Yr Athro Glyn Hewinson Cadair ymchwil Sêr Cymru yng Nghanolfan Ragoriaeth Tuberculosis Gwartheg Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth
![Yr Athro Glyn Hewinson](/sites/default/files/styles/photo_small/public/key-people/professor-glyn-hewinson.jpg?itok=9r8zpk8_)
Cadair ymchwil Sêr Cymru yng Nghanolfan Ragoriaeth Tuberculosis Gwartheg Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r Athro Glyn Hewinson wedi ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel cadair ymchwil Sêr Cymru yng Nghanolfan Ragoriaeth Tuberculosis Gwartheg Cymru. Roedd yn brif wyddonydd ar gyfer TB yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, lle’r oedd yn gyfrifol am bob agwedd wyddonol o TB gwartheg. Mae hefyd wedi bod yn brif wyddonydd Asiantaeth Labordai Milfeddygol ac Iechyd Anifeiliaid. Yno roedd yn arwain tîm amlddisgyblaethol oedd yn rhan o ddatblygu brechlynnau tuberculosis ar gyfer moch daear a gwartheg.