Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cadarnhau y bydd yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach yn ailagor yn ôl y cynllun ar 11 Ebrill ar ôl i waith gael ei wneud ar y ffordd gyda rheoli traffig yn ei le.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweiriadau cymhleth a helaeth i'r wal gynhaliol uwchben Afon Iaen gyfagos ac roedd angen cau'r ffordd yn llawn rhwng 20 Ionawr ac 11 Ebrill.

Bydd goleuadau traffig dwyffordd nawr yn cael eu hailosod ar y safle tra bod rhwystr diogelwch yn cael ei osod. 

Bydd yr holl fesurau rheoli traffig wedi'u symud o'r safle erbyn 30 Ebrill 2025. 

Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau'r amserlen hon, os oes modd.

Mae'r gwaith hwn yn datrys y broblem ar y rhan hon o'r ffordd unwaith ac am byth. Mae goleuadau wedi bod yn rheoli'r traffig ers i'r rhan hon o'r ffordd gael ei chau ar frys ym mis Hydref 2023, pan gwympodd rhan o wal a oedd yn cynnal y ffordd.

Dywedodd Ken Skates:

Rwy'n deall y problemau mae'r gwaith hwn wedi'u hachosi a hoffwn i ddiolch i fodurwyr a thrigolion lleol am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud. Fodd bynnag, roedd yn hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar yr adeg hon er mwyn sicrhau y gall y ffordd barhau i fod ar agor yn y blynyddoedd i ddod.

Hoffwn i hefyd ddiolch i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a'u cadwyn gyflenwi am eu gwaith caled i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl yr amserlen ac yn lleihau lefel y tarfu cymaint â phosibl.

Image
Llun o'r gwaith ar yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach, sydd yn ailagor yn dilyn gwaith ffordd hanfodol