Yr Athro John Parkin, Prifysgol gorllewin Lloegr Comisiynydd
![Yr Athro John Parkin](/sites/default/files/styles/photo_small/public/key-people/John%20Parkin%2C%20Prifysgol%20Gorllewin%20Lloegr%202.jpg?itok=5hCHZ1ih)
Bu’r Athro Parkin yn gweithio dros beirianwyr ymgynghorol cyn ymuno â'r byd academaidd.
Gweithiodd yr Athro Parkin i beirianwyr ymgynghorol cyn ymuno â'r byd academaidd, ac mae bellach yn Athro Peirianneg Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Trafnidiaeth a Chymdeithas (CTS). Mae wedi ysgrifennu llyfr diffiniol sef ‘Designing for cycle traffic’. Mae'r Athro Parkin wedi chwarae rhan ym mhob cam o'r gwaith o hyrwyddo cynlluniau trafnidiaeth, gan gynnwys llunio polisïau, modelu a rhag-weld, dadansoddi gweithredol ac arfarnu economaidd, dylunio ac adeiladu, a gwerthuso. Mae ganddo brofiad ar draws pob math o drafnidiaeth ac mae ganddo arbenigedd penodol ym maes beicio.