Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro Peter Ghazal

Cadair ymchwil Sêr Cymru mewn meddygaeth systemau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Symudodd yr Athro Peter Ghazal, imiwnolegydd systemau uchel ei barch yn rhyngwladol  i Brifysgol Caerdydd o’i swydd yng Nghaeredin i fod yn gadair Sêr Cymru mewn meddygaeth systemau. Diddordebau ymchwil yr Athro Ghazal yw deall sut mae rhwydweithiau genynnau lletyol yn rheoli heintiau, yn arbennig o ran y llwybrau lletyol hynny sy’n ymwneud â sepsis a’r echel imiwno-metabolaidd.

Mae’n arwain ym maes ymchwil drosiadol amlddisgyblaethol, er enghraifft, cysylltu peirianneg â genomeg. Mae ganddo enw rhagorol am fasnacheiddio.