Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolwg hwn sydd wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn ei bumed flwyddyn yn awr, a dyma’r unig gasgliad o ddata masnach penodol i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym am wella ein dealltwriaeth o lifau masnach i mewn ac allan o fusnesau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys nwyddau a gwasanaethau sy'n symud o fewn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol.

Sut mae busnesau'n cael eu dewis?

Mae tua 8000 o fusnesau wedi'u dewis o gyfeiriadur busnes y DU (y gofrestr busnes ryng-adrannol) sy'n deillio o ffynonellau gweinyddol, gan gynnwys:

  • cofrestriadau Treth ar Werth  
  • cofrestriadau Talu wrth Ennill

Caiff y cyfeiriadur ei ddiweddaru gyda data a gesglir o arolygon busnes y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae’n cael ei ddefnyddio at ddibenion ystadegol yn unig.

Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Mae IFF Research yn cynnal yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru. Cwmni ymchwil marchnad annibynnol yw IFF Research ac mae’n gweithredu o dan ganllawiau caeth Cod Ymarfer y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad.

Os oes gennych chi gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r arolwg, cysylltwch â thîm Arolwg Masnach Cymru yn IFF Research. Maent ar gael o ddydd Llun hyd ddydd Gwener rhwng 9yb a 5yp:

Rhif ffón: 0300 025 9000 
E-bost: amc@iffresearch.com

Maent ar gael o ddydd Llun hyd ddydd Gwener rhwng 9yb a 5yp.

Os hoffech gadarnhau awdurdod IFF Research i gynnal yr arolwg hwn, cysylltwch â dadansoddwyr masnach Llywodraeth Cymru ar ystadegau.masnach@llyw.cymru

Pryd y bydd data o'r arolwg yn cael ei gyhoeddi?

Bydd data a gwybodaeth allweddol o’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau 'Arolwg Masnach Cymru' ar gwefan Llywodraeth Cymru yn 2024.

Mae’r data o rowndiau blaenorol yr arolwg i’w gael ar dudalennau Arolwg Masnach Cymru.

Mi fydd y tablau data gyda chanlyniadau 2020 yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r adroddiad 2021 ar Hydref 25ain.