Neidio i'r prif gynnwy

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol a thelerau ac amodau cyflogaeth eraill gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector a datblygiad gweithlu medrus priodol. 

Mae'r canlynol yn aelodau o'r Panel:

  • Cadeirydd
  • aelod annibynnol (arbenigwr amaethyddiaeth)
  • aelod annibynnol (arbenigwr addysg)
  • 2 gynrychiolydd o'r undeb UNITE
  • 1 cynrychiolydd o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru)
  • 1 cynrychiolydd o Undeb Amaethwyr Cymru (UAC)

Mae'r Panel yn gyfrifol am ddrafftio'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) (y Gorchymyn), sy'n nodi cyfraddau tâl isaf, lwfansau a thelerau cyflogaeth teg ar gyfer gweithwyr amaethyddol. Bob blwyddyn, mae'r Panel yn defnyddio ei wybodaeth a'i arbenigedd yn y diwydiant i adolygu'r Gorchymyn, gan ystyried yr amodau economaidd cyfredol a gofynion cyfreithiol. Yna maent yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau a argymhellir cyn eu cyflwyno i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo.

Ar ôl i'r Senedd ei gymeradwyo, bydd gan y Gorchymyn awdurdod cyfreithiol yng Nghymru.

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2025, sy'n cymryd lle Gorchymyn 2024, yn cynnwys sawl diweddariad.  Mae'r crynodeb hwn yn tynnu sylw at y prif newidiadau a'u goblygiadau i weithwyr amaethyddol a chyflogwyr yng Nghymru. 

Cyfraddau tâl uwch

Bydd cyfraddau tâl isaf pob gradd yn cael eu codi. Bydd y cyfraddau cyflog newydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2025 ac maent fel a ganlyn: 

Categori GweithiwrCyfraddau 2024 (yr awr)Cyfraddau 2025 (yr awr)
A1 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (16-17 oed)£6.56£7.55
A2 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (18-20 oed)£8.82£10.00
A3 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (21+ oed)£11.73£12.21
B1 – Gweithiwr Amaethyddol (16-17 oed)£6.56£7.55
B2 – Gweithiwr Amaethyddol (18-20 oed)£8.82£10.00
B3 – Gweithiwr Amaethyddol (21 oed+)£11.79£12.59
C – Gweithiwr Amaethyddol Uwch£12.27£13.48
D – Uwch-weithiwr Amaethyddol£13.46£14.79
E – Rheolwr Amaethyddol£14.77£16.23

Cyfraddau tâl isaf i brentisiaid 

Categori GweithiwrCyfraddau 2024 (yr awr)Cyfraddau 2025 (yr awr)
Prentis Blwyddyn 1£6.40£7.55
Prentis Blwyddyn 2 ac wedi hynny (16–17 oed)£6.40£7.55
Prentis Blwyddyn 2 ac wedi hynny (18 – 20 oed)£8.60£10.00
Prentis Blwyddyn 2 ac wedi hynny (21+ oed)£11.44£12.21

Mae'r bandiau oedran ar gyfer prentisiaethau yn gyson â'r rheini o dan yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol / Cyflog Byw Cenedlaethol. 

Newidiadau i'r lwfansau

Mae'r holl lwfansau wedi codi 10%.

  • lwfans cŵn: £11.18 yr wythnos y ci, os oes angen i'r gweithiwr gadw ci ar gyfer ei swydd
  • lwfans ar alwad: tair gwaith cyfradd yr awr y gweithiwr am bob cyfnod y mae ar alwad. Os yw'n cael ei alw i weithio, caiff ei dalu am yr oriau a weithir, gan gynnwys goramser os yw'n berthnasol
  • atodiad gwaith nos: £2.12 yr awr am weithio rhwng 7pm a 6am, heb gynnwys y ddwy awr gyntaf
  • grant geni a mabwysiadu: £87.85 am bob plentyn ar ôl ei eni neu ei fabwysiadu

Lwfans gwrthbwyso llety

Gellir tynnu’r llety a ddarperir gan gyflogwr wrth gyfrifo'r Isafswm Cyflog Amaethyddol. Dyma'r cyfraddau ar gyfer 2025:

  • tŷ: £1.97 yr wythnos
  • mathau eraill o lety: £6.31 y dydd (ar yr amod bod y gweithiwr wedi gweithio o leiaf 15 awr yr wythnos honno)

Rheolau goramser wedi'u symleiddio

Mae’r term “oriau sylfaenol” bellach yn golygu hyd at uchafswm o 39 awr yr wythnos neu oriau eraill y cytunwyd arnynt yng nghontract y gweithiwr neu’r brentisiaeth. Amcan hyn yw ei gwneud yn glir y bydd gweithiwr amaethyddol yn cael tâl goramser dim ond ar ôl iddo weithio ei holl oriau rheolaidd mewn wythnos. Mae’n cael gwared ar y syniad bod goramser yn cael ei dalu ar ôl gweithio diwrnod gwaith 8 awr. Dywed hefyd y dylai gweithiwr rhan-amser gael ei dalu am unrhyw oriau y bydd wedi’u gweithio ar ben ei oriau arferol.

Bydd y newid hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i estyn diwrnod gwaith y tu hwnt i'r 8 awr os bydd anghenion busnes y fferm yn gofyn am hynny (heb weithio goramser) gan gael gwared ar yr anomaledd lle ceir talu goramser cyn bod oriau gwaith sylfaenol yr wythnos wedi'u gweithio. 

Dileu'r ddarpariaeth diogelu tâl

Cafodd y ddarpariaeth ei chyflwyno i ddiogelu cyflogau gweithwyr amaethyddol pan newidiwyd y system raddio ym mis Ebrill 2022. Sicrhaodd na welai gweithwyr ostyngiad yn eu cyflog wrth uno â gradd newydd. Roedd y ddarpariaeth yn rhewi cyflog ar y pwynt uno â'r radd newydd, os oedd y gyfradd fesul awr ar y radd newydd yn is. Nid oes angen yr amddiffyniad hwn mwyach o dan gyfraddau tâl isaf newydd 2025 gan eu bod yn uwch na chyfraddau 2022 ar gyfer graddau tebyg. 

Costau hyfforddi

Mae'r rheolau ynghylch costau hyfforddi wedi cael eu diweddaru er mwyn i gyflogwyr allu adennill y costau hyn os bydd gweithiwr yn gadael ei swydd yn ystod yr hyfforddiant neu o fewn 12 mis wedi'i gwblhau. 

Yr unig gostau y gellir eu hadennill yw'r rheini a dalwyd gan y cyflogwr ac nid y rheini a ddarperir gan drydydd parti. Ni chaiff cyflogwr adennill ei gostau chwaith os yw'n terfynu swydd, oni bai bod y swydd yn cael ei therfynu oherwydd camymddwyn difrifol. 

Mae hon yn rheol gyffredin mewn sawl sector a'i nod yw sicrhau tegwch rhwng cyflogwyr a gweithwyr amaethyddol.

Hawl i wyliau a thâl gwyliau

Mae bellach yn haws cyfrifo hawl gwyliau a thâl gwyliau ar gyfer y gweithwyr hyn ac mae'n seiliedig ar ddiweddariadau i Reoliadau Amser Gwaith 1998. Yn hytrach na defnyddio cyfnod o 52 wythnos i gyfrifo tâl gwyliau, gellir cyfrif canran yn seiliedig ar hawl wythnosol y gweithwyr amaethyddol sy'n bodloni'r diffiniad o weithwyr sy'n gweithio rhan o flwyddyn neu oriau afreolaidd o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998, i wyliau. 

Absenoldeb heb dâl

Mae'r ddarpariaeth ynglŷn â gwyliau di-dâl wedi'i newid i gydnabod rhwymedigaethau statudol cyflogwyr mewn perthynas ag Absenoldeb i Ofalwyr, Absenoldeb i Rieni a mathau eraill o absenoldeb statudol o dan Reoliadau Absenoldeb Gofalwyr 2024, Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhiant etc 1999 a Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Bydd y diweddariad hwn yn sicrhau nad yw gweithwyr amaethyddol yn cael eu hatal rhag cymryd gwyliau di-dâl pan fydd ganddynt hawl statudol iddynt. Er enghraifft, o dan Reoliadau Absenoldeb Gofalwyr, ni caiff cyflogwr wrthod cais am absenoldeb i ofalu gan weithiwr amaethyddol cymwys. Caiff ohirio'r absenoldeb, ond dim ond os y cytunir ar ddyddiad arall sy'n digwydd o fewn mis i'r dyddiad y gofynnwyd amdano. 

Mae'n drosedd peidio â thalu gweithwyr amaethyddol o leiaf yr Isafswm Cyflog Amaethyddol.