Gwybodaeth am fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu i ryw raddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Medi 2020 i Awst 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Yr iaith Gymraeg mewn addysg uwch
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Mae nifer y myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch sy’n derbyn rhywfaint o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu o 5,635 yn 2019/20 i 6,940 yn 2020/21. Yn 2020/21, roedd 5% o’r holl fyfyrwyr yn derbyn rhywfaint o’u haddysg yn Gymraeg.
- Modylau addysg ac addysgu oedd â’r nifer mwyaf o fyfyrwyr yn astudio rhai credydau yn Gymraeg, gyda 1,315.
- Roedd 30% o'r myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ac sy’n ystyried eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yn astudio rhan o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 8% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf (120 credyd yn Gymraeg).
- Mae nifer y staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (ac eithrio’r Brifysgol Agored) wedi gostwng 7% o gymharu â 2019/20.
- Mae nifer y staff sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (ac eithrio’r Brifysgol Agored) wedi gostwng 4% ers 2019/20.
Adroddiadau

Yr iaith Gymraeg mewn addysg uwch, Medi 2020 i Awst 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 591 KB
PDF
591 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Yr iaith Gymraeg mewn addysg uwch, Medi 2020 i Awst 2021: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 505 KB
PDF
505 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Abi Woodham
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.