Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r argyfwng natur?

Yn 2021, datganodd y Senedd 'argyfwng natur' (ar ymchwil.senedd.cymru). Roedd hyn i gydnabod y dirywiad i fioamrywiaeth o ganlyniad i weithgareddau pobl. Yn ôl Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 (ar nbn.org.uk) mae 17% o'r 3,902 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu (ar ymchwil.senedd.cymru).

Mae natur yn hardd ac ni allwn ni fyw hebddi. Mae ein hamgylchedd naturiol yn dirywio, ynghyd â'r manteision mae'n eu darparu. Mae angen i bob un ohonon ni weithredu ar frys i atal a gwrthdroi'r dirywiad hwn.

Mae creu rhagor o ardaloedd sy’n debyg i ddolydd drwy leihau faint o laswellt sy'n cael ei dorri’n fyr yn un peth y gallwn ni ei wneud.

Beth yw'r argyfwng hinsawdd?

Yn 2019, gwnaethon ni ddatgan argyfwng hinsawdd. Gweithgareddau pobl yn bennaf sy'n gyfrifol am y newid yn yr hinsawdd. Mae lefelau cynyddol o garbon deuocsid a nwyon eraill yn creu 'effaith tŷ gwydr’. Mae hyn yn dal ynni o'r haul ac yn achosi i dymheredd y Ddaear godi.

Ynghyd â llawer o awdurdodau cyhoeddus, rydyn ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon. Mae planhigion yn amsugno carbon o'r atmosffer. Mae glaswelltiroedd sy’n llawn gwahanol rywogaethau’n storio mwy o garbon na glaswelltir lle mae prinder rhywogaethau. Mae ymylon ffyrdd a pharciau sy'n llawn gwahanol rywogaethau’n ateb naturiol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. 

Beth yw bioamrywiaeth?

Talfyriad o amrywiaeth fiolegol yw bioamrywiaeth. Amrywiaeth pob peth byw ym myd natur yw hi, pethau cyffredin a phethau sydd mewn perygl. Nid rhywogaethau prin neu bethau dan fygythiad yn unig yw hi.

Bioamrywiaeth:

  • mae'n fwy na nifer y rhywogaethau sy'n byw mewn lle
  • mae'n cynnwys yr holl ryngweithio o fewn un rhywogaeth a rhwng gwahanol rywogaethau
  • mae’n cynnwys cymunedau cyfan o blanhigion ac anifeiliaid a'r mannau lle maent yn byw

A yw Dyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ofyniad cyfreithiol?

Cyflwynwyd y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau gan Adran 6 o dan Ran 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (ar legislation.gov.uk). Yn aml gelwir y ddyletswydd hon yn Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6. Mae'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Bioamrywiaeth a chydnerthedd y ddyletswydd ecosystemau (adran 6): canllawiau i awdurdodau cyhoeddus

Bydd camau a gymerir er budd bywyd gwyllt yn helpu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6.

Beth yw ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder?

Mae ymyl ffordd yn llain o lystyfiant (glaswellt, blodau, coed, gwrychoedd/perthi) wrth ymyl ffordd neu balmant.

Mae glaswelltir amwynder yn ardal laswelltog agored (parc, cae chwarae, man gwyrdd) a ddefnyddir gan y cyhoedd. 

Beth yw dôl?

Mae dôl yn gae ac ynddo flodau gwyllt brodorol a glaswellt mân nad ydyn nhw’n cael eu torri tan ddiwedd yr haf. Cyn eu torri, gall glaswellt a blodau gwyllt dyfu i uchder pen-glin. Mewn dôl gwair traddodiadol, cesglir y glaswellt wedi'i dorri fel gwair, a ddefnyddir i fwydo anifeiliaid yn y gaeaf.

Gallwn ni efelychu'r gwaith o reoli dolydd gwair traddodiadol drwy:

  • dorri a
  • chasglu

ar yr adeg iawn. Mae gadael i flodau gwyllt dyfu a hadu yn caniatáu iddyn nhw gynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae angen inni fod yn amyneddgar. Ar ôl ychydig flynyddoedd, gallai ein ymylon a'n glaswelltiroedd amwynder ddod yn ddolydd blodau gwyllt brodorol.

Ar ddiwedd yr haf, efallai y bydd ardaloedd tebyg i ddolydd yn dechrau edrych yn anniben. Mae planhigion yn defnyddio egni i wneud hadau ar gyfer blodau gwyllt y flwyddyn nesaf. Mae'r ardaloedd hyn yn dal i fod yn bwysig iawn i fywyd gwyllt gwblhau eu cylch bywyd llawn. Maen nhw’n parhau i ddarparu lloches a bwyd i bryfed, mamaliaid, ymlusgiaid ac adar. 

Mae amrediad eang o fywyd gwyllt yn byw mewn dolydd blodau gwyllt brodorol. Gall dôl naturiol nodweddiadol gefnogi mwy na 1,400 o rywogaethau o infertebratau. Dros filoedd lawer o flynyddoedd, maen nhw i gyd wedi addasu i fyw gyda'i gilydd. 

Gallwch chi ddysgu mwy am ddolydd ar Hyb Dolydd Plantlife (ar meadows.plantlife.org.uk).

Pam mae dolydd yn dda i bobl?

Mae ymchwil yn dangos y gall cysylltu â bywyd gwyllt fod o fudd i iechyd a lles meddyliol pobl. Mae creu rhagor o ardaloedd tebyg i ddolydd yn ein cymunedau’n ein galluogi i brofi natur o ddydd i ddydd.

Gall cerdded drwy ddolydd blodau gwyllt wella iechyd meddwl drwy leihau:

  • straen
  • pryder
  • iselder

Mae hefyd yn lleihau'r risg o salwch, gan gynnwys diabetes, clefyd cardiofasgwlaidd a chanser. Mae pobl yn rhan o fyd natur. Pan fyddwn ni'n agos at natur rydyn ni hefyd yn teimlo'n dawelach, yn hapusach ac yn gallu meddwl yn well.

Mae GIG Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cysylltu â byd natur. Yn ddiweddar, gwnaethon ni ariannu'r prosiect Dolydd Godidog. Drwy hyn, creodd Plantlife a staff y GIG Lwybr Iechyd a Lles Dolydd Eithinog. Gallwch fynd ar daith rithwir - Gallwch fynd ar daith rithwir - Llwybr Iechyd a Lles Dolydd Eithinog (ar storymaps.arcgis.com).

Beth yw torri a chasglu?

Mae torri a chasglu yn ddull sy'n efelychu ffyrdd traddodiadol o reoli dolydd gwair. Mae'n golygu casglu'r glaswellt ar ôl iddo gael ei dorri. Mae hyn yn bwysig oherwydd:

  • ei fod yn atal llystyfiant marw, sy'n gallu mygu planhigion bregus, rhag cronni
  • ei fod yn gadael rhagor o dir agored i ganiatáu i hadau dyfu
  • ei fod yn lleihau ffrwythlondeb pridd. Mae hyn yn arafu twf glaswellt sy'n hoff o faethynnau, sy'n tagu blodau gwyllt a glaswellt mân.

Gellir mynd â thoriadau a gesglir i safleoedd gwastraff gwyrdd i'w troi'n gompost. Lle nad oes cyfleusterau ar gael, gellir gadael toriadau mewn mannau pwrpasol i bydru. Gall y pentyrrau hyn gynnig lloches i infertebratau a bywyd gwyllt arall.

A fydd glaswellt hir yn cael effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd?

Mae'n bwysig ein bod yn cadw'r ffordd yn ddiogel i bob defnyddiwr. Ond, gallwn ni hefyd wella mannau ar gyfer natur ar hyd ymylon ffyrdd. Nid yw cael ymylon bioamrywiol yn golygu y bydd ffyrdd yn llai diogel. Gall rhai ardaloedd lle byddai glaswellt hir yn atal defnyddwyr ffyrdd rhag gweld a chyffyrdd gael eu torri'n amlach er mwyn sicrhau diogelwch.

Sut dylid torri'r glaswellt ar laswelltiroedd amwynder?

Er mwyn bod o'r budd mwyaf i fywyd gwyllt, dylid torri glaswelltiroedd amwynder yn yr un modd â dôl. Ond, defnyddir gwahanol rannau o laswelltir amwynder at ddibenion gwahanol. Efallai y bydd angen torri rhai ardaloedd yn amlach. Bydd gadael lleiniau heb eu torri am fwy o amser nag arfer yn y gwanwyn neu dorri'r glaswellt yn llai aml drwy gydol y flwyddyn yn helpu blodau byr (llygaid y dydd, meillion) i dyfu. Mae'r rhain yn darparu bwyd i bryfed peillio. Bydd torri gwahanol ardaloedd mewn cylchdro yn caniatáu i rai ardaloedd flodeuo.

Mewn dolydd, bydd torri lleiniau cul ar hyd ymyl llwybrau troed caled yn eu cadw'n glir. Mae llwybrau troed glaswellt byr yn caniatáu i bobl gerdded drwy ardaloedd o laswellt dolydd hirach lle mae blodau gwyllt. Mae torri fel hyn yn dangos bod y glaswellt hirach yn cael ei adael yn fwriadol.

Gall gosod arwyddion esbonio'r manteision i fywyd gwyllt. Gallan nhw hefyd fod yn ddefnyddiol i atgoffa pobl nad yw ardaloedd yn cael eu hesgeuluso. 

Mae Natur Wyllt (ar monlife.co.uk) wedi cynhyrchu Cod Gweithredu. Gall hyn helpu sefydliadau i ddeall ffyrdd eraill o reoli glaswelltiroedd.

Mae gan Bartneriaethau Natur Lleol gydgysylltwyr ym mhob rhan o Gymru. Maen nhw'n darparu cyngor a chymorth arbenigol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Mae Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Rachel Carter, yn cefnogi Cynghorau Cymuned a Thref. Mae Rachel yn rhoi cyngor a chymorth i ddod o hyd i gyllid. Mae hi hefyd yn cynnig cymorth cyffredinol gyda chynlluniau bioamrywiaeth.

Pa wiriadau ddylwn i eu gwneud er mwyn peidio ag anafu anifeiliaid?

Cyn torri, dylech gerdded dros yr ardal i gael gwared ar sbwriel. Mae hyn hefyd yn helpu i adael i'r rhan fwyaf o anifeiliaid bach wybod eich bod chi yno, fel y gallant symud i ffwrdd cyn i chi ddechrau torri.

Fodd bynnag, pan fyddant dan fygythiad, mae draenogod yn cyrlio i fyny mewn pêl dynn ac nid ydynt yn symud i ffwrdd. Mae hyn yn eu gwneud yn agored i niwed. Mae ysbytai draenogod a chanolfannau achub yn derbyn llawer o ddraenogod wedi'u hanafu'n ddrwg gan strimwyr. Gall anafu draenogod â strimiwr eu lladd, neu achosi heintiau sy'n arwain at farwolaeth araf. Hyd yn oed os yw draenog wedi'i anafu yn cael ei gludo i ganolfan achub, efallai y bydd angen ei ewthaneiddio.  

Felly, mae'n bwysig gwirio am ddraenogod cyn strimio neu dorri. Os ydych chi'n dod o hyd i ddraenog, gadewch lonydd iddo, a pheidiwch â thorri'r ardal honno. 

Gall draenogod fod mewn glaswellt hir tebyg i ddôl sydd wedi'i adael i dyfu dros yr haf. Gallent fod yn gorffwys ynddo yn ystod y dydd. Maent hefyd yn cysgodi mewn:

  • darnau o lystyfiant trwchus (fel mieri neu lwyni)
  • o dan wrychoedd
  • dan sbwriel sydd cael ei daflu (ee drysau ceir, hen garpedi ac ati) neu
  • mewn pentyrrau o ddail, glaswellt, ffyn neu foncyffion.

Maent yn debygol o ddefnyddio ardaloedd o'r fath ar gyfer gaeafgysgu a nythod bridio.  Os ydych chi'n torri glaswellt hir ger ardaloedd fel hyn, dylech wirio'n ofalus cyn i chi dorri.

Mae'n well peidio â thorri glaswellt hir wrth ymyl ardaloedd o'r fath tan yr hydref er mwyn osgoi tymor bridio draenogod (mis Mai tan fis Medi fel arfer).  Os aflonyddir ar ddraenog sy'n nythu, mae'n debygol o gefnu ar ei draenogod ifanc.

Ystyriwch dorri cylchdro yn yr ardaloedd hyn fel bod ardal heb ei strimio ar ôl bob amser er mwyn i ddraenogod, pryfed ac anifeiliaid bach eraill gysgodi ynddi.

Mae rhagor o wybodaeth am ecoleg draenogod a rheoli tir ar gael ar wefan British Hedgehog Preservation Society. Mae British Hedgehog Preservation Society hefyd wedi cynhyrchu poster.

Bydd rhoi sticer ar eich strimiwr neu beiriant torri gwair arall yn eich atgoffa bod angen i chi wirio am ddraenogod. Mae sticeri ar gael gan https://hedgehogaware.org.uk/shop.php.

A ddylwn i ddefnyddio chwynladdwyr neu wrtaith ar ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder?

Gall chwynladdwyr, gan gynnwys lladdwr mwsogl, effeithio ar flodau gwyllt wrth iddyn nhw ymsefydlu a thyfu. Mae gwrteithiau'n cynyddu tyfiant glaswellt, sy'n gallu mygu blodau gwyllt. Dylech chi osgoi defnyddio'r rhain os ydych chi eisiau blodau gwyllt.

Mae sawl ffordd o reoli chwyn heb ddefnyddio cemegion. Gall mabwysiadu dull Rheoli Plâu Integredig eich helpu i wneud hyn. Gofynnwch ichi eich hun bob amser a oes angen unrhyw reoli, ac os oes a allwch chi ddefnyddio dewis arall nad yw'n defnyddio cemegion. Mae rhagor o wybodaeth am reoli â llaw, yn fecanyddol ac â chemegion ar gyfer dolydd ar Hyb Dolydd (ar meadows.plantlife.org.uk). Mewn rhai achosion, (e.e. rheoli planhigion estron goresgynnol) gall ddefnyddio chwynladdwr fod yn briodol. Os ydych chi’n defnyddio chwynladdwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth i'w ddefnyddio, pryd i'w ddefnyddio a sut i ddefnyddio cyn lleied ag sydd ei angen.

Pam mae'n bwysig trafod â phobl ynghylch newidiadau i arferion torri glaswellt?

Dylech chi drafod newidiadau i arferion torri glaswellt â phobl leol a grwpiau cymunedol. Gall wneud hyn roi gwell dealltwriaeth i bawb o sut mae'r mannau'n cael eu ddefnyddio. Gall helpu i osgoi disgwyliadau afrealistig ac atal pobl rhag cael siom. Bydd yn darparu cyfleoedd i esbonio:

  • y manteision y gall newidiadau i drefniadau torri glaswellt eu cynnig i fyd natur
  • nad arbed arian yw pwrpas torri glaswellt yn llai aml
  • bod newid o ddôl sy'n llawn glaswellt i ddôl sy'n llawn blodau’n cymryd amser
  • sut y gallan nhw gymryd rhan

 phwy ddylwn i gysylltu os oes gen i rywbeth i'w ddweud?

Yn gyntaf, mae angen ichi gael gwybod pwy sy'n rheoli ymylon eich ffyrdd neu eich mannau gwyrdd. Bydd y sefydliad hwn yn gallu egluro beth maen nhw'n ei wneud a pham.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Asiantau Cefnffyrdd i ofalu am ein rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd. Gweler y wybodaeth am ymylon ffyrdd ar y  rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd.

Fel arfer awdurdodau lleol sy'n rheoli ymylon ffyrdd eraill a glaswelltiroedd amwynder.  Gall cynghorau cymuned a thref, cymdeithasau tai a grwpiau cymunedol hefyd reoli glaswelltiroedd cyhoeddus. 

Mewn ardaloedd trefol, pa mor ddefnyddiol yw cyfuniadau o hadau unflwydd

Mae hau blodau gwyllt estron lliwgar unflwydd yn creu golygfa ddeniadol. Gall ddarparu planhigion sy'n gyfoeth mewn paill a neithdar ar gyfer pryfed peillio. Ond mae anfanteision:

  • gall ddarparu ateb cyflym ar gyfer pryfed peillio. Ni fydd yn cynnal yr amrediad eang o infertebratau sy'n bwydo ar flodau dolydd brodorol
  • gelwir nhw weithiau'n 'ddolydd blodau gwyllt' ond nid dolydd mohonyn nhw
  • gall cyfuniadau o rywogaethau unflwydd, sydd yn aml yn estron, yn ddrud i'w prynu. Gall eu cynnal nhw fod yn ddwys o ran llafur ac efallai y bydd angen eu hau bob blwyddyn
  • defnyddir chwynladdwyr yn aml i glirio ardaloedd cyn hau
  • nid yw plannu cyfuniadau generig o hadau blodau gwyllt yn gwneud fawr ddim i warchod ein blodau gwyllt brodorol. Gall hefyd fygwth eu natur unigryw

Mae'r dull torri a chasglu yn efelychu ffyrdd traddodiadol o reoli dolydd gwair. Mae newid i'r dull hwn yn rhoi cyfle i laswelltir gyrraedd ei botensial ar gyfer blodeuo. Mae angen inni fod yn amyneddgar. Gall gymryd sawl blwyddyn i droi ardal laswelltog yn ddôl blodau gwyllt brodorol. I adfer glaswelltir sy'n arbennig o wael o ran rhywogaethau, ystyriwch ddefnyddio hadau blodau gwyllt neu wair gwyrdd lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am greu ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder sy'n gyfoethog o ran rhywogaethau ar gael yn:

Beth yw pryfed peillio a pham mae angen ein help arnyn nhw?

Mae ein peillwyr gwyllt yn cynnwys:

  • cacwn a gwenyn eraill
  • glöynnod byw a gwyfynod
  • pryfed ac amryw o bryfed eraill fel chwilod, gwenyn meirch a thripiau

Mae llawer yn dirywio. Mae gwenyn mêl hefyd yn bryfed peillio. I raddau helaeth, yng Nghymru, mae gwenyn mêl yn rhywogaeth a ffermir. Maen nhw'n adnodd gwerthfawr ond nid ydyn nhw'n dirywio.

Mae'r gostyngiad mewn pryfed peillio gwyllt wedi digwydd yn bennaf o ganlyniad i golli, darnio a diraddio cynefinoedd. Gweler Adroddiad Gwenyn sydd dan Fygythiad Cymru (2018) (on cdn.buglife.org.uk). Mae angen blodau ar bryfed peillio ar gyfer bwyd. Mae angen cynefinoedd arnynt i fyw ynddyn nhw, i ddodwy wyau ac i'r rhai ifanc fwydo a datblygu. Felly, bydd darparu cynefin, gyda ffynonellau bwyd a lloches yn eu helpu i oroesi.

Mae pryfed peillio yn hanfodol ar gyfer cynnal bioamrywiaeth a'r ecosystem ehangach. Maen nhw’n peillio llawer o:

  • gnydau a ffermir a
  • phlanhigion gwyllt

drwy gynhyrchu hadau, ffrwythau a chnau. Mae amrywiaeth eang o fywyd gwyllt yn bwydo ar y rhain.

Mae creu rhagor o ymylon sy'n debyg i ddolydd a glaswelltiroedd amwynder yn un ffordd o helpu pryfed peillio.

Gallwch ddysgu am ragor o ffyrdd o helpu pryfed peillio yma Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru Cyfeillgar i wenyn (biodiversitywales.org.uk)

Beth yw cynllun Caru Gwenyn?

Lansiwyd cynllun Caru Gwenyn yn 2016 o dan y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio. Enw'r cynllun yw Caru Gwenyn, ond mae'n ein hannog i weithredu i helpu pob pryfed peillio, nid gwenyn yn unig.

Dysgwch sut gallwch helpu pryfed peillio yma Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru Cyfeillgar i wenyn (biodiversitywales.org.uk).

Beth yw'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio?

Gwnaethon ni lansio’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio yn 2013. Ei nod yw lleihau a gwrthdroi’r dirywiad mewn pryfed peillio. Cafodd ei ddatblygu gydag amrediad eang o bobl â diddordeb ledled Cymru. Mae'r camau gweithredu yn ceisio:

  • darparu cynefinoedd amrywiol a chysylltiedig sy'n llawn blodau i sicrhau poblogaethau pryfed peillio iach
  • codi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd a'u rheoli nhw

Rydyn ni wedi ffurfio Is-grŵp i'r Tasglu Ymylon Ffyrdd a Glaswelltiroedd Amwynder. Ei nod yw sefydlu cymuned o arferion da. Os ydych chi'n gysylltiedig ag ymylon ffyrdd neu laswelltir amwynder, mae croeso ichi ymuno â'r grŵp hwn. Cysylltu â NatureConservation@llyw.cymru.

Beth yw Lleoedd Lleol ar gyfer Natur?

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yw ein menter i greu Natur ar Garreg eich Drws. Mae wedi'i dylunio i adfer a gwella natur lle mae pobl yn:

  • byw
  • gweithio, a
  • chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus

Mae'n darparu cyllid, ynghyd â chymorth i weithredu prosiectau penodol. Mae'n gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu prosiectau.

Beth yw Partneriaethau Natur Lleol?

Mae Partneriaethau Natur Lleol yn:

  • darparu cyngor ar fioamrywiaeth
  • manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer cyllid a chydweithio
  • grymuso grwpiau cymunedol i weithredu
  • targedu gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned drwy ddefnyddio'r sgiliau sydd ar gael
  • cefnogi adferiad natur yng Nghymru
  • maen nhw'n bwynt cyswllt hollbwysig ar gyfer cyngor ac arbenigedd

Mae gan Bartneriaethau Natur Lleol gydgysylltwyr ym mhob rhan o Gymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Rhwng 2019 a 2020, gwnaethon ni ariannu Partneriaethau Natur Lleol yng Nghymru i hwyluso rhwydwaith adfer natur ledled Cymru. Gallwch chi ddarllen mwy yma Partneriaethau Natur Lleol a'u prosiectau (ar lnp.cymru).

Rydyn ni hefyd yn helpu sefydliadau i brynu offer torri a chasglu. Mae'r offer yn galluogi awdurdodau lleol i:

  • newid arferion torri glaswellt
  • ehangu'r ardaloedd lle gallan nhw wella bioamrywiaeth

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn parhau i wella ardaloedd glaswelltir ar gyfer bioamrywiaeth. Bydd yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau ar draws y sector dielw gan gynnwys:

  • awdurdodau lleol
  • cynghorau cymuned a thref
  • cymdeithasau Tai
  • ysgolion
  • y GIG
  • eraill sy'n rheoli glaswelltir yn ddielw

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cydgysylltydd Partneriaeth Natur Lleol.

Beth yw ‘Iddyn Nhw’?

Ymgyrch yw ‘Iddyn Nhw’ sy’n dysgu pobl mai diben newid y drefn torri porfa yw achub natur.

Mae torri’r borfa’n llai aml ar ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd yn creu cynefin ‘Iddyn Nhw’:

  • blodau gwyllt
  • infertebratau
  • adar
  • mamaliaid
  • amffibiaid
  • ymlusgiaid

Os ydych chi’n gyfrifol am ymylon ffyrdd neu fannau gwyrdd cyhoeddus, hoffem i chi ymuno â ni.  Mae angen eich cefnogaeth arnon ni i’w helpu ‘Nhw’ i lwyddo.  Rydyn ni wedi creu pecyn o adnoddau i’ch helpu.  Ychwanegwch eich logos a’ch manylion eich hun at:

  • templed y ffeithlun
  • templedi arwyddion y gallwch eu printio
  • taflen fer gyda rhai cwestiynau cyffredin

Hoffwn ichi fynd â’r gair ar led am ‘Iddyn Nhw’.  Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.  Rhannwch y negeseuon ar eich cyfryngau cymdeithasol.  Gyda’ch cymorth, gallwn annog mwy o bobl i dorri porfa’n llai aml a helpu i achub natur.

Mae adnoddau ‘Iddyn Nhw’ i’w gweld ar ein hymgyrch Iddyn Nhw: pecyn cymorth i randdeiliad

A oes unrhyw wefannau ac adnoddau defnyddiol eraill ar gael?

Creu Ymylon a Glaswelltir Amwynder sy'n gyfeillgar i Natur: Materion Ymarferol, Problemau ac Atebion

Cysylltu Cymunedau â Natur: cynyddu capasiti yn y gymuned

Atebion Seiliedig ar Natur i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd