Darlith Goffa Raymond Williams 2018, a draddodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Cyflwyniad
Noswaith dda pawb – good evening everyone.
Diolch i Lynette a David am eu cyflwyniadau, a diolch yn fawr iawn i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith a’r Brifysgol Agored yng Nghymru am y gwahoddiad – yr anrhydedd – i draddodi Darlith Goffa Raymond Williams eleni.
Yn wir, efallai fy mod i wedi colli cyfle fan yna.
Fel teyrnged i siaradwr y llynedd, ac un o’i rolau a’i ddynwarediadau enwocaf ar lwyfan a ffilm, dylwn i fod wedi dechrau gyda
“Hello, Good Evening, and Welcome”…
Ond o ddifrif, ar ôl cwrdd â Michael a thrafod democratiaeth ac addysg yng Nghymru, dwi’n gwybod ei fod yn rhannu fy angerdd am ymestyn cyfle, grymuso pob dinesydd i gymryd rhan lawn mewn trafodaeth a sgwrs, ac i herio diddordebau a buddiannau breintiedig.
Wrth gwrs, nid yw ei awch am newid yn rhywbeth cwbl anghyfarwydd ymhlith wynebau blaenllaw Hollywood a’r celfyddydau creadigol.
Un rhagflaenydd o’r fath oedd Orson Welles – roedd yn arloeswr o ran sicrhau cyfleoedd i actorion a llenorion du, ymhlith llu o gyflawniadau eraill.
Yn yr wythnos hon - pen-blwydd ei farwolaeth - mae yna ffilm ddogfen newydd ar ei fywyd yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled y DU.
Ac mae’n cynnwys y dyfyniad hwn ganddo, yng Nghynhadledd Addysg Oedolion Los Angeles 1942
“Adult education must first enlist in the war against provincialism.
“Educators, which means every one of us in possession of the instruments of education, are sworn to the tremendous task of telling people about each other – about their works, which are called wisdom and culture.”
Addysg, democratiaeth a chymdeithas - maen nhw yno i gyd yn y dyfyniad byr a chraff hwnnw.
Ac, wrth gwrs, mae’n rhagflaenu ond yn ategu chwyldro hir Raymond Williams, ynghylch y modd rydym ni’n gweld ein byd, ein lle ynddo, sut mae hynny’n cael ei wneud yn real neu’n cael ei newid gan gyfathrebu a diwylliannau torfol, a sut mae diwylliant sefydledig o ddemocratiaeth yn rhagofyniad ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol.
A byddaf yn dychwelyd at y pwyntiau hyn yn y man.
Pe bai Raymond Williams yma heno, efallai y byddai wedi synnu o weld Democrat Rhyddfrydol yn crybwyll ei enw a rhai o’i syniadau. Ond yn ei ddadansoddiad diwylliannol a’i ffuglen, datblygodd ffyrdd o weld y byd, a syniadau ar gyfer ei newid, a ddenodd – ac sy’n parhau i ddenu – radicaliaid o bob lliw a llun.
Mae ei gydnabyddiaeth o gryfderau elfennau amrywiol radicaliaeth Gymreig, ei feirniadaeth o rannau ceidwadol y chwith law yn llaw â’i wrthwynebiad chwyrn i geidwadaeth, a’i haeriad bod y chwith Seisnig yn anghywir yn rhy aml pan fyddant yn diystyru cymunedau gwledig, yn elfennau dwi’n eu hadnabod yn rhy dda!
Cyd-destun
Byddaf, wrth reswm, yn trafod addysg oedolion a’i bwysigrwydd a’i ddylanwad heno.
Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, mae’r cysylltiad rhwng y campws a’r gymuned wedi bod wrth wraidd fy agenda ar gyfer addysg uwch yn arbennig.
Dwi’n falch o weld cynnydd prifysgolion Cymru o ran adennill ymdeimlad o genhadaeth ddinesig – ond mae llawer i’w wneud o hyd.
Ac mae mynd i’r afael â’r dirywiad mewn addysg oedolion – fel rhan o’r broses o newid cymdeithasol a democratiaeth ar ei newydd wedd, heb fod yn gyfyngedig i’r her bwysig o ddatblygu sgiliau – yn rhan annatod o’r genhadaeth barhaus hon.
Fodd bynnag, fel Gweinidog y Cabinet â phortffolio sy’n cynnwys pawb o’n dinasyddion ieuengaf, pobl ifanc yn eu harddegau i fyfyrwyr prifysgol a choleg o bob oed, dwi’n awyddus i wrthdroi’r dulliau a’r dadansoddiad confensiynol. Dwi’n gobeithio y byddwch chi’n barod i mi wneud hynny.
Yma yng Nghymru, rydym yn cyflwyno’r casgliad unigol mwyaf o ddiwygiadau addysg yn unman yn y DU ers yr Ail Ryfel Byd.
- Diwygio ein cwricwlwm a’n trefniadau asesu;
- Ail-lunio’r elfennau pwy, ble a beth ym maes hyfforddiant athrawon;
- Darparu cyllid myfyrwyr sy’n unigryw yn Ewrop ar gyfer cefnogi pob myfyriwr a phob dull dysgu;
- Newid y strwythurau cenedlaethol ar gyfer addysg ôl-orfodol i ddymchwel y rhwystrau sy’n ein hatal rhag cydweithio i ddiwallu anghenion dysgwyr; a
- Lleihau maint dosbarthiadau a rhoi’r adnoddau i athrawon sydd eu hangen arnynt i fod y gorau y gallant fod fel addysgwyr a dysgwyr gydol oes.
A llawer mwy, wrth i ni symud ymlaen â’n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system sy’n destun balchder cenedlaethol a hyder ymhlith y cyhoedd.
Ond, beth ydw i’n ei olygu wrth sôn am wrthdroi’r dadansoddiad confensiynol?
Dwi ddim am edrych ar addysg oedolion fel disgyblaeth sydd wedi’i rhoi o’r neilltu – yn ei bocs ei hun yn rhywle, nad yw’n gysylltiedig â’r genhadaeth genedlaethol honno.
Nid yw’n genhadaeth sy’n dod i ben wrth gatiau’r ysgol.
Yn wir, dwi am ddisgrifio sut mae traddodiad a chenhadaeth hanesyddol addysg – addysg oedolion – sydd wedi’i gwreiddio mewn cymuned, diwylliant a dinasyddiaeth yng Nghymru yn hanfodol i siâp newydd ein system addysg orfodol.
Dwi’n gwerthfawrogi na fydd llawer ohonoch chi yma yn y gynulleidfa hon yn gwbl gyfarwydd â’r holl ddiwygiadau hynny, megis y cwricwlwm newydd, er enghraifft.
Ond rwyf am fanteisio ar y cyfle heno i ddisgrifio fy ymrwymiad i’r diwygiadau hynny.
A pham, a sut, mae’r ymrwymiad hwnnw – personol, polisi ac ie, gwleidyddol – yn cael ei ddylanwadu gan y traddodiadau a’r dibenion hynny.
Rydym yn llunio system sy’n cael ei phweru gan ddibenion a’r math o ddinasyddion yr hoffem eu gweld.
Dwi’n gobeithio, ac yn credu, bod hyn yn ailadrodd yr hyn y byddai Williams wedi’i ystyried yn genhadaeth addysg a oedd heb os yn sicrhau mynediad i’n “national inheritance, available to everyone”.
Felly, dwi eisiau ehangu ychydig ar y cysylltiad hwnnw,
- Beth mae’n ei olygu i ddinasyddiaeth fodern,
- Sut mae’n rhaid i ni gadarnhau’r lles cyffredin a’r buddiannau cyffredin ac osgoi eithafion dianghenraid rhyddfrydiaeth hunaniaeth a chwithiaeth;
- A beth mae’n rhaid i hyn ei olygu ar gyfer symudedd cymdeithasol a newid cymdeithasol.
Dinasyddiaeth Fodern
Byddwn yn cyhoeddi’r cwricwlwm ysgol newydd – sy’n cael ei greu ar y cyd gydag athrawon, prifysgolion, arbenigwyr rhyngwladol a’r gymdeithas ddinesig – adeg y Pasg 2019.
Yna bydd ar gael ar gyfer profion ac adborth, gyda phob ysgol yn cael mynediad i’r cwricwlwm terfynol o 2020 ymlaen, gan roi cyfle iddyn nhw baratoi’n llawn a bod yn barod ar gyfer ei gyflwyno’n statudol ym mis Medi 2022.
Bydd ein cwricwlwm newydd yn cynrychioli’r hyn rydym ni ei eisiau – yr hyn rydym ni’n ei ddisgwyl – i’n dinasyddion i fod yn y dyfodol, i wybod, ac i fod ar eu hennill diolch i’w hathrawon.
Ond mae’r broses o gydweithio i lunio’r cwricwlwm hwnnw yn cynrychioli’r hyn rydym ni eisiau ei gael gan ein system addysg hefyd.
Proffesiwn sy’n cydweithio; sy’n agored i syniadau newydd; sy’n dysgu bob amser ac sy’n ceisio codi safonau ar gyfer pob disgybl.
Ac rydym yn esiampl ryngwladol o’r modd y gellir ymgymryd â diwygiadau addysg blaengar trwy gydweithio, creadigrwydd a hyder.
Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd â Gweinidogion, athrawon ac addysgwyr o bob rhan o Ewrop a Gogledd America dros y misoedd diwethaf ac maent yn gwylio gyda diddordeb brwd, ac yn awyddus i ddysgu o’n dull ni o weithredu.
Er mae arna’i ofn nad yw’r diddordeb hwn a’r awydd i ddysgu yn wir am ein ffrindiau dros y ffin!
Wrth lunio’r cwricwlwm gyda’n gilydd, rydym ni’n buddsoddi mewn cenhadaeth a rennir i ysbrydoli:
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau.
- Cyfranwyr creadigol a mentrus sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
- Dinasyddion moesegol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd; ac
- Unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Yn fy marn i, mae’r pedwar diben hwn yn dwyllodrus o syml.
Mewn gwirionedd, maent yn haeriad radical o hanfodion addysg.
Ond nid mor radical fel eu bod yn gwbl newydd.
Yn wir, gellir tynnu llinell yn ôl i Culture and Society a’r hyn a gynigiodd Williams fel “a full liberal education for everyone”.
Ysgrifennodd:
“Our specialisms will be finer if they have grown from a common culture, rather then being a distinction from it.
And we must at all costs avoid the polarization of our culture, of which there are growing signs.
Every man’s ignorance diminishes me, and every man’s skill is a common gain of breath.’
Rydym yn ffodus bod gennym system addysg gwasanaeth cyhoeddus ffyniannus a theg yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, daw heriau’n sgil hyn.
Yn wahanol i systemau eraill, nid ydym yn gwneud penderfyniad ymwybodol i ddiystyru cyfran sylweddol o ddisgyblion a dewis pwy sy’n ennill a cholli pan fyddant yn 11 oed.
Mae gennym argyhoeddiad moesol.
Addysg gyfun annetholus lle mae sgiliau, gallu a dysgu pob dinesydd yn gwella lles pawb.
Ceir heriau wrth geisio codi safonau i bawb – dim esgusodion, dim disgwyliadau is, dim eithriadau – ond mae’n hanfodol i’n hymdeimlad o bwy ydym ni, addysg i bawb, ac i’r genedl.
Mae’r argyhoeddiad hwn – a’r berthynas â’r hyn a addysgir – yn cael eu mynegi ymhellach yn The Long Revolution.
Roedd syniadaeth Williams ym 1961 ar gyfer cwricwlwm ysgol newydd yn canolbwyntio ar:
- Hanfodion Saesneg a Mathemateg;
- Gwybodaeth gyffredinol amdanom ni ein hunain a’n hamgylchedd;
- Ymarfer ym maes gweithdrefnau democrataidd;
- A gwybodaeth nid yn unig fel disgyblaethau ar wahân ond a geir o’r disgyblaethau cyfnod uwch;
Cyferbynnu a chymharu â’n cwricwlwm seiliedig ar ddibenion yn yr unfed ganrif ar hugain,
- ar draws chwe maes dysgu a phrofiad yn hytrach na phynciau cul;
- yn canolbwyntio ar ddinasyddiaeth Cymru a’r byd;
- gyda safonau uwch o lythrennedd a rhifedd;
- a phobl ifanc sy’n fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog.
Mewn gwirionedd, nid oes fawr ddim cyferbyniad.
Byddwn yn dadlau ein bod yn bwrw ymlaen â hanfodion cwricwlwm Williams trwy ddiffiniadau newydd ar gyfer ein hoes gyfathrebu, ddiwylliannol a thechnolegol.
Ac os oedd angen prawf bod y Llywodraeth hon yng Nghymru, ac ie, y Gweinidog hwn sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol, yn mynd ar drywydd y Chwyldro Hir hwnnw, yna cyflwynodd Williams ei ddiwygiadau ymarferol cychwynnol hefyd cyn newid y cwricwlwm – sef, ac rwy’n dyfynnu:
“Better provision for the training of teachers and for adequate school buildings and reducing the size of classes”
Fe welwch chi hyn oll yn fy Nghytundeb Blaengar gyda’r Prif Weinidog, yn rhaglen bolisi’r llywodraeth, ac yng nghynllun gweithredu’n cenhadaeth genedlaethol!
Gwn i Williams ysgrifennu ar un adeg am “fairly decent but also fairly modest Liberal party”
Wel, gan mai dim ond fi sydd yn y Senedd ac yn y Llywodraeth, does dim dwywaith ein bod yn ddi-nod o ran diffiniad a maint... ond yn sicr nid yn ddi-nod yn ein huchelgais i weddnewid addysg yng Nghymru!
Lles Cyffredin A Buddiannau Cyffredin
Fodd bynnag, dwi eisiau trafod ‘rhyddfrydiaeth’ a’r berthynas rhwng hyrwyddo hunaniaeth gan y chwith rhyddfrydol ym maes addysg a beth allai hynny ei olygu i’n diwylliant a’n cymdeithas ddemocrataidd gyffredin.
Cyn i mi gychwyn y drafodaeth honno, gadewch imi egluro fy mod i’n ystyried buddugoliaethau gwleidyddiaeth flaengar i’n cymunedau amrywiol - ffeministiaeth, cydraddoldeb LGBT, ymwybyddiaeth du, a datganoli democrataidd hyd yn oed – yn gyflawniadau sylfaenol y mae’n rhaid i ni eu dathlu a pheidio byth â bod yn hunanfodlon yn eu cylch.
Fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, roeddwn yn falch o gynnal trafodaeth gyntaf y Senedd erioed ar faterion trawsryweddol, ymhell cyn i’r trafodaethau hyn fod yn fwy prif ffrwd. Ac yn awr, fel Gweinidog Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, dwi’n falch o fod yn llusgo ein cwricwlwm a’n rheolau ysgol i’r unfed ganrif ar hugain fel bod ein hysgolion yn llefydd cynhwysol sy’n parchu hawliau pob disgybl.
Ac wrth gwrs, mae addysg oedolion ei hun wedi bod yn rhan o’r broses honno o newid cymdeithasol a siapio agweddau cymdeithasol ers tro byd.
Ond mae pleidlais Brexit, pleidlais UKIP yn Etholiad Cyffredinol diwethaf Cymru ac, wrth gwrs, llwyddiant Trump yn yr Unol Daleithiau, yn dangos pa mor fregus yw’r datblygiadau hynny.
Mae’n amlwg, pan fydd pobl a chymunedau’n credu bod datblygiadau er budd eraill – yn hytrach nag er eu budd nhw, eu teuluoedd neu gymdeithas yn gyffredinol – byddant yn meddwl nad oes ganddyn nhw ddim i’w golli drwy wneud safiad yn eu herbyn – neu o leiaf anwybyddu’r sefyllfa pan fydd eraill yn ymosod ar y datblygiadau.
Fel y mae Mark Lilla, Athro yn Princeton, wedi dweud mewn perthynas â buddugoliaeth Trump:
“All of us liberals in higher education should take a long look in the mirror and ask ourselves how we contributed to putting the country in this situation. We must accept our share of responsibility.
But it extends beyond feeding the right-wing media by tolerating attempts to control speech, limit debate and stigmatise and bully conservatives, as well as encouraging a culture of complaint that strikes people outside our privileged circles as comically trivial.”
We have distorted the liberal message to such a degree that it has become unrecognisable.”
Aiff ymlaen i ddweud bod y chwith a’r rhyddfrydwyr, ers buddugoliaeth Reagan, wedi:
“Thrown themselves into the movement politics of identity, losing a sense of what we share as citizens and what binds us as a nation.”
Nid yw mor syml â dweud, ‘newidiwch y gair America i Gymru neu’r DU’, ond byddwn yn dadlau bod yna gryn debygrwydd mewn sawl ffordd.
Ac yn hyn o beth, ni allwn ystyried addysg, democratiaeth a chymdeithas yn bethau ar wahân i’w gilydd.
Bûm yn ffodus iawn yn ddiweddar i gael cwrdd â Kerry Kennedy, Llywydd Sefydliad Hawliau Dynol RFK a merch Robert Kennedy, i drafod diwygio’r cwricwlwm. A byddaf yn dychwelyd at y gwaith hwnnw’n ddiweddarach yn fy sylwadau.
Aeth ewythr Kerry, sef Ted Kennedy, i’r afael â’r cydbwysedd gwleidyddol rhwng hunaniaeth a chyffredinedd yn y 1980au. Nododd yr her i’r glymblaid Ddemocrataidd fel hyn:
“There is a difference between being a party that cares about labour and being a labour party.
“There is a difference between being a party that cares about women and being a women’s party.
“And we can and we must be a party that cares about minorities without being a minority party.
“We are citizens first.”
Dwi’n credu y dylai’r system addysg Gymraeg roi ‘dinasyddion yn gyntaf’ hefyd.
Dyna pam, wrth dderbyn y swydd, fe wnes ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i gwricwlwm newydd, a derbyniais gynigion Adolygiad Diamond y dylai cymorth i fyfyrwyr fod yn deg ar draws pob dull a lefel o astudio.
Fe wnaeth erthygl ddiweddar gan David Hughes, Prif Weithredwr yr Association of Colleges in England gryn argraff arnaf fi. Mewn dadl glir o blaid addysg oedolion ac addysg bellach, ysgrifennodd:
“People coming together to learn is often the only time and place they meet people from other walks of life, breaking down the barriers between people. It helps make people feel part of the community, introduces them to new friends and gives them support.”
Hynny yw, y cysyniad o addysg – addysg oedolion – fel ei ffurf ei hun o ofod cyhoeddus.
Yn yr ystafell ddosbarth, yn y gymuned, ac ar-lein.
Yn archwilio a phrofi syniadau a thystiolaeth.
Mae hwn yn syniad twyllodrus o syml. Ond ar adeg pan fo’r syniad o drafodaeth seiliedig ar dystiolaeth wybodus, ac yn wir y syniad sylfaenol o wirionedd, o dan y lach gan rai, mae’n rhan angenrheidiol o’n democratiaeth a’n diwylliant.
Yn union fel y mae hyn yn wir o ran addysg oedolion, mae’n wir ar gyfer addysg wirioneddol gyfun nad yw’n seiliedig ar ddethol na gallu.
Yn yr un modd ag y mae yna her wleidyddol, mae yna her i addysg.
Mae Lilla’n gwneud y gymhariaeth uniongyrchol hon.
Dywed bod addysg flaengar, ryddfrydol hunan-ddiffiniedig a oedd yn canolbwyntio ar ein gwahaniaethau’n rhy aml yn:
“Turns young people back onto themselves, rather than outward to the wider world. Unprepared to think about the common good and what must be done to secure it, especially the hard task of persuading people very different from themselves to join a common effort.”
Rwy’n ystyried – ac mae ein diwygiadau wedi’u seilio ar hyn – y broses addysg yn ymdrech gyffredin ei hun ac ar gyfer gwireddu lles cyffredin.
Ydyn, maen nhw’n cael eu siapio gan wahanol brofiadau, hunaniaethau a safbwyntiau. Heb os.
Ond ni all, ac ni ddylai, nodweddion gwahanol ddiffinio a chyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael.
Mae’n rhaid i ni ochel rhag hyrwyddo ymwybyddiaeth hunaniaeth ryddfrydol fel bod yn bartner yn enciliad addysg ryddfrydol, eang, genedlaethol sy’n cynnwys pawb mewn ymdrech gyffredin.
Ymdrech gyffredin sy’n annog cwestiynu a herio.
Herio ffyrdd sefydledig o feddwl a threfnu.
Ond hefyd herio’r diffiniadau a’r gwahaniaethau hynny lle bo hynny’n briodol.
Bod yn chwilfrydig ynghylch eraill a’r byd ehangach y tu hwnt i’ch hunaniaeth eich hun – sut bynnag rydych chi’n dewis ei ddiffinio.
Cyfres gyffredin o ddibenion, ond yn seiliedig ar gyfuno’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n galluogi dinasyddion unigol i ddod yn rhan o’r broses honno o newid cymdeithasol.
Symudedd Cymdeithasol A Newid Cymdeithasol
Sy’n dod â mi at fy nhrydedd thema, a’r un derfynol - symudedd cymdeithasol a newid cymdeithasol.
Fel y soniais yn gynharach, rydym ni’n adeiladu system addysg sy’n ceisio sicrhau tegwch a rhagoriaeth gyda’i gilydd.
Fel dwi wedi dweud yn glir, dwi’n credu y dylem ni fod yn falch ein bod wedi cyflwyno gwerthoedd a dibenion ein cenhadaeth addysg genedlaethol.
Fodd bynnag, dwi'r un mor glir bod rhaid i ni ochel rhag y syniad bod cael set o werthoedd yn amcan ynddo’i hun.
Yn anffodus, yn rhy aml mae yna rai sy’n gweld tegwch a chydraddoldeb mewn addysg fel diben ynddo’i hun.
Ni allwn ganiatáu unrhyw fath o gonsensws blaengar clyd yn hyn o beth.
Dwi wedi sôn eitha’ tipyn am bedwar diben ein cwricwlwm.
Datblygiad pobl ifanc foesegol a gwybodus sy’n barod i gyfrannu a bod yn ddinasyddion.
Fy nadl i yw mai’r dibenion hynny yw’r sylfeini ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol a newid cymdeithasol.
I rymuso’n dinasyddion ieuengaf gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i newid cymdeithas, nid dim ond i ddeall cymdeithas a derbyn lle gallen nhw fod yn rhan ohoni.
Mae Sefydliad Hawliau Dynol RFK, fel y soniais yn gynharach, yn gwneud gwaith rhyngwladol ar ddatblygu’r cwricwlwm, gan gyflwyno materion hawliau dynol drwy straeon am bobl o bob cwr o’r byd.
Mae hyn wedyn yn grymuso myfyrwyr i gymryd rhan yn bersonol mewn materion yn ymwneud â hawliau ac eiriolaeth, trwy gysylltiadau rhwng mathemateg a threthiant corfforaethol, cyflenwad bwyd a llafur plant ac ati.
Teitl y gwaith hwn yw ‘Speaking Truth to Power - Changing our World’ – sy’n cyfeirio’n ôl at fy thema flaenorol.
Os ydym ni’n canolbwyntio gormod ar ba focs y gallai myfyriwr berthyn iddo, yna ni fydd byth yn dianc o’r bocs hwnnw. Dyna pam y gwnes gymryd y cam i newid enw’r ‘Grant Amddifadedd Disgyblion’ i ‘Grant Datblygu Disgyblion’ – yr un adnoddau o hyd sy’n targedu ein disgyblion tlotaf yn uniongyrchol, ond gan ganolbwyntio ar gynnydd dysgwyr.
Fel y ysgrifennodd Williams ynghylch pwrpas addysg:
“The process of giving to the ordinary members of society its full common meanings, and the skills that will enable them to amend those meanings, in the light of their personal and common experience.”
Mae ein hysgolion, colegau, prifysgolion a dosbarthiadau addysg oedolion yn dwyn dinasyddion Cymru o bob lliw, credo a chefndir at ei gilydd.
Cânt eu dwyn ynghyd mewn ymdrech gyffredin ac yn fuan trwy gwricwlwm newydd a ddatblygir trwy ymdrech gyffredin.
Ond a yw’r ymdrech gyffredin honno’n sicrhau ein bod ni’n newid cymdeithas ac yn diwygio’r ystyron hynny fel y dywedodd Williams?
Y gwir amdani yw nad ydym ni yno eto.
- Rwy’n siŵr y bydd yn sioc i chi glywed bod gennym lai na 400 o athrawon o gefndir du neu leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, a dim ond 4 pennaeth;
- Mae canran ein poblogaeth sydd â chymwysterau lefel uwch yn dal i fod 3% yn is na chyfartaledd y DU.
- Ac mae’r dilyniant i astudiaeth ôl-raddedig yn rhai o’n cymunedau yn y Cymoedd yn hanner y gyfradd yma yng Nghaerdydd, gyda chyfran y bobl ifanc 18 oed sy’n mynd i addysg uwch yn y lle cyntaf ymhell ar ei hôl hi eisoes.
Tri maes yn unig yw’r rhain sy’n dangos yr heriau sy’n dal i fod o’n blaenau.
Fodd bynnag, dwi’n hyderus y bydd diwygiadau i gymorth i fyfyrwyr, ehangu llwybrau prentisiaeth a chyfleoedd hyfforddiant athrawon yn helpu i fynd i’r afael â’r rhain i ryw raddau.
Ond ymhellach, rwy’n cydnabod y rôl y mae’n rhaid i addysg oedolion ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r meysydd hyn a meysydd eraill y genhadaeth genedlaethol.
Er enghraifft, rydym wedi cychwyn ar ddiwygiadau fel ein bod yn gwneud mwy i ddenu gweithwyr anhraddodiadol i’r proffesiwn addysgu.
Mae hyn yn cynnwys darparu cymhwyster addysgu rhan-amser trwy fodel dysgu cyfunol. Bydd hyn yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn niwtral yn ddaearyddol. Bydd yn galluogi myfyrwyr rhan-amser i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y trefniadau cyllid myfyrwyr newydd hefyd.
Ac mae’r diwygiadau cyllid myfyrwyr hynny yn cael effaith sylweddol ar recriwtio myfyrwyr rhan-amser yng Nghymru yn barod. Mae’n ddyddiau cynnar, ond dwi’n deall fod y Brifysgol Agored yn gweld cynnydd canrannol sy’n cyrraedd ffigurau dwbl.
I mi - cynnydd mewn astudiaeth ran-amser ac ôl-raddedig - yn enwedig o gefndiroedd anhraddodiadol ac ymhlith dysgwyr aeddfed, yw’r prawf go iawn o radicaliaeth ein diwygiadau cymorth i fyfyrwyr. A hyd yn hyn, diolch i ymdrech ar y cyd, rydym ni’n pasio’r prawf hwnnw.
Casgliad
Ond fi fyddai’r cyntaf i gyfaddef bod yna dipyn o ffordd i fynd o hyd – mewn cyfnod parhaus o adnoddau llai a chyfyngedig – i sicrhau bod addysg oedolion a dysgu gydol oes yn rhan o drefn naturiol o broses benderfyniadau prifysgolion, colegau, cynghorau ariannu a’r llywodraeth.
Byddwch yn fy adnabod i’n ddigon da i gydnabod, fel y dywedais ar y dechrau, fy mod i’n gweld addysg oedolion ac ymgysylltu â’r gymuned yn rhan annatod o genhadaeth ddinesig addysg ôl-orfodol.
Nid wrth ddarparu cyrsiau’n unig, ond o ran sut mae profiadau a diddordebau cymunedol yn llywio gwaith ymchwil a gweithgareddau prifysgol eraill y tu hwnt i’r ddarlithfa.
Dwi wedi gofyn i CCAUC gyflwyno adroddiad i mi ar y mater hwn erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd hyn yn berthnasol i’r buddsoddiad cenhadaeth ddinesig a ddygwyd ymlaen yn dilyn fy llythyr cylch gwaith diweddaraf, ond ni chaiff ei gyfyngu gan hynny.
Ar ôl i mi dderbyn yr adroddiad hwnnw, byddaf yn ei ystyried yng nghyd-destun ein cynlluniau ar gyfer Comisiwn Addysg Drydyddol newydd.
Ond fel dwi wedi egluro heno, mae’r ethos a’r traddodiad hwn yn ddylanwadol mewn sawl ffordd.
Dwi’n gobeithio fy mod wedi llwyddo i gyflwyno’r achos – beiddgar fel y bo – y mae ein cenhadaeth genedlaethol bresennol i ddiwygio addysg wedi’i hetifeddu gan Raymond Williams a hanfodion traddodiad addysg oedolion yng Nghymru.
Amgylchiadau sydd wedi newid, ie yn bendant – ond mae ein hathrawon a’n myfyrwyr yn camu ymlaen yn ysbryd y chwyldro hir.
Cwricwlwm a system addysg sydd, fel y dymunai Williams, yn rhoi cyfle i bawb “grasp the real nature of our society”.
Ac mewn Cymru hyderus a democrataidd lle, fel yr ysgrifennodd yn Long Revolution, mae yna system o “public education designed to express and create the values of an educated democracy and a common culture”.
Yn ei nofel ‘The Fight for Manod’, mae Williams yn cyflwyno golygfa derfynol lle mae dau o’r prif gymeriadau yn gyrru i un o’r bylchau uchel ym Mannau Brycheiniog. Wrth wneud hynny, llwyddodd Williams i gyfleu’r newid economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru dros y ganrif flaenorol. Dwi am ddyfynnu ohoni nawr:
Where they were standing, looking out, was a border in the earth and in history: to north and west the great expanses of a pastoral country; to south and east, where the iron and coal had been worked, the crowded valleys, the new industries, now in their turn becoming old. There had been a contrast, once, clearly seen on this border, between an old way of life and a new… But what was visible now was that both were old. The pressure for renewal, inside them, had to make its way through a land and through lives that had been deeply shaped, deeply committed, by a present that was always moving, inexorably, into the past.
Nawr, dyna beth yw golygfa – o dirwedd ac o hanes a rennir – y byddaf yn ei gweld a meddwl amdani bob wythnos wrth i mi deithio o Aberhonddu i Fae Caerdydd.
Yr her sy’n ein hwynebu o hyd yng Nghymru yw her adnewyddu: yr economi, diwylliant a democratiaeth – a dwi’n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod yr her yn debygol o droi’n anoddach yn y blynyddoedd, yn tydyn ni?
Dim ond trwy adeiladu system addysg sy’n ceisio creu diwylliant cyffredin a’r syniad o ddinasyddiaeth a rennir o’n cwricwlwm newydd hyd at addysg oedolion y gallwn sicrhau’r adnewyddu hwnnw, a’r cyfiawnder cymdeithasol sy’n gorfod bod yn rhan ohono.
Fe ddechreuais i heno trwy wneud cysylltiad rhwng Williams ac Orson Welles.
Wrth gloi ei sylwadau i’r Gynhadledd Addysg Oedolion honno ym 1942, dywedodd Welles:
“The new elements of mass education will be to the dark places of the human mind as bright sunlight is to the crawling things under a lifted stone.
“The vermin and bacteria of intolerance cannot survive in the bright gleaming light of understanding”.
Prin mai tasg rwydd yw’r ymdrech ar y cyd ar draws ein system addysg i godi safonau, sicrhau tegwch a rhagoriaeth law yn llaw, ac ysbrydoli cenedlaethau o ddinasyddion gwybodus a mentrus.
Mae gennym ein fersiwn genedlaethol ein hunain o godi’r garreg drom honno.
Ydyn, rydym ni’n wynebu cyfnod anodd, ond fe allwn ni weld dechrau golau’r haul disglair hwnnw eisoes,
A mawr yw ein dyled am ein dealltwriaeth ohono a’i botensial ar gyfer newid:
I Raymond Williams,
I hanes addysg oedolion yng Nghymru,
Ac i ymdrechion addysgwyr y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Diolch.