Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr cylch gwaith 2022-26 yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Prif Weithredwr a Chadeirydd
yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Annwyl Tegwen a Sue,

Hoffwn gofnodi fy niolch i chi a'ch tîm am eich gwaith ers sefydlu'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ym mis Mai 2018, ac yn enwedig y ffordd yr ydych chi wedi mynd ati i ddelio â rhai o'r heriau sydd wedi wynebu'r sector yn ystod y pandemig. Mae arwain, meithrin ac ysbrydoli arweinwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, ar draws y system addysg gyfan, yn holl bwysig nawr ac ar gyfer y dyfodol. Mae hynny wedi cael ei ddwyn i’r amlwg yn sicr, ac mae’n parhau i fod yn ymrwymiad allweddol i Lywodraeth Cymru.

Rwy'n ysgrifennu atoch i roi ichi’r manylion am fy nisgwyliadau a'm blaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor y Llywodraeth hon yng Nghymru. Felly, mae'r blaenoriaethau strategol a nodir yn y llythyr hwn ar gyfer cyfnod 2022-2026. Rwy'n disgwyl i'r blaenoriaethau hyn aros fwy neu lai yr un fath dros y cyfnod hwn, ond gall yr amcanion i gyflawni’r blaenoriaethau hynny ddatblygu a newid dros amser – a chyhoeddir diweddariad blynyddol o'r Llythyr Cylch Gwaith hwn yn unol â hynny. Efallai y bydd angen i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol hefyd ymateb i flaenoriaethau gweinidogol sy'n dod i'r amlwg neu ymateb i adroddiadau a gyhoeddir. Ceir rhestr o’r blaenoriaethau gweinidogol presennol yn Atodiad 1.

I gefnogi'r amcanion hynny, gallaf gadarnhau mai cyfanswm cyllideb yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023 yw £1,280,000 (dangosol), a fydd yn cael ei dalu ymlaen llaw yn ôl yr angen a amlygwyd. Bydd y cyllid hwn hefyd yn cefnogi parhad rhaglen Cymdeithion yr Academi.

Bydd rhagor o fanylion am y sefyllfa ariannu yn cael eu nodi mewn Llythyr Cynnig Grant, ynghyd â thelerau ac amodau'r cyllid.

Blaenoriaethau strategol 2022-2026

Mae'r blaenoriaethau strategol cyffredinol fel y'u nodir yn llythyr cylch gwaith 2018-2021 a amlinellir isod yn parhau i fod yn ddilys, a dylent fod yn sail i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau gweinidogol a nodir yng ngweddill y llythyr cylch gwaith hwn.

  • Datblygu’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fel sefydliad strategol â diwylliant cadarnhaol a chynhwysol a threfniadau llywodraethu cadarn
  • Cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ym mhob rhan o’r system addysg drwy sicrhau cydlyniad ac ansawdd ar gyfer yr amrywiaeth o gyfleoedd datblygu sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer arweinyddiaeth addysgol
  • Gweithredu fel arweinydd agweddau; gan ddatblygu, cyfleu a gweithredu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru.

Mae'r amcanion strategol yn adlewyrchu sefyllfa’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fel un o elfennau hanfodol yr haen ganol. Bydd angen i'r Academi Genedlaethol weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i sicrhau ffocws strategol ar ddatblygu arweinyddiaeth er mwyn cefnogi ein blaenoriaethau ar gyfer tymor hwn y llywodraeth, fel y’u nodir isod.

Cwricwlwm i Gymru

Bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cefnogi pob arweinydd i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. Dylai weithio'n agos gyda phartneriaid eraill yr haen ganol a phob uwch arweinydd yn y sector i ddatblygu sgiliau arwain, hyder a galluoedd sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.

Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i'r cymorth sydd ei angen ar ysgolion uwchradd a fydd yn gweithredu o dan ddau gwricwla nes bod pob grŵp blwyddyn yn trosglwyddo i’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd hwn yn amcan sy’n parhau drwy gydol tymor y llythyr cylch gwaith hwn.

Dylid rhoi sylw arbennig i rôl/heriau/cyfleoedd arweinwyr yn y meysydd canlynol:

  • Dull ysgol gyfan o gynllunio'r cwricwlwm, gan gyd-awduro â rhieni, dysgwyr a'r gymuned ehangach
  • Gweithio mewn clystyrau i ddatblygu'r continwwm dysgu a rhannu dealltwriaeth neu gynnydd
  • Newid diwylliannol i symud o drefniadau asesu sy'n seiliedig ar atebolrwydd i rai sy'n seiliedig ar asesu ar gyfer cynnydd dysgwyr unigol.

Wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, byddem yn disgwyl ymgysylltu â'r consortia rhanbarthol a'r bartneriaeth i sicrhau bod gwaith yn cael ei gydgysylltu â gweithgarwch rhanbarthol a’u bod yn ategu ei gilydd. Dylai’r gwaith hwn gael ei wneud dros y 3 blynedd nesaf (2022-2025) a chaiff ei adlewyrchu yn y llythyrau grant.

Arwain y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm: themâu traws-gwricwla

Bydd darparu cyfleoedd dysgu cenedlaethol i gefnogi’r gwaith o arwain y diwygiadau mewn ysgolion, drwy weithio gyda'r themâu traws-gwricwla, yn un o nodweddion y dysgu proffesiynol i hwyluso rhoi’r cwricwlwm ar waith. Dylai'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol felly gefnogi arweinwyr i arwain y gwaith diwygio mewn ysgolion ar draws y themâu traws-gwricwla:

  • Darllen a Llafaredd
  • Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith
  • Amrywiaeth
  • Hawliau dynol
  • Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb

Bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo a chaiff ei ddatblygu a'i ddiweddaru drwy gydol tymor y llythyr cylch gwaith hwn. Yn ogystal â hynny, caiff ei amlygu yn y llythyr Grant blynyddol, lle bo hynny'n briodol.

Y Gymraeg mewn addysg

Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer gwlad lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, yn ogystal â chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, mae angen gweithlu medrus yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu cynllun 10 mlynedd i nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc, neu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn meithrin sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg a sicrhau bod gan ein harweinwyr yr wybodaeth a'r sgiliau i gynllunio'n strategol a meithrin y Gymraeg yn ein hysgolion.

Dylai'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol felly barhau â'r gwaith sydd eisoes wedi'i ddechrau i gefnogi gweithredu'r cynllun 10 mlynedd, er mwyn:

  • Datblygu’r gallu i arwain ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a
  • Rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bob arweinydd gan gynnwys meithrin eu dealltwriaeth er mwyn iddynt allu gwireddu gweledigaeth Cymraeg 2050 yn eu hysgolion, fel rhan o ddiwylliant ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu

Amrywiaeth a chydraddoldeb

Er mwyn cefnogi gwaith amrywiaeth a thegwch mewn addysg yng Nghymru, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn:

  • Comisiynu a chymeradwyo’r gwaith o ddatblygu arweinwyr sy'n canolbwyntio ar arwain ysgolion mewn amgylchiadau economaidd-gymdeithasol heriol
  • Cydweithio â swyddogion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu Ysgolion Cymunedol yng Nghymru
  • Gweithio ar y cyd â Gweithgor Prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth (DARPL) i fynd ati i hyrwyddo'r maes blaenoriaeth hwn ymhlith arweinwyr addysgol
  • Cefnogi datblygiad arweinwyr y dyfodol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i ddod yn arweinwyr yn system Addysg Cymru
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu adnoddau a hyfforddiant addas i Lywodraethwyr mewn ysgolion ar draws y system addysg mewn perthynas â'r Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol.

Argymhelliad yn yr adroddiad terfynol, gan y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams OBE, oedd i Lywodraeth Cymru, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a Chonsortia Rhanbarthol 'gefnogi hyfforddiant parhaus trylwyr er mwyn llunio, gweithredu a denu sylw at amrywiaeth ethnig a chynwysoldeb fel rhan o ddull ysgol gyfan i benaethiaid ac arweinwyr.’ (Argymhelliad 26). Bydd manylion penodol y gwaith hwn yn cael eu nodi yn Llythyr Grant yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Llywodraethwyr

Bydd Estyn yn cynnal adolygiad thematig ar drefniadau Llywodraethu. Bydd hyn yn ystyried arferion effeithiol, gan gynnwys gweithredu fel cyfeillion beirniadol (sy’n cynnwys herio perfformiad ar wahanol lefelau), ac effaith hyfforddiant i lywodraethwyr. Dylai'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fonitro’r cynnydd yn sgil yr adolygiad, gyda'r bwriad o gefnogi Llywodraethwyr – yn enwedig Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion, yn eu rôl fel cyfeillion beirniadol i'r tîm arweinyddiaeth, fel y gallant herio perfformiad a chynnig cefnogaeth effeithiol pan fydd angen gwneud hynny.

Ysgolion cymunedol

Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo canolbwyntio ar ysgolion cymunedol, ac yn annog mwy o ysgolion i fabwysiadu ffordd o weithio sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, dylai'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol archwilio posibiliadau ysgolion cymunedol a dulliau dysgu cymunedol arfaethedig ar y cyd â’r sectorau cynradd ac uwchradd, gan roi adborth i Lywodraeth Cymru.

Disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn haf 2023.

Anghenion dysgu ychwanegol

Nod yr agenda i ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw darparu system addysg gwbl gynhwysol i ddysgwyr yng Nghymru, mewn system lle caiff anghenion addysg plant a phobl ifanc eu nodi'n gynnar a'u diwallu'n gyflym, a lle mae pob dysgwr yn cael cymorth i gyrraedd ei botensial. O dan y system ADY newydd, bydd y gwaith cynllunio yn hyblyg gan ymateb i sefyllfaoedd penodol, bydd ein gweithwyr proffesiynol yn meddu ar y sgiliau a'r hyder i nodi anghenion a defnyddio strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau i ddysgu, a bydd ein holl ddulliau ac arferion yn canolbwyntio ar y dysgwr.

Dylai'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gefnogi pob Arweinydd i weithredu Diwygiadau ADY. Dylai weithio'n agos gyda phartneriaid eraill yr haen ganol a phob uwch arweinydd yn y sector i ddatblygu sgiliau arwain, magu hyder a datblygu galluoedd sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Ddeddf ADY. Dylai gynyddu dealltwriaeth a hyder arweinwyr i weithredu Deddf ADY a gwella deilliannau plant a phobl ifanc ag ADY. A dylai ddatblygu sgiliau'r gweithlu addysg i wrando, nodi ac ymateb i anghenion plant a phobl ifanc pan fydd angen cymorth ychwanegol arnynt i ffynnu mewn addysg.

Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)

Er mwyn cefnogi'r sector ôl-16, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cefnogi arweinwyr yn y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, yn benodol ar gyfer Addysg Bellach (AB), Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL), a Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, gan ymateb i feysydd gweithgarwch penodol a fydd yn cael eu nodi yn y llythyr grant.

Bydd y gweithgareddau hyn yn cefnogi dealltwriaeth bellach o amcanion gwaith datblygu arweinyddiaeth yn y sectorau addysg ôl-16.

Sector gwaith ieuenctid

Dylai'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol sicrhau bod gweithwyr ieuenctid yn cael eu cynrychioli yn y grwpiau rhanddeiliaid ac yn Rhaglen Cymdeithion yr Academi. Disgwylir ichi barhau i weithio gyda'r sector gwaith ieuenctid, a pharhau i feithrin cysylltiadau â’r sector, er mwyn cryfhau cyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth a fydd yn cryfhau'r sector ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dyrchafiadau a datblygu gyrfaoedd.

Rydym yn disgwyl ichi weithio'n agos gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a Safonau Hyfforddiant Addysg i ddatblygu’r maes gwaith hwn ymhellach.

Bydd y gwaith hwn yn arwain at sicrhau bod y Sector Gwaith Ieuenctid yn cryfhau’r cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth sydd ar gael i weithwyr ieuenctid ac yn cefnogi datblygiad y proffesiwn gwaith ieuenctid a’i strwythur gyrfa.

Llesiant arweinwyr

Gwyddom fod ein gweithlu addysg yn hanfodol i lwyddiant y gwaith diwygio. Bydd Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth, yn cymryd camau i gefnogi llesiant yr holl staff sy'n gweithio yn ein hysgolion a'n colegau fel bod pawb yn ein cymuned addysgu yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Er mwyn cefnogi arweinwyr addysgol, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn darparu cymorth a chyfarwyddyd strategol i sicrhau bod arweinwyr yn meddu ar y gallu i arwain os bydd anghenion o ran llesiant staff wedi'u nodi. Disgwylir i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid Cymorth Addysg i sicrhau bod llesiant arweinwyr yn cael ei flaenoriaethu a'i gefnogi'n systematig, gan greu gweithlu cadarn a chynaliadwy o arweinwyr.

Cynllunio ar gyfer olyniaeth a bylchau yn y ddarpariaeth

Mae angen inni ddeall gallu arweinwyr y sector addysg yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rwy’n nodi bod hyn yn rhywbeth yr ydych wedi'i grybwyll yn eich adroddiad ‘Er Sylw – Cynigion Strategol ar gyfer cefnogi lles arweinwyr addysgol yng Nghymru’. Dylid gwneud argymhellion cychwynnol erbyn mis Ebrill 2023 a dylid gwneud rhagor o waith drwy gydol tymor y llythyr Cylch Gwaith hwn.

Mae angen i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol hefyd ystyried y bylchau yn y ddarpariaeth arweinyddiaeth sydd ar gael i arweinwyr yng Nghymru. Felly, dylai'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wneud gwaith i ddarparu gwybodaeth ac argymhellion ar ddeall y bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru. Dylid gwneud argymhellion cychwynnol erbyn mis Chwefror 2023.

Y meysydd eraill y disgwylir i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol eu hystyried a rhoi argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â nhw yw:

  • Dealltwriaeth o’r newidiadau mewn perthynas ag Arweinyddiaeth yn y sector ysgolion, a bydd gwybodaeth bellach yn cael ei hamlinellu yn y Llythyr Grant
  • Ymateb i argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB), gan gynnwys y rheini ar gyfer penaethiaid gweithredol – a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu cynigion cynllunio ar gyfer olyniaeth sy'n gweithio ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Darperir rhagor o fanylion yn y Llythyr Grant
  • Sicrhau bod y camau nesaf ar gyfer cefnogi penaethiaid yng Nghymru yn cael eu hegluro (gwaith yn mynd rhagddo).

Gweithio mewn partneriaeth a rôl yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau hyn, bydd angen i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol weithio mewn partneriaeth ag aelodau eraill o'r haen ganol, gan gynnwys y Consortia Rhanbarthol, Sefydliadau Addysg Uwch, Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn. Byddwn yn gweithio gyda'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a phartneriaid eraill i greu gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r rôl a chwaraeir gan bob aelod o'r haen ganol. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at bartneriaeth a chydweithrediad mwy effeithiol. Hoffwn bwysleisio hefyd fod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi'i sefydlu fel sefydliad i sicrhau cydlyniad ac ansawdd ar gyfer yr amrywiaeth o gyfleoedd datblygu sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer arweinyddiaeth addysgol, a chredaf fod yr hyn a grybwyllir uchod yn adlewyrchu hynny.

Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda’r ddwy ohonoch chi i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Rwy hefyd yn dymuno pob llwyddiant i’r Academi Genedlaethol wrth iddi barhau i gefnogi arweinwyr addysgol yng Nghymru.

Yn gywir,

Jeremy Miles AS/MS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Minister for Education and Welsh Language

Atodiad A: Blaenoriaethau Gweinidogol

Dylai pob polisi geisio ystyried y 5 blaenoriaeth ganlynol lle bo hynny'n briodol.

  • Codi cyrhaeddiad dysgwyr difreintiedig a mynd i'r afael â'r bwlch dyheadau
    Tu hwnt i bopeth, mae ein cenhadaeth genedlaethol i ddileu effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a gosod safonau uchel i bawb.
  • Lles Dysgwyr a Staff
    Mae gan bawb yr hawl i gael profiad addysg hapus. Rhaid inni adeiladu enw da, ledled y DU ac yn rhyngwladol, am roi lles a hawliau plant ar flaen ac yng nghanol ein diwygiadau.
  • Cenedl Ail Gyfle
    Nid yw mynd i'r afael ag effaith tlodi ar addysg yn gorffen wrth gatiau'r ysgol. Er mwyn cefnogi dyheadau pawb, mae angen diwygio polisi clir a sylweddol sy'n cryfhau cynnig dysgu gydol oes Cymru i bob dinesydd.
  • Ennill y ras dechnolegol
    Dylai Cymru ddod yn arweinydd rhyngwladol o mewn materion digidol a thechnoleg i godi cyrhaeddiad a sgiliau pob dysgwr, waeth beth fo'u cefndir.
  • Cymraeg - defnyddio, nid gallu yn unig
    Mae gennym amcanion uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ond mae angen gweld ein holl ymyriadau drwy'r lens a ydynt yn annog defnydd gwirioneddol o'r Gymraeg – mae hyn yn mynd y tu hwnt i greu hawliau, ac yn wir hyd yn oed y tu hwnt i greu siaradwyr. Mae'r iaith yn perthyn i bob un ohonom, waeth beth fo'n gallu, ac rydym am annog pawb i ddefnyddio faint bynnag sydd ganddynt bob dydd, hyd yn oed os mai dim ond ychydig eiriau ydyw.