Heddiw, Alun Davies ag Ysgol Gymunedol Glynrhedynog i glywed gan rieni a disgyblion ynghylch sut y gallai'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De helpu i wella cyfleoedd yn y Cymoedd.
Ar hyn o bryd, mae'r tasglu'n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymoedd y De i geisio cael barn cymunedau lleol am eu blaenoriaethau ar gyfer eu hardaloedd. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Gweinidog ag arweinwyr busnes yng Nghaerffili, a'r wythnos hon fe ymunodd â staff, rhieni a disgyblion yn Ysgol Gymunedol Glynrhedynog.
Atebodd y Gweinidog gwestiynau am rôl y tasglu gan ddisgyblion ym mlynyddoedd 9, 10 ac 11, a fydd yn gwneud penderfyniadau pwysig yn fuan ynghylch eu dyfodol. Wedyn, roedd trafodaeth gyffredinol â rhieni ynghylch pa gyfleoedd yn eu barn nhw a allai helpu eu plant i ffynnu yn y Cymoedd.
Dywedodd Alun Davies,
“Yn aml iawn, mae ysgolion yn ganolog i gymuned leol fel hon, a gallant chwarae rôl allweddol er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc ar draws yr ardal ehangach.
“Maen nhw hefyd yn chwarae rôl sylfaenol o ran cyflawni llawer o nodau'r tasglu, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Heather a'i staff am gynnal y cyfarfod yma heddiw. Mae'r cyfle i siarad â staff, rhieni a disgyblion wedi rhoi llawer o syniadau y dylem eu hystyried wrth i ni lunio ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd y Pennaeth, Heather Nicholas,
“Gobeithio y bydd lansio Tasglu’r Cymoedd yn rhoi tawelwch meddwl i gymunedau yn y Cymoedd, wrth iddo geisio mynd i’r afael â phroblemau a rhwystrau drwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau ar lawr gwlad, yn ogystal â chynghorau lleol ac ysgolion.
“Weithiau, ysgolion cymunedol fel ysgol Glynrhedynog yw canolbwynt y gymuned. Ond mae ysgol gymunedol go iawn yn fwy na theitl. Rhaid iddi allu ymwneud â phob grŵp rhanddeiliaid, cysylltu â nhw a’u tynnu at ei gilydd i ddarparu ystod o raglenni a gwasanaethau i fyfyrwyr a theuluoedd, gan wella’r dyfodol i’n plant, sef y genhedlaeth nesaf. Rhaid iddi hefyd fod â’r galon i wneud hyn.
“Rydyn ni wir yn teimlo’n gyffrous am waith y tasglu ac yn gobeithio y bydd yn ategu ac yn cefnogi’r gwaith mae ysgolion fel hon yn ei gyflawni, y tu hwnt i gât yr ysgol.”
Cafodd y tasglu ei sefydlu gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y llynedd ac mae'n bwriadu adeiladu ar waith sydd wedi'i wneud o'r blaen yn yr ardal, ond mewn ffordd fwy cydlynol sy’n targedu anghenion ein cymunedau yn y Cymoedd.
I gael gwybod mwy am waith y tasglu, neu i gofrestru ar gyfer un o'r cyfarfodydd cyhoeddus, ewch i'n tudalen Facebook.