bod digon o amser ar gael i ddatblygu a chyflwyno’r mesurau ategol, yr is-ddeddfwriaeth a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (sy’n cyd-fynd â’r Bil), ynghyd â rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant a datblygiad amlasiantaeth i helpu i bontio’n llyfn i’r system newydd.
- Dylai’r broses o gyflwyno’r system newydd bara tair blynedd, a disgwylir iddi gael ei chwblhau erbyn diwedd 2023.
Ychwanega Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
“Byddwn yn buddsoddi £20 miliwn i helpu i gyflwyno’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd. Ar ôl dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, rydym wedi ailstrwythuro ein hymrwymiadau cyllido i sicrhau eu bod yn gweddu’n well i anghenion y sector.
“Byddwn yn canolbwyntio rhagor o adnoddau ar hyfforddiant, cynllunio a chymorth strategol trwy gynyddu cyllid grant ar gyfer arweinwyr trawsnewid ADY. Bydd y swyddi allweddol hyn yn helpu gwasanaethau i gyflwyno trefniadau cynllunio manwl ar lefel ranbarthol a ledled y sector addysg bellach, gan ddarparu hyfforddiant ar y system newydd i bawb sy’n cynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
“Wrth reswm, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar ddull gweithredu’r system newydd os yw’r Bil yn cael ei gymeradwyo yfory er mwyn sicrhau bod y system newydd yn darparu’r cymorth gorau posibl ar gyfer y dysgwyr mwyaf agored i niwed.”
Mae’r adroddiad a’r dull gweithredu arfaethedig wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru