Rydym wedi dechrau derbyn ceisiadau aelodaeth i ymuno â'r grŵp Hyb Gwybodaeth Caffael Masnachol (Khub) newydd.
Gan fod hwn yn grŵp cyfyngedig ar gyfer sector cyhoeddus Cymru, mae'r canlynol yn berthnasol:
- Dim ond aelodau a gymeradwyir gan weinyddwyr y grŵp gaiff ymuno.
- Dim ond enw a disgrifiad y grŵp y gall pob aelod o'r Hyb Gwybodaeth chwilio amdanynt a'u gweld.
- Mae holl gynnwys a gweithgarwch y grŵp yn weladwy ac yn hygyrch i aelodau sydd wedi'u cymeradwyo'n unig.
- Mae gan bob aelod ei ffrwd gweithgarwch ei hun ar ei hafan. Bydd hyn yn dangos y newyddion diweddaraf ar draws y grwpiau y maent yn aelodau ohonynt. Bydd diweddariadau sydd wedi'u rhannu'n gyhoeddus ar draws yr Hyb Gwybodaeth hefyd yn ymddangos ar eu tudalen hafan.
Os ydych yn gweithio mewn rôl fasnachol a chaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yr hoffech gael mynediad at y cynnwys, anfonwch gais i ymuno.
Cofiwch, bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar yr Hyb Gwybodaeth cyn anfon cais i ymuno â'r grŵp.