Bydd y rhan fwyaf o gymorth y pecyn cymorth costau byw gwerth £330m yng Nghymru yn mynd i’r aelwydydd ar yr incwm isaf, yn ôl dadansoddiad newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dadansoddiad yn amcangyfrif effeithiau dosbarthiadol ei hymateb uniongyrchol i’r argyfwng costau byw – drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, y Gronfa Cymorth Dewisol, a’r taliad Costau Byw.
Mae’r cynlluniau yng Nghymru yn golygu y bydd llawer o aelwydydd ar yr incwm isaf yng Nghymru yn gallu cael taliadau gwerth £350, a bydd rhai yn gallu cael cymorth ariannol ychwanegol drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.
Mae’r dadansoddiad yn dangos bod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru yn flaengar iawn, gyda mwy o gymorth ariannol ar gyfartaledd yn cael ei roi i’r rhai ar incwm is.
Mae disgwyl i gyfanswm o tua 75% o aelwydydd gael eu cefnogi mewn rhyw ffordd. Er hynny, bydd bron i ddwywaith yn fwy yn mynd i aelwydydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm o gymharu â’r rhai yn yr hanner uchaf, gyda theirgwaith yn fwy yn mynd i’r rhai yn y pumed isaf o gymharu â’r rhai yn y pumed uchaf.
Mae’r taliad costau byw o £150 yn gynllun mwy cyffredinol, tra bo’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol yn canolbwyntio mwy ar aelwydydd ar incwm is. Mae’r cynlluniau’n golygu bod y cymorth yng Nghymru, gyda’i gilydd, yn fwy helaeth ac wedi’i dargedu’n well at ben isaf y dosbarthiad incwm na’r cymorth a gynigir yn Lloegr gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Rydym yn gwybod y bydd yr argyfwng hwn yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd ar yr incwm isaf, felly targedu’r cymorth fel hyn yw’r ffordd decaf o helpu pobl.
“Mae’r argyfwng costau byw yn bellgyrhaeddol a bydd yn effeithio ar rai sydd heb ei chael yn anodd talu eu biliau o’r blaen. Felly roedd yn briodol darparu cymorth eang drwy’r taliadau costau byw gwerth £150. Mae’r cymorth ychwanegol drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol yn golygu bod hwn yn becyn mwy blaengar sy’n rhoi arian i’r rhai sydd wir ei angen.”
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae teuluoedd ac aelwydydd dan bwysau ac rydym am sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi. Rydym yn ymwybodol nad yw pawb sy’n gymwys i gael cymorth yn manteisio arno, ac mae ein dadansoddiad yn adlewyrchu’r ffaith hon. Mae ein hymgyrch ‘hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r gwahanol lwybrau cymorth ac rydym yn annog pawb sydd ei angen i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael.”
Cafodd pecyn costau byw Llywodraeth Cymru – sy’n rhoi cymorth i aelwydydd yn y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn nesaf – ei gyhoeddi ar 15 Chwefror. Bydd pleidlais ar y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal heddiw wrth i’r Senedd drafod y Gyllideb Derfynol.
Yn ddiweddarach y mis hwn mae disgwyl i Ganghellor y Trysorlys gyhoeddi Datganiad y Gwanwyn. Mae’n debygol y bydd yn cael ei wneud ychydig cyn y cynnydd i’r cap ar brisiau ynni a’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, tra bo disgwyl i chwyddiant barhau i godi.
Ychwanegodd Rebecca Evans:
“Cafodd ein pecyn cymorth gwerth £330m ei ddylunio i leihau pwysau yn awr ynghyd â darparu sicrwydd yn y tymor hirach. Fodd bynnag, rydym yn gwybod yn iawn y bydd pobl yn parhau i wynebu heriau gwirioneddol iawn. Gwnaethom ni gymryd camau yn ein cyllideb ni, yn awr mae’n bryd i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn Natganiad y Gwanwyn.
“Byddai un cam effeithiol, syml yn dadwneud y penderfyniad creulon i ddileu’r cynnydd o £20 i Gredyd Cynhwysol, sy’n golygu bod rhagor o bobl wedi eu cael eu hunain mewn sefyllfa ariannol ddyrys.
“Rydym wedi awgrymu nifer o ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth y DU helpu aelwydydd, er enghraifft drwy symud y costau polisi cymdeithasol i drethiant cyffredinol a chyflwyno tariff ynni incwm isel i dargedu cymorth yn well i aelwydydd ar incwm is. Nid yw ei hymateb i’r argyfwng costau byw wedi bod yn ddigonol hyd yma; rhaid i Ddatganiad y Gwanwyn sbarduno cymorth blaengar ac ystyrlon a fydd yn helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.”