Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Kirsty Williams yn agor heddiw (29 Medi) yr ysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg gyntaf o’i bath yng Nghymru wedi’i hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer y sector cynradd a’r sector uwchradd o dan yr un to.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae’r cysyniad newydd ar gyfer addysg yn yr ardal yn ffrwyth chwe blynedd o astudiaethau dichonolrwydd ac ymgynghori gan Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

Mae’r adeilad a gynlluniwyd ar y cyd ag athrawon, disgyblion ac ymgynghorwyr addysg, yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf ac yn cysylltu pob un o’r cyfnodau dysgu ar un safle. Mae yno le i 60 o ddisgyblion yn yr adran derbyn a’r meithrin, 360 o lefydd cynradd a 678 o lefydd uwchradd.

Ysgol Bro Teifi yw canlyniad uno ysgol uwchradd Ysgol Dyffryn Teifi ac ysgolion cynradd Aberbanc, Coed y Bryn, Pontsian a Llandysul. Bydd Ysgol Bro Teifi yn rhoi i ddisgyblion o bob oed brofiad dysgu a fydd yn perthyn yn llwyr i’r 21ain ganrif.

Mae’r ysgol wedi’i rhannu’n sawl ‘adain’ fel na fydd yr ysgol hŷn a’r ysgol iau yn yr un man ar yr un adeg. Fodd bynnag, mae’r cynllun yn caniatáu i’r ysgol gyfan fanteisio ar y cyfarpar a’r cyfleusterau diweddaraf posibl o’r cae chwarae astro-turf i’r llwyfan, y system goleuadau, y cynllun seddau a’r stiwdio drama, yr ystafell werdd a’r stiwdio recordio.

Bydd y gymuned leol hefyd yn gallu defnyddio’r cyfleusterau perfformio â 450 o seddau, y cyfleusterau chwaraeon a’r stiwdio recordio.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:

“Mae’n rhy hawdd meddwl heddiw mai un diben yn unig sydd i ysgolion: sef lle y mae athrawon yn addysgu a dysgwyr yn dysgu. Mae ysgol integredig debyg i hon yn debycach i ffôn clyfar. Dyma le i’r ysgol a’r gymuned ddod ynghyd, cydweithio a chreu.

“Mae Bro Teifi yn ysgol gymunedol yn yr ystyr ehangaf. Mae’r amrywiaeth o gyfleusterau sydd yma i’r disgyblion a’r cyhoedd fel ei gilydd wedi creu ysgol sy’n eich gwahodd i mewn a phleser mawr yw cael ei hagor yn swyddogol heddiw.” 

Dywedodd y Pennaeth Robert Jenkins: 

“Fel cymuned ysgol, rydyn ni wrth ein bodd cael cymryd perchenogaeth ar ein hysgol newydd ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y buddsoddiad a’r cymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

“Roedd y staff a’r disgyblion fel ei gilydd yn rhan annatod o’r penderfyniadau a wnaed yn ystod yr ymgynghori ynghylch y cynllun gwreiddiol ac yna adeg gwireddu’r syniadau hynny ac erbyn hyn rydyn ni wrth ein bodd â’r canlyniad.”

Ychwanegodd: 

“Mae’n adeilad hynod arloesol a fydd yn gwella ein gallu i gynnig i’n disgyblion daith ddysgu fydd yn gwbl integredig. Mae bod o dan yr un to eisoes wedi gwella ein dealltwriaeth o’n cryfderau a’n hanghenion ein gilydd ar draws y sectorau. Mae’r manteision hefyd o fedru rhannu adnoddau, yn gorfforol o safbwynt cyfarpar a hefyd o safbwynt staffio, eisoes yn dechrau cyfoethogi profiadau dysgu ein disgyblion.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Ellen ap Gwynn: 

“Rydw i’n hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth drwy eu Rhaglen Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif. Heb y cymorth yma, ni fyddai wedi bod yn bosibl i’r prosiect gael ei wireddu.

“Fel yr ysgol gyntaf o’i bath yng Nghymru, dyma enghraifft o Geredigion yn arwain y ffordd, drwy greu ysgol arloesol o’r ansawdd gorau i fodloni anghenion addysgol modern disgyblion yn yr ardal a’r cenedlaethau sydd i ddod.

“Mae gen i bob ffydd y bydd gan Ysgol Bro Teifi gyfraniad pwysig i’w wneud o ran y ddarpariaeth addysg ragorol sy’n cael ei chynnig yng Ngheredigion.”