Daeth yr ymgynghoriad i ben 27 Tachwedd 2023.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Galwad am dystiolaeth i ganfod beth sy’n hysbys am gynghorau cymuned a thref a sut i gynyddu ymgysylltiad o fewn cymunedau.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd ar gyfer cynghorau cymuned a thref yn awyddus i dderbyn tystiolaeth i:
- gael gwybodaeth am eich ymwybyddiaeth o gynghorau cymuned a thref a’ch ymgysylltiad â nhw,
- canfod sut i gynyddu diddordeb a chynrychiolaeth ar gynghorau cymuned a thref.