Araith gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rhoddwyd yr araith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Prynhawn da bawb.

Diolch i chi, Colin, a llawer o ddiolch i’r staff yma ym Mhrifysgol Caerdydd am gynnal y digwyddiad hwn heddiw.

Mae’n braf cael bod yma yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion, lle mae gweithwyr proffesiynol o fyd diwydiant a myfyrwyr gradd meistr yn cymysgu â’i gilydd ac yn astudio yn yr un lleoliad gwych. Mae’n gyfleuster sy’n wirioneddol o’r radd flaenaf, ac yn un sy’n adlewyrchu’r uchelgais i feithrin perthynas gref â’r economi leol a’r economi fyd-eang.

Un o brif ddibenion Prifysgol Caerdydd yw “cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru”. Dyna’r hyn a nodir yn siarter y brifysgol (felly mae’n rhaid ei fod yn wir...!)

Bu uchelgais ddinesig o’r fath, yn debyg i’n prifysgolion eraill, yn ffrwyth deffroad cenedlaethol, gwleidyddol ac addysgol.

Fel y nododd Pwyllgor Aberdâr ym 1881 “[there was a] widespread desire for a better education system in Wales” yn ail hanner y 19eg ganrif. Bu sefydlu ein colegau prifysgol ein hunain yn ganolog i gyflawni’r uchelgais hwnnw.

Gwn fod uchelgais am system addysg hyd yn oed yn well yng Nghymru wedi’i rannu, ac yn cael ei fynnu, ledled y wlad hyd heddiw. Ein cenhadaeth genedlaethol yw sicrhau bod pob dinesydd yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf. Rwyf yn uchelgeisiol, ac yn obeithiol, ynglyn â’r gallu ar y cyd i lunio system addysg sy’n gyfoes, yn rhagorol ac yn arloesol.

Mae prifysgolion yn hollbwysig i’r genhadaeth genedlaethol honno. Dylent fod yn agored ac yn edrych tuag allan, gan gysylltu elfennau dinesig, cymdeithasol ac economaidd.

Hoffwn achub ar y cyfle heddiw i rannu rhai syniadau ynglyn â rôl prifysgolion fel sefydliadau dinesig.

  • her ymgysylltu dinesig yn sgil refferendwm yr UE a’r angen amdano
  • rôl prifysgolion fel stiwardiaid cymuned, dinas a gwlad
  • a phwysigrwydd arloesedd, diwylliant o newydd-deb a chysylltiadau rhyngwladol.

Cyn imi symud ymlaen, hoffwn longyfarch y sector yng Nghymru am gyflawni ei lefel boddhad uchaf erioed ymhlith myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fis diwethaf – gan ragori ar berfformiad Lloegr mewn gwirionedd.

Er nad ydym yn arddel diffiniad cul o fyfyrwyr fel defnyddwyr yn unig, mae sicrhau’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr yn flaenoriaeth hollbwysig.

Byddai pawb yn yr ystafell hon yn cytuno, mae’n siwr gen i, fod penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu heriau sylweddol i’n prifysgolion. Mae Is-ganghellor y sefydliad hwn ei hun wedi disgrifio’r sefyllfa bresennol fel un llawn “turbulence and uncertainty that many of us have not experienced in our lifetimes”.

Mae’n anodd anghytuno â’r dadansoddiad hwnnw. Ond rhaid i’r heriau hynny o’n blaenau gael eu hwynebu, yn hytrach na’u hosgoi. Does dim dewis arall.

Wrth gwrs, rhaid inni fod yn realistig a chydnabod y bydd grymoedd y tu hwnt i’n rheolaeth. Ond fel person blaengar, ac fel un a wêl yr ochr olau i bethau, credaf yn ein gallu ar y cyd i ddod o hyd i’r atebion, gwneud y penderfyniadau mawr a llunio system addysg uwch ôl-Brexit sy’n agored, yn hyderus ac yn arloesol.

Fel y nododd Tom Kibasi, Cyfarwyddwr IPPR, yn ddiweddar ynglyn â’r angen am optimistiaeth wleidyddol ac wrth ymateb i’n hamgylchedd: “The crucial point is not “is it good or bad?” but how do we act together to make sure that our society benefits from all its potential rather than suffers from its possible risks?”

Yn yr ysbryd hwnnw, gan weithio gyda Phrifysgolion Cymru, CCAUC a Bwrdd Addysg Uwch Cymru Brwsel, bydd fy swyddogion yn cynnal y cyfarfod cyntaf o Weithgor Brexit Addysg Uwch Cymru y mis hwn. Bydd yn mynd ati i gydlynu gwybodaeth a rhoi cyngor ar effaith penderfyniad y DU i adael yr UE a’r posibiliadau sy’n codi yn ei sgil.

Wrth sefydlu’r gweithgor, rwyf hefyd am osod her i’r sector a phartïon â diddordeb.

Mae’r Llywodraeth am weithio gyda chi ar ddatblygiadau arloesol ym maes cysylltiadau rhyngwladol, er mwyn edrych ar fodelau a marchnadoedd newydd, a’r ffordd orau o sicrhau’r partneriaethau, y gwaith ymchwil a’r cydberthnasau cyllido hynny ag eraill yn yr UE.

Mae Cymru eisoes yn ennill mwy na’i chyfran deg o’i chymharu â gweddill y DU mewn rhaglenni addysg trawswladol â Tsieina er enghraifft, a thrwy gydweithio drwy bartneriaeth Cymru Fyd-eang rydym yn parhau i wneud mwy o waith hyrwyddo a chynyddu cyfleoedd mewn marchnadoedd allweddol.

Yr wythnos hon, mae’r Prif Weinidog yn yr Unol Daleithiau yn cyflwyno’r achos dros gysylltiadau dyfnach a chryfach. Fel rhywun a dreuliodd ran o’m gradd fy hun ym Missouri, rwy’n falch bod y sector wedi nodi potensial i Gymru ym marchnad Gogledd America nad yw wedi’i wireddu eto.

Byddwn hefyd yn pwyso ar Lywodraeth y DU i feddwl yn greadigol a gweithredu’n wirioneddol ar sail pedair gwlad wrth lunio trefniadau cyllido olynol, ond hefyd i gynnig treialu dulliau newydd o fewn system ymfudo wedi’i diwygio.

Bu’n destun siom imi fod y cynllun peilot diweddar ar fisâu gwaith ôl-astudio wedi’i gyfyngu i bedair prifysgol mewn dinasoedd yr un mor llewyrchus â’i gilydd yn Lloegr, a benderfynwyd heb ymgynghori ag unrhyw un o’r llywodraethau y tu allan i Loegr. Rwyf wedi codi’r pwynt hwn gyda’r Swyddfa Gartref ac rwy’n benderfynol o’i drafod ar ran Cymru cyn i’r cynllun peilot gael ei ehangu o bosibl.

Rwyf hefyd yn disgwyl i’r sector, gan weithio gyda’r sector preifat, gyflwyno cynigion i annog mwy o’n myfyrwyr i dreulio amser yn astudio ac yn cael profiad gwaith dramor, boed hynny yn Ewrop neu tu hwnt. Ar y nodyn hwnnw, mae’n dda gennyf gadarnhau y byddwn yn parhau i ariannu rhaglen Cenhedlaeth y DU: Tsieina a byddwn yn chwilio am fodelau eraill.

Ond, yn anad dim, hoffwn bwysleisio bod croeso i staff a myfyrwyr o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn ein prifysgolion. Fel rhyddfrydwraig, credaf o hyd y dylai Cymru fod yn wlad agored a goddefgar, gwlad sydd â hanes hir o gael budd o ymfudo o bedwar ban byd.

Mae ein sector addysg uwch yn ffynnu oherwydd amrywiaeth a dynamiaeth ei holl bobl. Bydd dros fil o fyfyrwyr o’r UE, ac o bedwar ban byd, yn ymuno â ni yng Nghymru dros y mis nesaf ac rwyf am iddynt wybod bod eu cyfraniad at fywyd yma yn cael ei werthfawrogi, ac y bydd yn parhau i gael ei werthfawrogi.

Bydd Wales.Com hefyd yn arwain ymgyrch fyd-eang yn ystod mis Hydref i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i fyfyrwyr rhyngwladol.

Hoffwn nawr sôn ychydig am ganlyniad y refferendwm a’r cyfleoedd a’r cyfrifoldebau i brifysgolion.

Wrth ysgrifennu yn y Times Higher Education, mae Dr Claire Taylor o Brifysgol Glyndwr wedi disgrifio ymateb y sector fel [a] feeling of shock that expert views from universities… were roundly ignored by politicians and public”. Mae’n dadlau bod yn rhaid i brifysgolion, ar ôl cyfnod o lyfu eu briwiau, ailgydio yn y syniad o gymuned sy’n cysylltu campws, gwlad a’r cyd-destun byd-eang.

Croesawaf yr argymhelliad ar gyfer y camau nesaf, ond hefyd fyfyrdodau mor adeiladol ar rôl y sector yn y refferendwm a’r adwaith iddo.

Yn wir, hoffwn fynd ymhellach.

Ar lefel y DU, cafodd ymgyrch y prifysgolion o blaid yr UE ei ddiystyru’n rhy hawdd fel un a ysgogwyd gan hunan-fudd, a ganolbwyntiodd bron yn gyfan gwbl ar incwm.

Nid yw hynny’n golygu nad oes lle i feirniadu gwleidyddion a’r llywodraeth. Dim o gwbl. Fel y nododd Anthony Barnett, mae rhwymedigaeth arnom, ar draws y pedair gwlad, i ddod ynghyd fel “[a] meaningful democracy, socially inclusive, internationally responsible, economically fair and institutionally inventive”.

Ond, yn sicr, mae dyletswydd ar brifysgolion i fyfyrio ar yr agendor rhwng campws a chymuned a amlygwyd gan y refferendwm. Yr hyn sy’n gofyn am weithredu brys yn awr yw ailgydio mewn cenhadaeth ddinesig.

Mae’n her a ddylai apelio at y galon a’r meddwl. Beth yw diben prifysgolion os nad ydynt yn lle i herio’r meddwl!

Fel person blaengar, mae pryder yn fy mhlagio yn sgil canlyniad y refferendwm. Mae’n bosibl bod y buddugoliaethau a fu’n fodd i droi hanes tuag at gynnydd – ffeministiaeth, agor mynediad i addysg, moesgarwch wrth drafod â’n gilydd a thuag ati eraill, hawliau sifil, hyd yn oed datganoli – yn llawer mwy bregus na’r hyn a ddychmygwyd.

Dangosodd y bleidlais, pan fydd pobl a chymunedau yn credu bod datblygiadau er budd eraill – yn hytrach er eu budd hwy, eu teuluoedd neu gymdeithas yn gyffredinol – y byddant yn credu nad oes ganddynt ddim i’w golli drwy eu gwrthwynebu.

A ydym yn ffyddiog nad yw’r cymunedau y lleolir ein prifysgolion ynddynt yn ystyried bod y sefydliadau hyn yn perthyn i bobl eraill?

Pwy sy’n berchen ar brifysgolion Cymru, beth yw eu gwreiddiau a beth yw eu cyfrifoldebau tuag at eu rhanbarth a’u gwlad?

Sut y byddant yn helpu i fynd i’r afael â materion cynhwysiant cymdeithasol, dinasyddiaeth weithredol a dadleuon hyddysg yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod?

Dyma’r heriau cyfoes ond mae yna alw hefyd i ailgydio yn ysbryd ein cenhadaeth addysg genedlaethol.

Fel y dywedais ar y dechrau, mae ein prifysgolion yn ddyledus am eu camau cyntaf i chwyldro addysg o uchelgais dinesig, economaidd ac academaidd. Ceiniogau’r tlodion a ariannodd y camau cyntaf hynny, gyda phunnoedd y dyngarwyr a’r llywodraeth gam ar ei hôl hi.

Hyd yn oed yma yng Nghaerdydd, methodd ymdrechion ar droad y ganrif i ariannu adran fasnach gyda dim ond £15 yn cael ei godi o’r sector hwnnw! Wrth gwrs, mae cysylltiadau â diwydiant yn llawer cryfach erbyn hyn, ond erys llawer mwy i’w wneud o hyd.

Roedd prifysgolion, yn debyg i’r Cymdeithasau Cyd-welliant a Llyfrgelloedd y Glowyr o eiddo’r werin bobl ac i’r werin bobl.

Mae Gareth Elwyn Jones wedi disgrifio hyn fel diwylliant o anhunanoldeb. Cynghrair o lowyr, chwarelwyr, capelwyr, ymfudwyr, gweithwyr o bob sector yn ariannu ysgoloriaethau a cholegau, er mwyn datblygu unigolion, cymunedau a’r genedl. A’r cyfan wedi anelu at yr hyn y byddai Raymond Williams yn ei ddisgrifio fel “engaged and participating democracy”.

Daeth y gweithredoedd, a’r uchelgeisiau hyn, yn lle gwladwriaeth ganolog a phellennig. A thyfodd prifysgolion yn sefydliadau ymreolaethol gyda rhyddid academaidd – egwyddor sy’n ddiogel o hyd.

Y dasg nawr yw system addysg uwch yng Nghymru sy’n hygyrch ac yn berthnasol i’w chymunedau ei hun o fewn gwlad ddatganoledig, ddemocrataidd. A chyfuno hynny â bod yn agored i fyfyrwyr, ysgolorion, cyfleoedd a datblygiadau deallusol yn Ewrop a ledled y byd.

Dylai ein prifysgolion fod yn ffynhonnell o feddwl cadarn a dadlau rhydd, a hynny ar goedd gwlad yn hytrach nag encilio y tu ôl i furiau sefydliadol. Hoffwn weld prifysgolion yn cymryd rhan mewn dadleuon a llunio syniadau, ar sail tystiolaeth o waith ymchwil a myfyrio gofalus. Mae dadleuon ynglyn â chyllid sefydliadol yn bwysig, ond nid yr unig ffocws mewn trafodaethau deallusol a thrafodaethau ynglyn â pholisi.

Fel rhan o’r dull gweithredu hwnnw, dylai ein prifysgolion edrych ar esiampl y rhai a sefydlwyd yn yr Unol Daleithiau fel prifysgolion ‘rhodd tir’. Roedd y colegau hynny, a sefydlwyd yn y 19eg ganrif pan roddwyd tir cyhoeddus ar gyfer darpariaeth addysg uwch wedi’i hanelu at y dosbarth gweithiol, wedi ailgydio yn eu cenhadaeth fel ‘stiwardiaid lle’.

Mae hyn yn adlewyrchu’r berthynas gydfuddiannol â’r gymuned lle maent wedi’u lleoli, ond hefyd ymrwymiad parhaus i ymgysylltu dinesig ac arweinyddiaeth.

Dangosodd y refferendwm fod ein cysyniadau o gyd-berthyn a chysylltiadau rhwng cymunedau yn wannach o bosibl na’r hyn a ddychmygwyd. Mae cyfrifoldeb ar brifysgolion Cymru, fel sefydliadau dinesig a rhyngwladol, i fod yn stiwardiaid cymuned, dinas a gwlad.

Mae sawl ffordd wahanol o fod yn hygyrch ac yn berthnasol i gymuned a gwlad. Mae llawer o waith da eisoes yn cael ei wneud, yn bennaf drwy gynnig cyfleoedd rhan-amser i astudio, yr wyf yn awyddus i’w gweld yn ffynnu.

Ond mae mwy i’w wneud o ran cysylltu’r campws – ac addysg uwch yn fwy cyffredinol – â’n cymunedau.

Ni chredaf fod hyn yn mynd yn groes i uchelgeisiau rhyngwladol y sector. O wneud hynny’n dda, dylai’r naill ategu’r llall. Yn wir, dylai astudio Cymru, ein hanes, ein diwylliant, ein gwleidyddiaeth ein heconomi fod yn destun astudiaeth i’n dinasyddion ein hunain a’r byd y tu hwnt. Mae lansiad diweddar gwefan Hafan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn enghraifft arloesol yn y maes hwn.

Dylai safbwynt byd-eang i’n prifysgolion ddod â manteision o ran profiad myfyrwyr a graddedigion, gweithio rhwng rhanbarthau, cysylltiadau trawswladol â diwydiant, ymchwil a datblygu, a chysylltiadau dinesig a chysylltiadau rhwng pobl sy’n gryfach.

Ond rwy’n glir fy meddwl bod yn rhaid i’n prifysgolion berthyn i’w lle a pherthyn i’w pobl fel egwyddor sylfaenol. Drwy ymgymryd â’r rôl stiwardio hon y bydd prifysgolion yn cyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau cenedlaethol, dinesig a rhyngwladol.

Traddodiad o wella’ch hun, democrateiddio gwybodaeth ac arweinyddiaeth mewn addysg yw traddodiad gorau Cymru. Mae ein diwygiadau addysgol – ar bob lefel – wedi’u hysbrydoli gan y gwerthoedd hyn.

Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau bod yr hanfodion yn iawn, codi ein safonau a’n huchelgais am ragoriaeth ar gyfer pob disgybl, rhiant, myfyriwr ac athro.

Nid yn unig y mae’n rhaid i ysgolion ac athrawon ddwysáu ac ehangu cydweithrediad a gwella ar y cyd. Rhaid i’n prifysgolion hefyd gyflawni’r genhadaeth genedlaethol honno, gan weithio gydag ysgolion, diwydiant a phartneriaid rhyngwladol.

Bu datblygiadau cadarnhaol o ran prifysgolion yn gweithio gydag ysgolion i rannu arbenigedd mewn meysydd megis ieithoedd tramor modern a chymhwysedd digidol.

O dan arweiniad Caerdydd, ond gan gynnwys Abertawe, Bangor ac Aberystwyth hefyd, mae cynllun peilot mentora israddedigion yn helpu i ysbrydoli disgyblion ysgol i astudio ieithoedd. Mae tipyn o ffordd i fynd eto ond mae’r cynllun peilot yn ffordd gydweithredol ac arloesol o fynd i’r afael â’r mater.

Mae defnydd arloesol Abertawe o israddedigion cyfrifiadureg fel cymorth addysgu mewn ysgolion lleol, a chynnal gweithdai Technoclub, hefyd yn ddatblygiad i’w groesawu’n fawr.

Mae’r cysylltiadau hynny rhwng prifysgolion ac ysgolion yn hollbwysig i genhadaeth ddinesig, a hefyd, wrth gwrs, i waith allgymorth prifysgolion sy’n hyrwyddo uchelgais a chyrhaeddiad ym mhob un o’n cymunedau.

Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith fy mod yn ysgrifennydd addysg sy’n gyfrifol am y ddau sector. Dylem groesawu tröedigaeth ddiweddar Lloegr i’n model gweithio ni, a hwythau wedi cynnwys addysg uwch ochr yn ochr ag ysgolion yn yr Adran Addysg!

Wrth gwrs, mae prifysgolion yn chwarae rôl uniongyrchol fel canolfannau addysg athrawon, ac mae adroddiad John Furlong yn hollbwysig o ran diwygio ein cyrsiau hyfforddi i athrawon a datblygu’r sgiliau sydd eu heisiau ac sydd eu hangen ar athrawon – ynghyd â ffocws clir ar arweinyddiaeth a safonau.

Mae adroddiad yr Athro Furlong hefyd yn nodi na chafodd yr un academydd o unrhyw ganolfan addysg i athrawon yng Nghymru ei gyflwyno ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar. Nid yw hynny’n ddigon da, a dweud y gwir.

A mynd ymhellach, dim ond 1.5% o gyfanswm cyflwyniadau’r DU mewn ymchwil addysgol arbenigol a ddaeth o Gymru, a phob un o Gaerdydd.

Os nad yw ymchwilwyr nac academyddion yng Nghymru yn ymroi i ymchwilio i ddiwygiadau addysg yma, yna ni allwn ddibynnu ar brifysgolion mewn mannau eraill i wneud hynny.

Nid wyf yn chwilio am rai i bledio ein hachos, ond hoffwn weld mwy o chwilfrydedd a diddordeb yn ein hamgylchedd addysgol.

Mae’r arbenigwr ar effeithiau cymdeithasol ac economaidd technoleg ym Mhrifysgol Efrog Newydd, Clay Shirky, wedi dweud:”the biggest threat to those of us working in colleges and universities isn’t video lectures or online tests. It is the fact that that we live in institutions perfectly adapted to an environment that no longer exists”.

Roedd yn sôn am ddiffyg hyblygrwydd colegau elît America i ehangu mynediad, gan ddangos gwerth fel budd cyhoeddus a mesur deiliannau graddedigion. Yma yng Nghymru gallem gael dadl ynglyn â’r materion hynny, ond yr hyn sy’n bwysicach yw’r angen i’r sector fod yn barod ar gyfer amgylchedd ôl-Brexit.

Bydd yn gofyn am gydweithredu, gan gysylltu elfennau dinesig, cymdeithasol, academaidd ac economaidd.

Fel y nodwyd yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog, rwyf yn awyddus i hyrwyddo diwylliant o arloesedd ac entrepreneuriaeth yn ein prifysgolion, mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Mae gwaith NESTA yn rhoi tystiolaeth o arloesedd yn sbarduno ffyniant mewn gwledydd bach, ystwyth. O’r ffordd y mae Estonia wedi datblygu technoleg mewn amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, i’r ffordd y mae Singapôr wedi annog BBaChau i arloesi, ac ymrwymiad Gwlad y Basg i arloesi’n gydweithredol wedi’i wreiddio mewn ymdeimlad o hunaniaeth ac uchelgais.

Mae’r gwledydd hyn yn rhannu rhinweddau a ddisgrifir gan yr economegydd o’r America, Tyler Cowen, fel “start-up nations”.

Hunaniaethau cadarn a gweledigaeth, ymrwymiad i arloesi, rôl genedlaethol bwysig i brifysgolion a graddfa lle y gall y genedl weithredu gyda’i gilydd.

Cawsom ychydig o’r optimistiaeth hon yma ym 1999 ond cymysg fu’r hanes. Fodd bynnag, er na fyddwn yn genedl newydd ar ôl Brexit, mae ein hamgylchedd newydd yn golygu y bydd angen meddylfryd o “newydd-deb”.

Roedd y sector addysg uwch o bosibl yn rhy araf i ymaddasu yn ystod degawd cyntaf datganoli, yn rhy araf i gydnabod ei amgylchedd datganoledig, democrataidd newydd. Mae angen inni weithio mewn partneriaeth er mwyn derbyn yr heriau sydd o’n blaenau, gydag egni a mentergarwch busnes newydd.

Cafodd Caerdydd ei chydnabod yn ddiweddar fel y 45ain brifysgol fwyaf arloesol yn Ewrop, sy’n dangos bod gennym yr adnoddau yma yng Nghymru. Ar fy ymweliad diweddar â Champws Bae Abertawe, gwnaeth gwaith y Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianyddol yn benodol argraff arnaf hefyd.

Rwyf hefyd am weld mwy o ymgais i hyrwyddo cyfleoedd arloesedd ac entrepreneuriaeth gymdeithasol i israddedigion.

Mae canolfan entrepreneuriaeth arobryn Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ochr yn ochr â phrosiectau megis Swigen Greadigol Coleg y Trindod Dewi Sant yn Abertawe a llwyddiant Bangor ym maes trwyddedu meddalwedd i’w croesawu.

Fodd bynnag, dim ond dwy brifysgol yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn rhaglen Enactus ar hyn o bryd. Mae hon yn rhaglen fyd-eang sy’n rhoi cyfleoedd menter gymdeithasol i dimau o fyfyrwyr.

Yn anffodus, nid yw’r naill dîm na’r llall o Gymru wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol y DU i fyfyrwyr eto. Hoffwn weld mwy o fyfyrwyr o Gymru yn cael cyfle i ymgymryd â mentrau entrepreneuraidd o’r fath yn y brifysgol, ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Nid oes yr un brifysgol yng Nghymru wedi cael ei chydnabod eto fel ‘Change-maker Campus’, sef dynodiad i sefydliadau blaenllaw ym maes addysg arloesi cymdeithasol. Mae llai na 40 ledled y byd, ond mae prifysgolion o Loegr a’r Alban yn eu plith, ochr yn ochr â phrifysgolion Brown, George Mason a John Hopkins. Hoffwn weld ychydig o gynnydd yn hyn o beth.

Mae nifer y busnesau newydd a sefydlwyd gan brifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu 29% eleni. Ac rydym wedi gwneud yn well na’r disgwyl yng nghyd-destun y DU, gyda 12% o gyfanswm y DU o fusnesau newydd sydd wedi cael eu dechrau gan raddedigion a 15% o fusnesu newydd sydd wedi cael eu dechrau gan staff yn y DU. Mae graddedigion o’r Brifysgol hon wedi sefydlu mwy na 270 o gwmnïau newydd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Dyna’r sylfeini dros annog mwy o fentergarwch ymhlith myfyrwyr, staff a graddedigion.

Cyn cloi, soniaf am ychydig o flaenoriaethau eraill sy’n deillio o’m cytundeb â’r Prif Weinidog.

Rwyf wedi sôn gryn dipyn am gyfrifoldeb dinesig a’r berthynas rhwng y wladwriaeth, cymdeithas, myfyrwyr a’r sector. Mae’n rhaid i’r broses o gyllido addysg uwch, er mwyn iddi fod yn gynaliadwy ac yn flaengar, hefyd rannu’r un nodweddion hynny ag sy’n perthyn i gontract cymdeithasol.

Cyn hir, bydd Syr Ian Diamond yn cyflwyno ei adolygiad trawsbleidiol, annibynnol o gyllido addysg uwch a chyllid i fyfyrwyr. Fel y nodwyd yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr argymhellion hynny, gyda’r bwriad o’u gweithredu’n gynnar lle y bo’n briodol.

Pan gaiff yr adroddiad ei gyhoeddi’n ddiweddarach y mis hwn, gwnaf ddatganiad y prynhawn hwnnw i’r Cynulliad ar gyfeiriad ac egwyddorion strategol yr argymhellion.

Wrth ymateb i’r adolygiad, rwy’n glir fy meddwl bod angen setliad cyllid addysg uwch yng Nghymru sy’n rhoi cymorth i fyfyrwyr pan fo’i angen arnynt fwyaf, ac sy’n galluogi ein prifysgolion i gystadlu’n rhyngwladol. Ni ddylai ofn costau byw atal addysg uwch rhag bod ar gael i bawb a all gael budd ohoni.

Mae Syr Ian a’i banel trawsbleidiol o arbenigwyr wedi bod yn gweithio’n ddiwyd. Rwy’n obeithiol y gallwn fod yn optimistaidd, yn uchelgeisiol ac yn arloesol wrth gyflwyno setliad sydd:

  • yn cynnal egwyddor cyffredinoliaeth o fewn system flaengar
  • am y tro cyntaf yn unrhyw le yn y DU, yn sicrhau dull teg a chyson ar draws lefelau a dulliau astudio
  • yn sicrhau buddsoddiad a rennir rhwng y llywodraeth a’r rhai sy’n cael budd uniongyrchol
  • yn gwella hygyrchedd, gan leihau rhwystrau i astudio, megis costau byw.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r sector ac eraill pan fydd yr adroddiad wedi’i gyhoeddi a phan fydd y llywodraeth wedi datblygu ei hymateb.

Yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog ceir ymrwymiad hefyd i ymgynghori ymhellach ar argymhellion penodol adolygiad Hazelkorn. Caiff rhagor o wybodaeth ei chyhoeddi maes o law.

Yn fy marn i, mae angen i faterion llywodraethu ar lefel genedlaethol gael eu hystyried ymhellach. Mae’n rhaid inni gydnabod bod rhaid wrth ddealltwriaeth gyfoes a rhychwant safbwyntiau a phrofiad sy’n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r wlad.

Yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog, cydnabuwyd mai addysg o safon uchel yw’r sbardun i symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth weithredol.

Mae tair sylfaen dyrchafiad ac uchelgais unigol: sgiliau a datblygu economaidd; a dinasyddiaeth weithredol a diwylliant democrataidd; yn rhan annatod o system addysg sy’n perfformio’n dda.

Dylai llwybrau academaidd a galwedigaethol i mewn i addysg bellach ac addysg uwch a thrwyddynt fod yn agored i ddysgwyr o bob oedran. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid bod cyswllt rhwng prifysgolion a’u cymunedau a’u gwlad, ac wrth gwrs â’r economi y maent yn elfen allweddol ohono.

Fel stiwardiaid cymuned, dinas a gwlad, mae prifysgolion yn hollbwysig yn y gwaith o greu’r Gymru hyderus, ryngwladol ac arloesol y mae’n rhaid iddi ymddangos o’r cyfnod heriol hwn.

Drwy ymchwil a recriwtio rydych yn bont i’r byd ehangach. Mae’r pontydd hynny yn croesi dyfroedd geirwon ar hyn o bryd, a bydd y llywodraeth yn gweithio gyda chi i gadw’r cysylltiadau hynny’n gryf. Ond mae’n rhaid i chithau ymgyfnerthu hefyd drwy effaith, dylanwad ac arloesedd yma.

Gofynnaf ichi ailgydio yn y genhadaeth ddinesig honno a’i hail-greu er mwyn iddi gael ei gwireddu a bod yn berthnasol i’n heriau cyfoes.

Mae gennyf ffydd yn eich dychymyg a’ch arloesedd i wynebu’r prawf hwnnw, ac achub ar y cyfleoedd a’r cyfrifoldebau o’n blaenau.

Diolch yn fawr ichi.