Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch sut y gallwch ymweld ag un o safleoedd coetir Coedwig Genedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Yn 2020, fe ddechreuon ni wireddu'n hymrwymiad i ddatblygu Coedwig Genedlaethol Cymru. Ein nod yw ffurfio rhwydwaith o goetiroedd cysylltiedig sy'n ymestyn hyd a lled Cymru. Daethom â'r safleoedd coetir cyntaf i mewn i'r rhwydwaith. Mae'r coetiroedd hyn yn rhan o'n Stad Goetir Llywodraeth Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n eu rheoli ac yn gofalu amdanyn nhw.

Yn 2023, gwnaethon ni lansio'r Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol. Roedd hyn yn galluogi safleoedd coetir y tu allan i'n hystâd i ymuno â'r Goedwig Genedlaethol. Cafodd y 15 coetir preifat cyntaf eu hychwanegu at y rhwydwaith ym mis Tachwedd 2023.  

Mae'r Goedwig Genedlaethol yn parhau i dyfu. Erbyn hyn, mae'r rhwydwaith yn cynnwys dros 100 o safleoedd coetir. Gallwch weld y safleoedd a restrir isod, neu gweld safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru ar ein map. Mae gan y rhan fwyaf wefannau sy'n darparu gwybodaeth am y goedwig a sut i gyrraedd yno.

Rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru: Gogledd-orllewin Cymru

Rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru: Gogledd-ddwyrain Cymru

Rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru: Canolbarth Cymru

Rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru: Gorllewin De Cymru

Rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru: Canol De Cymru

Rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru: De-ddwyrain Cymru