Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r A487 yn Nhrefdraeth, Sir Benfro bellach yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol yn dilyn y gwaith hanfodol a gwblhawyd yn gynharach eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ailagorodd y ffordd yn unol â'r disgwyl ar 3 Mawrth ar ôl cwblhau'r gwaith i ailosod cwlfert diffygiol sy'n croesi o dan yr A487.

Mae'r gwaith yn helpu i liniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, gan wneud y ffordd yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol a diogelu rhag orfod cau yn ddirybudd mewn argyfwng gan darfu ar y gymuned leol.

Roedd y prosiect yn cynnwys gwaith peirianneg helaeth ar ddylunio a gosod y system gwlferi newydd a chydweithio rhwng y contractwr a nifer o randdeiliaid gan gynnwys Dŵr Cymru, Wales & West Utilities ac Openreach i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Byddai canlyniadau peidio â gwneud y gwaith wedi arwain at gwlfert sy'n methu, a fyddai'n golygu cau'r ffordd mewn argyfwng am gyfnod sylweddol o amser. Hefyd, mae pibellau dŵr, carthion a nwy, ynghyd â thelathrebu trwy geblau ffibr optig yn rhedeg trwy'r cwlfert, felly byddai methiant wedi amharu ar y cyfleustodau hyn, gan darfu ar gyflenwadau dŵr, carthion a nwy, ynghyd â tharfu ar wasanaethau telathrebu a rhyngrwyd. Gallai llifogydd lleol fod wedi digwydd hefyd.

Mae'r cwlfert wedi'i leoli yng nghanol Trefdraeth, felly y prif amcan oedd ailosod y strwythur, gan darfu cyn lleied â phosibl ar fusnesau lleol, trigolion a'r rhwydweithiau ffyrdd strategol a lleol.

Ystyriwyd cyfres o opsiynau i atgyweirio'r diffyg ond yr unig opsiwn hyfyw i sicrhau gwydnwch hirdymor y ffordd oedd gosod strwythur newydd yn lle'r un diffygiol.

Cynhaliwyd ymgynghoriadau i bennu'r adeg fwyaf priodol o'r flwyddyn i gyflawni'r prosiect gan sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu gan fod yr ardal hon o Gymru yn elwa yn sylweddol ar dwristiaeth, a gwnaed y penderfyniad i gwblhau'r gwaith cyn dechrau'r tymor twristiaeth.

Tra roedd y ffordd ar gau, manteisiwyd ar y cyfle hefyd i wneud gwaith ail-wynebu ychwanegol ar hyd y darn caeedig o gerbytffordd yr A487 i unioni rhai o ddiffygion presennol y gerbytffordd.

Dywedodd Ken Skates:

Rwy'n deall y problemau mae'r gwaith hwn wedi'u hachosi a hoffwn i ddiolch i fodurwyr a thrigolion lleol am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud. Fodd bynnag, roedd yn hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar yr adeg hon er mwyn sicrhau y gall y ffordd barhau i fod ar agor yn y blynyddoedd i ddod.  Mae hon yn rhan hardd o Gymru sy'n denu llawer o dwristiaid o bob cwr o'r DU a thu hwnt. Felly, roedd yn bwysig bod y gwaith wedi'i gwblhau cyn dechrau'r tymor twristiaeth prysur.

Hoffwn i hefyd ddiolch i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a'u cadwyn gyflenwi am eu gwaith caled i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl yr amserlen gan sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu.