Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyllid grant yw un o fecanweithiau pwysicaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni blaenoriaethau Gweinidogol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i ddiogelu cyllid cyhoeddus, gan sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n dda a dim ond yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd. Fel rhan o gyflawni ein dyletswydd, mae'n hanfodol bod gan y cyhoedd hyder yn y sawl sy'n cael grantiau.

Mae'r mwyafrif o sefydliadau sy'n gwneud cais am gyllid grant Llywodraeth Cymru neu'n ei gael yn rhannu'r un weledigaeth o gynnal y safonau uchaf mewn perthynas ag ymddygiad ac uniondeb drwy fyw a meithrin tegwch, cydraddoldeb, a gwerthoedd cyhoeddus craidd eraill  sydd wrth wraidd polisïau Llywodraeth Cymru. Mae effaith gwireddu'r gwerthoedd hyn yn sylweddol, gan ysgogi newid cadarnhaol a phwerus mewn diwylliant sydd o fudd i bob un ohonom, y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yr ydym yn rhan ohonynt.

Diben

Bwriedir i'r ddogfen hon amlygu ac egluro'r mathau o ymddygiadau, diwylliannau a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn cael eu 'gwireddu' gan y sawl sy'n cael grantiau ganddi. Mae hefyd yn amlinellu'r hyn y gall Llywodraeth Cymru fel Cyllidwr ei wneud, os bydd sefydliad sydd wedi cael grant yn methu â chynnal y gwerthoedd a'r ymddygiadau craidd hyn.

Gwerthoedd craidd Llywodraeth Cymru

Rhan annatod o ddull Llywodraeth Cymru o gyflawni ei holl swyddogaethau yw i roi sylw i gydraddoldeb, ac ystyried effaith polisïau ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys, er enghraifft, oedran; rhywedd; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol). Nodir y rhain ymhellach yn Nyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lywio gwrth-hiliaeth a gwrth-ormes, dim goddefgarwch o fwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, cam-drin, camfanteisio neu unrhyw fath o ymddygiad a diwylliant amhriodol. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i sefydliadau drin eu staff, gwirfoddolwyr, neu unrhyw bersonau sy'n gysylltiedig â gwaith y sefydliad ac yn chwarae rhan weithredol ynddo, yn deg.

Llywodraethu

Rydym am weithio gyda sefydliadau sy'n ymfalchïo yn eu henw da, yr hyn y maent yn ei gyflenwi, a'u hymddygiad. Mae gan sefydliadau sy'n cael eu rhedeg yn dda strwythurau llywodraethu priodol ar waith a gallant ddelio â'r materion niferus sy'n codi wrth redeg unrhyw sefydliad. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod eu cyflogeion, ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, gwirfoddolwyr, aelodau bwrdd, neu unigolion a benodwyd gan y sefydliad, yn deall eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a bod ganddynt yr wybodaeth, y sgiliau a'r strwythurau cymorth i gyflawni eu rolau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â'r rhai hynny sy'n cael grantiau.

Bod yn agored a thryloyw

Mae cyfathrebu yn elfen allweddol o gydweithio i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru. Rydym am weithio gyda sefydliadau gan adeiladu ar bartneriaethau gwydn, ystyrlon, dibynadwy a meithrin cydberthnasau cadarn newydd sydd â ffocws cryf ar gyflenwi. Rydym yn disgwyl i'r rhai hynny sy'n cael grantiau fod yn agored ac yn dryloyw wrth ymdrin â Llywodraeth Cymru, gan gynnwys pan nad yw pethau yn digwydd yn ôl y disgwyl, ynghyd â bod yn ddigon hyderus i godi materion ac i drafod â ni ar unrhyw bwynt yn ystod cylchred oes grant.

Prosesau a gweithdrefnau

Rydym yn disgwyl i sefydliadau gynnal prosesau a gweithdrefnau priodol a chymesur, i liniaru rhag unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig drwy eu gwaith. Mae hyn hefyd yn lleihau unrhyw risg i gyllid cyhoeddus. Mae adolygu'r prosesau a'r gweithdrefnau hynny yn rheolaidd hefyd yn hanfodol, fel bod gwybodaeth yn gyfredol, ac nad yw unrhyw beth yn cael ei anwybyddu.

Atebolrwydd

Mae diwylliant o atebolrwydd o fewn sefydliad yn hybu cynnydd mewn morâl, hunanymwybyddiaeth, ymrwymiad, ac o ganlyniad, berfformiad mwy effeithiol. Rydym yn disgwyl i sefydliadau annog a chefnogi eu holl gyflogeion, ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, gwirfoddolwyr, aelodau bwrdd, ac unigolion a benodwyd gan y sefydliad, i gymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth dros eu penderfyniadau, gweithredoedd, ymddygiadau a pherfformiad, waeth beth fo'u rôl neu lefel.

Fan leiaf, dylai sefydliadau fod â pholisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith sy'n amlinellu'n glir pwy sy'n atebol am benderfyniadau, gan gynnwys rhai ariannol; sut y mae cyllid grant yn cael ei ddefnyddio a'i fonitro; llywodraethu; trefniadau rheoli risg a safonau ymddygiad sylfaenol, yn enwedig o ran diwylliant yn y gweithle a threchu gwahaniaethu; aflonyddu; bwlio; a diogelu staff, defnyddwyr gwasanaethau, a'r cyhoedd.  Yn dilyn hynny, os a phan fydd unrhyw faterion yn codi, mae'r sylfeini sefydliadol hyn yn darparu cefnogaeth a groesewir a gallant helpu i fynd i'r afael â hwy yn briodol ac yn gyson, mewn ffordd glir, agored.

Dylai fod gan sefydliadau eu gweithdrefnau cwyno eu hunain y gellir cael gafael arnynt yn hawdd, gan sicrhau, pan godir pryderon, yr eir i'r afael â hwy drwy weithdrefnau mewnol yn y lle cyntaf.

Gwerth am arian

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i sicrhau bod y cyllid grant yn darparu gwerth am arian, nid yn unig mewn termau ariannol ond hefyd o ran buddiannau/canlyniadau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol ehangach. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr amcanion grant yn cael eu cyflawni a bod y cyllid grant yn cael ei wario yn unol â'r safonau llywodraethu y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl.

Diwydrwydd dyladwy

Mae sefydliadau sy'n cael eu rhedeg yn dda yn sicrhau bod ganddynt systemau ariannol, rheoli risg a rheolaeth ar waith sy'n cynnwys prosesau diwydrwydd dyladwy priodol a chymesur. Mae hyn yn cynnwys cynnal gwiriadau rheolaidd i nodi unrhyw risgiau neu faterion a allai olygu bod y sawl sy'n cael grant neu Lywodraeth Cymru yn wynebu'r posibilrwydd o golled ariannol, twyll, neu niweidio enw da. Rydym yn cydnabod y bydd angen i brosesau a systemau fod yn gymesur â maint a chymhlethdod y cynllun grant a'r sawl sy'n cael y grant. Er enghraifft, yn aml bydd gan sefydliadau mwy newydd neu lai fecanweithiau goruchwylio ychydig yn wahanol o gymharu â sefydliadau mwy.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn disgwyl diwydrwydd dyladwy mewn perthynas ag agweddau eraill ar weithrediadau sefydliadol, megis meithrin diwylliant cadarnhaol yn y gweithle a threchu gwahaniaethu, aflonyddu a bwlio, a diogelu staff, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd.

Gwrth-dwyll

Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi dim goddefgarwch o unrhyw fath mewn perthynas ag arferion llwgr, gan gynnwys twyll. Rydym yn disgwyl i sefydliadau ddiogelu cyllid drwy barhau i fod yn wyliadwrus, gan fynd ati yn rhagweithiol i gadw llygad am unrhyw weithgareddau twyllodrus, a'r risg o dwyll, o fewn eu sefydliadau. Pe bai unrhyw weithgareddau llwgr neu dwyllodrus yn cael eu hamau neu eu darganfod, byddem yn disgwyl cael gwybod ar unwaith.

Cydymffurfio â thelerau ac amodau grant Llywodraeth Cymru

Wrth dderbyn cyllid grant Llywodraeth Cymru, disgwylir i sefydliadau ddeall a chytuno i'r telerau ac amodau cyllid llawn sy'n rhan o'r cytundeb grant cyfreithiol rwymol. Gall hyn hefyd olygu dweud wrthym, ar unrhyw adeg yn ystod (ac mewn rhai achosion ar ôl) dymor y grant, am unrhyw newidiadau gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig perthnasol a allai effeithio ar eu gallu i barhau i gydymffurfio â'r telerau ac amodau.

Rheoli arian cyhoeddus Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth i gydymffurfio â gofynion rheoli arian cyhoeddus Cymru mewn perthynas â'i holl drafodion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Rheoli arian cyhoeddus Cymru

Pryderon

Os byddwn yn cael gwybod am bryder, gan gynnwys camddefnydd posibl o gyllid Llywodraeth Cymru, gwahaniaethu, aflonyddu neu fwlio mewn sefydliadau yr ydym yn eu cyllido, byddwn yn ystyried, yn seiliedig ar risg ac amgylchiadau, a oes sail i Lywodraeth Cymru gymryd camau pellach i ddiogelu cyllid cyhoeddus. Gall hyn gynnwys gweithio gyda sefydliadau i benderfynu a oes unrhyw sail i'r honiadau, ochr yn ochr â chamau gweithredu priodol a chymesur eraill. Ni fydd pob pryder a godir o fewn ein cylch gwaith, felly efallai y byddwn yn atgyfeirio'r mater i asiantaethau eraill pan fo angen.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn modd gwrthrychol wrth ystyried unrhyw bryderon sy'n dod i law, gan sicrhau bod y sefydliad y codir pryder yn ei gylch yn cael ei drin mewn ffordd deg a pharchus. Mewn unrhyw achos pan fo'n ofynnol i Lywodraeth Cymru weithredu mewn perthynas â phryder, bydd yn ceisio datrys materion yn gyson ac yn adeiladol, gan wrando ar bartneriaid a rhanddeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal tegwch, tryloywder a chymesuredd wrth weithredu.

Rhagor o wybodaeth a chyngor