Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ynni Cymru yn cefnogi ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned a Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES). Mae SLES yn dod â chynhyrchu ynni, storio, galw a seilwaith at ei gilydd mewn ardal leol. Mae hyn yn gwella effeithlonrwydd ac yn darparu'r manteision lleol mwyaf. Rydym wedi creu rhaglen ariannu grant cyfalaf gwerth £10 miliwn. 

Gall sefydliadau'r sector cyhoeddus a chymunedol, a mentrau bach a chanolig sy'n dymuno datblygu SLES yng Nghymru wneud cais am gyllid. Bydd angen cwblhau prosiectau erbyn 31 Mawrth 2026.

Bydd ceisiadau am Grant Cyfalaf Ynni Cymru yn cau am 5pm ar 16 Mehefin 2025.Darllenwch y canllawiau cais i helpu i gefnogi eich cais: Rhaglen grant cyfalaf Ynni Cymru 2025 i 2026: canllawiau

Gwnewch gais am Grant Cyfalaf Ynni Cymru 

Ar gyfer ceisiadau sydd â gwerth llai na £150,000, gwnewch gais gan ddefnyddio ffurflen gais Llwybr 1

Ar gyfer ceisiadau sydd â gwerth dros £150,000, gwnewch gais gan ddefnyddio ffurflen gais Llwybr 2