Bydd yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yng Nghymru yn cael ei chynnal heddiw (dydd Sadwrn 3 Rhagfyr).
Bydd Uwchgynhadledd Archwilio Diwygio Radical, a gynhelir yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, yn dwyn ynghyd bobl ifanc sydd â phrofiad o fyw mewn gofal a Gweinidogion Llywodraeth Cymru er mwyn iddynt archwilio diwygiadau amrywiol i’r system ofal i bobl ifanc yng Nghymru.
Bydd 40 arweinydd ifanc sydd â phrofiad o ofal yn bresennol yn yr uwchgynhadledd. Bydd yr actor Michael Sheen, un o noddwyr Voices from Care Cymru, hefyd yn rhoi neges yn yr uwchgynhadledd drwy fideo.
Mae’r uwchgynhadledd yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio diwygiadau radical i wasanaethau gofal i blant. Bydd y Prif Weinidog yn bresennol, yn ogystal â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Meddai Brendan Roberts, llysgennad ifanc ac un o gyd-gadeiryddion yr uwchgynhadledd:
Mae’r Llysgenhadon Ifanc i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at yr uwchgynhadledd. Dyma gyfle unigryw i Weinidogion Cymru glywed am brofiadau bywyd go iawn plant a phobl ifanc sydd mewn gofal, neu sydd wedi bod mewn gofal, ac i ddeall yr angen am newid o’n safbwynt ni. Byddwn yn datblygu gweledigaeth a rennir o beth fydd gwasanaethau wedi eu diwygio’n radical yn ei olygu i blant a phobl ifanc a beth fyddant yn ei gyflawni.
Yr un mor bwysig – nid digwyddiad unigol yw hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidogion ar ôl yr uwchgynhadledd, i rannu’r weledigaeth gyda phawb sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a datrys sut i droi’r weledigaeth yn realiti.
Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford:
Rydym wedi ymrwymo i archwilio diwygiadau radical i wasanaethau gofal plant a phobl ifanc. Er mwyn gwneud hynny’n llwyddiannus, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth graidd y sgyrsiau hynny a sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n llawn ag unrhyw newidiadau rydym am eu gwneud i’r system.
Meddai Michael Sheen:
Fel un o noddwyr Voices From Care Cymru rwy’n falch o weld Gweinidogion Cymru yn rhoi o’u hamser i wrando ar bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Dim ond os bydd eu lleisiau nhw’n cael eu clywed a’u hawgrymiadau’n cael eu derbyn y bydd y Llywodraeth yn gallu gwneud y diwygiadau radical hyn sydd mor angenrheidiol i’r gwasanaethau.
Rwyf mor falch o’n Llysgenhadon Ifanc. Bydd eu dewrder wrth rannu eu profiadau, sy’n aml yn boenus, eu gwaith caled a’u hymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal.
Meddai’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Mae’r gwaith hanfodol hwn yn golygu newid i bob rhan o’r system ofal i blant a phobl ifanc, gan sicrhau y byddant ond yn mynd mewn i ofal pan mai dyma’r dewis gorau ar eu cyfer nhw, a hynny mewn amgylchedd lle maent yn ddiogel ac yn iach, ac amgylchedd sy’n eu helpu i ddatblygu fel unigolion.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr uwchgynhadledd, a fydd yn dwyn pobl ifanc a ninnau fel Gweinidogion y Llywodraeth ynghyd er mwyn inni allu dysgu’n uniongyrchol o’u profiadau, a rhoi’r hyn y byddwn yn ei ddysgu ar waith.