Mae Llywodraethau Cymru ac Iwerddon yn cydweithio ar ddiogelu ac adeiladu ar y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ar draws Môr Iwerddon, meddai'r ddwy lywodraeth heddiw.
Cyfarfu Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates a Gweinidog Gwladol Llywodraeth Iwerddon yn yr Adran Drafnidiaeth Sean Canney heddiw yn Nulyn i drafod gwytnwch y croesfannau rhwng Cymru ac Iwerddon, a beth arall y gellir ei wneud i'w diogelu ar gyfer y dyfodol.
Buont yn trafod cylch gorchwyl y Tasglu sydd i'w gadarnhau cyn bo hir. Bydd pwyntiau allweddol yn cynnwys gwytnwch, cynllunio wrth gefn a datblygiadau yn y dyfodol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates
"Mae'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, nid yn unig am resymau economaidd ond am resymau diwylliannol hefyd. Amlygodd cau porthladd Caergybi dros dro i bawb pa mor hanfodol yw'r cysylltiad hwn rhwng ein gwledydd. Byddwn yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd dros y misoedd diwethaf, gan ystyried pwyllgorau gwaith y Senedd a Senedd y DU, i weld beth allwn ni i gyd ei wneud i gryfhau gwytnwch y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon a'n porthladdoedd ar gyfer y dyfodol.
"Mae'n bwysig bod mewnbwn Llywodraeth Iwerddon a diwydiant yng ngwaith y tasglu ac mae'n cynrychioli eu hanghenion hefyd, sef prif ffocws heddiw. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd ar y gwaith hanfodol hwn."
Meddai Gweinidog Gwladol Iwerddon dros Drafnidiaeth Ryngwladol a Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd, Seán Canney,
"Dwi'n falch iawn fy mod wedi cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates heddiw, i gadarnhau ymhellach y berthynas gref a grëwyd rhwng ein Llywodraethau yn ystod y tarfu ar borthladd Caergybi. Rwy'n croesawu sefydlu Tasglu Cymru i edrych ar sut i sicrhau gwydnwch y llwybr masnach hanfodol rhwng Dulyn a Chaergybi i'r dyfodol. Fel Gweinidog sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth Ryngwladol a Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd, rwyf wedi ymrwymo i gyfrannu at waith pwysig Tasglu Cymru dros y misoedd nesaf. Bydd hyn yn sicrhau bod buddiannau Iwerddon yn cael eu nodi a'u deall, ac yn helpu i fframio argymhellion wrth sicrhau'r cysylltiad economaidd hanfodol hwn."