Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, £2.5m o gyllid gan yr UE i greu canolfan ymchwil newydd ym Mhrifysgol Abertawe. Ei nod fydd ehangu'r farchnad fyd-eang ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag oedran.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r prosiect yn adeiladu ar yr arbenigedd ymchwil blaengar sydd gan Brifysgol Abertawe mewn perthynas â heneiddio, iechyd a gwyddorau bywyd. Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Bydd Sefydliad y Diwydiannau Heneiddio Creadigol ar gampws Parc Singleton ym Mhrifysgol Abertawe, a bydd yn gweithio gyda’r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru i fynd i'r afael â'r heriau sy'n effeithio ar fywyd hamdden a bywyd gwaith pobl hŷn.

Bydd yn cynnwys labordy byw a fydd yn ail-greu a dynwared ffactorau bywyd go iawn sy'n effeithio ar y boblogaeth sy'n heneiddio. Bydd hefyd yn sicrhau bod pobl hŷn wrth galon y gwaith o ddatblygu a phrofi cynnyrch, amgylcheddau a gwasanaethau prototeip.

Bydd y Sefydliad yn creu swyddi ymchwilio newydd, a bydd yn canolbwyntio ar dri phrif faes:

  • datblygu profiadau, cynnyrch a gwasanaethau prototeip sy’n rhoi hwb i iechyd a llesiant
  • cyd-greu dyluniadau effeithiol ar gyfer llefydd sy'n addas i bobl hŷn ac sy'n cefnogi pobl â dementia
  • dysgu beth sydd ei angen i ddarparu llefydd gwaith addas i bobl hŷn yn y diwydiannau creadigol

Fel rhan o'r prosiect, mae'r Brifysgol hefyd yn ceisio sicrhau o leiaf £4.5m arall o incwm ymchwil a buddsoddiad yn y diwydiant.

Dywedodd Jeremy Miles:

"Yn sgil gwelliannau o ran gofal iechyd, tai a safonau byw, ynghyd â gwell ymwybyddiaeth o hunanofal, mae pobl yn byw yn hirach. Mae mwy o bobl o oedran pensiwn erbyn hyn nag sydd o blant o dan 16 oed.

"Mae manteision amlwg yn deillio o weithio mor agos gyda phobl hŷn. Y bobl hŷn eu hunain fydd y defnyddwyr yn y pendraw, a gallant hefyd rannu eu doethineb yn sgil eu profiadau bywyd a'r hyn y maent wedi'i ddysgu ar hyd y blynyddoedd.

"Bydd y gwaith ymchwil newydd a gwreiddiol hwn yn golygu y bydd Cymru yn arwain y farchnad fyd-eang ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag oedran, gan feddwl am syniadau uchelgeisiol i gefnogi ein dinasyddion hŷn. Mae cronfeydd yr UE yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o foderneiddio ein heconomi, ac maent yn rhoi hwb i gynhyrchiant drwy sicrhau y gall bobl fyw bywyd egnïol hirach a gwell."

Dywedodd Dr Charles Musselwhite, cyd-arweinydd y prosiect a Chyfarwyddwr Dros Dro Canolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe:

"Rydym yn falch o sefydlu yr hyn yr ydym yn credu sy'n gynllun cwbl unigryw. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio a allai wirioneddol elwa ar gynnyrch a gwasanaethau sy'n cael eu datblygu gan ein sector diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan gynnwys celfyddydau, crefftau, cyfryngau, darlledu a thechnoleg glyfar ac arloesol.

"Byddwn yn creu lle i fusnesau ac entrepreneuriaid weithio'n agos gyda phobl hŷn, elusennau, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, gan gyd-greu prototeipiau a allai ddod yn gynnyrch a gwasanaethau newydd ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio. 

"Rydym yn gwneud hyn drwy ddull labordy byw a fydd yn defnyddio model prif ganolfan a lloerennau. Bydd y brif ganolfan yn cynnwys Cyfleuster Byw Dyddiol pwrpasol ar gyfer pobl hŷn, y cyntaf o'i fath erioed hyd ag y gwyddom. Bydd hefyd yn cynnwys model o ystafell y gellir ei newid yn ystafell fyw, ystafell fwyta neu gegin i ddatblygu a phrofi cynnyrch, ystafell rhith-wirionedd a labordy ar ffurf caffi y bydd pobl yn gallu dianc iddo.

"Mae'r canolfannau lloeren yn cynnwys llefydd cymunedol fel cartrefi gofal, canolfannau cymunedol, caffis a chlybiau i brofi a datblygu cynnyrch a gwasanaethau. Rydym yn gobeithio sicrhau mai Cymru yw'r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo, gan chwarae rhan allweddol yn y diwydiannau creadigol ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio."

Ers 2007, mae prosiectau a ariennir gan yr UE yng Nghymru wedi creu 48,500 o swyddi a 13,000 o fusnesau newydd, gan gynorthwyo 26,000 o fusnesau a helpu 89,000 o bobl i gael gwaith.