Dyna neges Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, ar ddechrau ymweliad deuddydd â’r wlad.
Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â chynrychiolwyr o’r llywodraeth a byd diwydiant yn Berlin a Dusseldorf, er mwyn atgyfnerthu'r berthynas y mae Cymru wedi'i meithrin â'r Almaen, pwerdy economaidd Ewrop.
Ni ellir gorbwysleisio cryfder y cysylltiadau â'r Almaen:
- Yr Almaen yw prif gyrchfan allforion Cymru – gyda gwerth allforion Cymru yn £3.1 biliwn yn 2018
- Amcangyfrifir bod gan 90 cwmni Almaenig bresenoldeb yng Nghymru, gan gyflogi ychydig llai na 12,000 o bobl
- Yr Almaen yw'r ffynhonnell fwyaf ond un o'r myfyrwyr rhyngwladol a ddaw i Gymru, gyda dim ond Tsieina o'i blaen
- Mae 87,000 o dwristiaid Almaenig yn ymweld â Chymru bob blwyddyn
Wrth siarad cyn ei hymweliad, dywedodd Eluned Morgan:
"Yr Almaen yw ein partner economaidd pwysicaf yn Ewrop, ac yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig rydym wedi agor swyddfeydd yn Berlin ac yn Dusseldorf. Rydyn ni’n gwrthod gadael i beth bynnag a ddaw yn sgil Brexit newid hynny.
"Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid ar draws y Deyrnas Unedig i annog Prif Weinidog y Deyrnas Unedig i newid cyfeiriad, ac ymwrthod â Brexit heb gytundeb.
“Rwy’n teithio i’r Almaen heddiw â neges glir i’n cyfeillion â'n partneriaid Almaenig – mae Cymru’n genedl Ewropeaidd falch ac edrychaf ymlaen at gryfhau ein cysylltiadau economaidd, diwylliannol a gwleidyddol â’r Almaen dros y blynyddoedd nesaf."
Bydd y Gweinidog yn dechrau ar ei hymweliad yn Berlin. Bydd yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r Llywodraeth Ffederal i hyrwyddo Cymru fel gwlad agored a blaengar sy'n greadigol ac yn arwain y ffordd o ran cynaliadwyedd. Bydd hi'n cael trafodaethau â'r Llywodraeth Ffederal yn benodol am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, deddf sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth.
Bydd hi hefyd yn cynnal cyfarfod bord gron â Siambr Fasnach Prydain yn yr Almaen, a fydd yn gyfle i'r Gweinidog gwrdd ag uwch gynrychiolwyr busnes er mwyn cael gwell dealltwriaeth o safbwynt yr Almaen ar Brexit.
Yn Dusseldorf, bydd y Gweinidog yn agor swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn swyddogol yng Ngogledd Rhein-Westphalia.
Bydd hi'n hyrwyddo cryfderau masnachol Cymru, yn enwedig ei chryfderau ym maes technoleg gan gynnwys seiberddiogelwch, i arweinwyr diwydiannol, cynrychiolwyr o'r llywodraeth a dylanwadwyr lleol. Ei bwriad yw cynyddu llif masnach a mewnfuddsoddi.
Hefyd, bydd hi'n cynnal cyfarfod â chysylltiadau allweddol ym maes cyfryngau twristiaeth er mwyn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid.