Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw ar ymwelwyr â Chymru o Brydain yn dangos bod Cymru wedi perfformio’n well na gweddill Prydain yn y 12 mis sy’n dod i ben fis Mai 2017.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod y cyfnod hwn, treuliwyd 9.657 miliwn o nosweithiau yng Nghymru.  Gallai’r ffigurau ddangos fod pobl sy’n dod i Gymru o Brydain bellach yn dod o hyd i fwy a mwy o resymau i aros am gyfnod hwy – gan bod nifer y nosweithiau wedi cynyddu bron 5%.  

O gymharu, mae nifer yr ymweliadau â Phrydain yn gyffredinol wedi gostwng 3.7% dros yr un cyfnod, a nifer y nosweithiau wedi gostwng 3.2%. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Mae’r dangosyddion hyn yn  bositif iawn ar gyfer 2017. Mewn marchnad hynod gystadleuol, mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref ac mae’r ffigurau hyn yn parhau i adlewyrchu y llwyddiant a gafwyd gennym dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ogystal â hyn, dywedodd 87% o ymatebwyr i’n harolwg baromedr twristiaid a gynhaliwyd ym mis Mehefin eu bod yn hyderus ynghylch sut y byddai eu busnes yn perfformio dros yr haf. 

Byddwn yn parhau gyda’n gwaith ymgyrchu i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i ddenu y rhai hynny sy’n bwriadu treulio gwyliau gartref oherwydd y bunt wan.”