Mae'r Llywodraeth Cymru yn barod i gydweithio ag Abertawe i ddarparu rhai o'r elfennau a gafodd eu cynnwys yn y cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2021.
Mae cryfder y cais a'r cyfleoedd lu a fydd yn codi yn ystod Blwyddyn y Môr yn 2018 yn golygu bod y cyfnod hwn yn un lle bydd gan Abertawe gyfleoedd go iawn. Roedd y Gweinidog yn awyddus i ddatgan yn glir ei fod yn ymrwymedig i barhau i weithio gyda phartneriaid o bob cwr o'r rhanbarth i sicrhau bod yr egni, yr hyder a'r angerdd a oedd mor amlwg yn ystod y cyfnod yn arwain at y penderfyniad ar 2021 yn parhau ac yn dwyn ffrwyth.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas
"O amgueddfeydd ac orielau i draethau a bwydydd, dw i wedi bod yn ddigon ffodus heddiw i gael blas ar drawstoriad bach o'r arlwy amrywiol, hynod safonol sydd gan Abertawe i'w gynnig i ymwelwyr o bedwar ban byd.
"Ar ôl cyfarfod â pherchenogion busnesau, cynghorwyr ac aelodau o'r tîm hynod ddawnus a fu'n gysylltiedig â chais Abertawe 2021, dw i'n fwy clir fy meddwl nag erioed fod gan y rhanbarth yr holl elfennau sydd eu hangen i fod yn optimistaidd iawn am y blynyddoedd sydd i ddod, a hynny o ran gwella hyd yn oed mwy ar yr arlwy unigryw sydd ganddo i'w gynnig a hefyd o ran rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr. Mae'r trafodaethau cychwynnol heddiw, lle'r aed ati i bennu blaenoriaethau'r rhanbarth ym maes diwylliant a thwristiaeth, wedi bod yn galonogol iawn.
"Mae'n glod nid yn unig i'r tîm a wnaeth y cais ond hefyd i'r ddinas gyfan fod yr egni, yr hyder a'r angerdd yn dal yn amlwg i bawb. Mae hon yn ddinas sy'n barod i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw i'w rhan yn y dyfodol ac mae hynny'n rhywbeth dw i'n benderfynol o'i gefnogi ym mha fodd bynnag y gallaf.
"Un o'r cyfleoedd hynny fydd Blwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf, sef y drydedd o’n blynyddoedd thematig hynod lwyddiannus i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru. Gallwn gynnig arfordir unigryw, traethau a thirweddau sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, a bwyd a diod fwyfwy amrywiol, felly mae sawl rheswm i ranbarth Abertawe fod yn optimistaidd yn ystod 2018 a thu hwnt."
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:
"Er bod ein cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2012 heb ddod i'r brig, rydyn ni'n ffyddiog bod ein cais yn un credadwy. Mae'r adborth a gafwyd oddi wrth y beirniaid yn cadarnhau bod ansawdd y ceisiadau a gyflwynwyd gan bob un o'r dinasoedd a gyrhaeddodd y rhestr fer yn tystio i'w gallu i gyflwyno blwyddyn ddiwylliant nodedig.
"Rydyn ni'n barod i gyflwyno gweledigaeth a rhaglen wirioneddol drawsnewidiol i Gymru er mwyn dangos bod diwylliant yn gyfrwng pwysig i ennyn balchder ac uchelgais, ac i roi proffil uwch ac enw da inni er mwyn denu buddsoddiad, symbylu busnesau i'n cefnogi a gweithio ar draws sectorau i drechu tlodi, gan fynd ati ar yr un pryd i wella cydlyniant, cysylltiadau a llesiant.
"Roedd gennym gynllun wrth gefn o’r dechrau un rhag ofn na fydden ni'n llwyddo i ennill teitl Dinas Diwylliant y DU 2018, felly mae ymweliad y Gweinidog wedi rhoi cyfle i'r tîm drafod y camau nesaf ar gyfer diwylliant yn Abertawe ac yng Nghymru wrth inni barhau i fod yn ddinas sy'n dathlu ac yn croesawu talent.
"Bydd prosiectau o bwys fel yr arena ddigidol dan do a fydd yn rhan o ddatblygiad Canol Abertawe yn dal i fynd yn eu blaen hefyd, gyda'r gwaith adeiladu'n dechrau yn hwyr y flwyddyn nesaf. Hefyd, mae thema Blwyddyn y Môr yn 2018 yn gyfle mawr i hyrwyddo diwydiant twristiaeth ffyniannus sydd eisoes yn werth £400 miliwn y flwyddyn i economi Bae Abertawe."