Cyhoeddiad o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd byddent yn arwain prosiect newydd i helpu i ddatblygu polisïau a fydd yn hybu economïau rhanbarthol.
Bydd y cwmni arbenigol hwn o Baris yn defnyddio ei brofiad rhyngwladol helaeth o ddatblygu economïau rhanbarthol i ddarparu her a chyngor manwl i Lywodraeth Cymru wrth iddi weithredu ei Chynllun Gweithredu ar yr Economi a datblygu cynlluniau newydd ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit.
Fel sefydliad sydd ar flaen y gad yn y maes, bydd yr OECD yn helpu i sicrhau y bydd Cymru yn elwa ar fodel rhanbarthol o ddatblygu’r economi yn y dyfodol a bod arferion da rhyngwladol yn rhan o’r model hwnnw.
Mae’r corff rhyngwladol hwn wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru o’r blaen pan luniodd adroddiad pwysig yn 2014 i helpu i wella ysgolion yng Nghymru. Ers hynny, mae wedi helpu Llywodraeth Cymru i ddiwygio ysgolion.
Fel rhan o'r prosiect newydd hwn bydd arbenigwyr rhyngwladol yn ymweld â Chymru ac yn trafod heriau a chyfleoedd economaidd rhanbarthol gyda phartneriaid. Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn cymorth newydd ar gyfer gweithredu a hefyd feincnodau rhyngwladol clir at ddiben monitro perfformiad.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae'n Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi yn golygu newid sylweddol iawn o ran polisi ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn derbyn y cyngor rhyngwladol gorau posibl a'r her ryngwladol fwyaf er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau economaidd.
"Mae'r newidiadau yr ydym wedi'u disgrifio drwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi er mwyn hybu economïau rhanbarthol ar draws Cymru yn rhai arwyddocaol. Yr un mor arwyddocaol yw'n uchelgais ar gyfer gwaith partneriaeth mwy cadarn yng Nghymru er mwyn hybu twf cynhwysol a chynaliadwy. Yr OECD yw'r sefydliad gorau posibl i'n helpu i gyflawni hyn.
"Rydym wedi gofyn i'r OECD ein cynghori ynghylch sut y gallwn atgyfnerthu llywodraethu economaidd, meithrin capasiti a'n helpu i weithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig er mwyn llunio polisïau, a hynny drwy ddatblygu pecyn cymorth ymarferol ar ein cyfer ni a'n partneriaid fel y gallwn gefnogi'r newidiadau hynny.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod Cymru'n parhau i allu cystadlu a'n bod yn cymharu ein hunain yn erbyn y goreuon ac yn dysgu o syniadau gwych a syniadau arloesol a newydd o bob ban byd."
Dywedodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles:
"Mae buddsoddiad rhanbarthol gan yr UE wedi ein helpu i wella ein heconomi ond mae angen rhagor o fuddsoddiad ar Gymru er mwyn mynd i'r afael â'r heriau economaidd strwythurol rydym yn parhau i'w hwynebu. Rydym yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i roi'r £370 miliwn y flwyddyn i ni yr ydym yn ei dderbyn ar hyn o bryd drwy'n cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, gan gadw at yr addewidion a wnaed yn ystod yr ymgyrch lle addawyd na fyddai Cymru ar ei cholled a lle addawyd mai Llywodraeth Cymru fyddai'n parhau'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd yng Nghymru ar ôl i ni ymadael â'r UE.
"Bydd ein prosiect â'r OECD yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod gan Gymru'r polisïau a'r strwythurau cywir ar gyfer sefydlu trefn ym maes buddsoddiad rhanbarthol a fydd yn disodli cronfeydd rhanbarthol yr UE. Bydd y drefn hon yn cyd-fynd â'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Nid ein nod yw efelychu model yr UE yng Nghymru, eithr rydym yn awyddus i greu dull newydd ac unigryw i Gymru sy'n adlewyrchu arferion gorau rhyngwladol, sy'n adeiladu ar drefniadau deddfwriaethol a pholisi unigryw Cymru ac sy'n cyflawni dros ein pobl, ein busnesau a'n cymunedau.
"Bydd y bartneriaeth hon â'r OECD yn helpu i atgyfnerthu'r gwaith hwnnw a bydd yn rhoi'r hyder i'n partneriaid fod modd meithrin partneriaethau newydd a deinamig er mwyn arloesi a chysylltu polisïau mewn ffyrdd blaengar a dychmygus."