Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan denantiaid cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol mewn rhai rhannau o Gymru tan 26 Ionawr i ddefnyddio'r cynllun hawl i brynu a chynlluniau cysylltiedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n rhaid i bobl sy'n gymwys ac sy'n dymuno prynu eu cartref fod wedi cwblhau ffurflen gais. Mae honno ar gael gan eu landlord neu ar wefan Llywodraeth Cymru a rhaid ei chyflwyno i'w landlord cyn y dyddiad cau ar 26 Ionawr 2019.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: 

“Pasiwyd Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018  gennym er mwyn diogelu'r stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru rhag lleihau ymhellach. Deddf yw hon, felly, i ddarparu tai fforddiadwy i bobl sydd eu hangen. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn un o ystod o gamau sy’n cael eu cymryd gennym i gynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru.

“Rhwng 1981 a 2016, gwerthwyd dros 139,000 o dai sy’n eiddo i gymdeithasau tai ac i awdurdodau lleol o dan yr Hawl i Brynu. Yn sgil hynny, mae llawer o bobl, gan gynnwys llawer o bobl sy’n agored i niwed, yn gorfod aros yn hirach i gael cartref y gallant ei fforddio. Mae cael gwared â’r Hawl i Brynu yn rhoi mwy o hyder i landlordiaid cymdeithasol fuddsoddi mewn adeiladu tai cymdeithasol newydd heb orfod poeni y caiff y cartrefi hyn eu gwerthu ar ôl ychydig o flynyddoedd yn unig.

“Rydym wedi ymrwymo i greu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021 ac rydym yn rhoi cymorth i landlordiaid cymdeithasol i’n helpu i gyrraedd y nod hwn.”

Mae’r hawl i brynu eisoes wedi ei atal ar Ynys Môn, yn Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys, Abertawe a Chaerdydd. Yn dilyn y flwyddyn a ganiateir o dan y Ddeddf i arfer eu hawliau, bydd yr Hawl i Brynu a hawliau cysylltiedig yn cael eu dileu ym mhobman yng Nghymru ar 26 Ionawr 2019.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan gymdeithasau tai a chan dimau tai awdurdodau lleol. Mae gwybodaeth ynghylch y ddeddfwriaeth a sut y bydd tenantiaid yn cael eu heffeithio ar wefan Llywodraeth Cymru.