Beth rydym yn ei wneud
Yng Nghymru, rydym yn ymdrin ag apeliadau cynllunio, datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, archwilio cynlluniau lleol a gwaith achos arall yn ymwneud â chynllunio a gwaith achos arbenigol a ran Gweinidogion Cymru.
Cynnwys
Mae'r Arolygiaeth Gynllunio'n asiantaeth weithredol, a noddir gan Lywodraeth Cymru
Ein gwaith ni yw gwneud penderfyniadau a darparu argymhellion a chyngor ar amryw o faterion yn gysylltiedig â chynllunio defnydd tir ledled Cymru. Gwnawn hyn mewn modd teg, agored ac amserol, ar sail polisïau a luniwyd gan Lywodraeth Cymru.
Ein gwasanaethau
Gwasanaethau eraill
Hefyd, rydym yn ymdrin â gwaith arall yn ymwneud â chynllunio, gan gynnwys:
- apeliadau caniatâd adeilad rhestredig
- apeliadau hysbysebu
- adrodd ar benderfyniadau cynllunio a elwir i mewn gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Hefyd, rydym yn ymdrin â gwaith arbenigol arall, gan gynnwys:
- gorchmynion prynu gorfodol
- gorchmynion hawliau tramwy
- caniatâd ar gyfer gwaith ar dir comin
- apeliadau diogelu coed ac apeliadau gwrychoedd neu berthi uchel
- mesurau yn ymwneud â diogelu'r amgylchedd