Neidio i'r prif gynnwy

“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cefnogaeth ar gael ar gyfer anghenion iechyd meddwl sy'n newid”, meddai'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wrth gyhoeddi y bydd mwy na £9 miliwn ar gael yn benodol i gefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyllid ychwanegol, sy'n cael ei gyhoeddi ar ddechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant, yn cydnabod yr effaith y mae bod i ffwrdd o’r ysgol a rhwydweithiau cymorth rheolaidd wedi'i chael ar bobl ifanc yn ystod y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ei bod yn awyddus i fynd i'r afael ag iechyd meddwl ar draws cymdeithas ac mae'n gwario mwy ar hyn nag ar unrhyw agwedd arall ar y GIG – gydag isafswm gwariant wedi'i ddiogelu o £783m ar gyfer 2021-22. Mae hyn yn cynrychioli £42m o gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl, gan nad pobl ifanc yn unig sy'n cael trafferth gyda hyn yn ystod y pandemig. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oherwydd y lefelau uwch o orbryder yng Nghymru yn ystod y pandemig, a'r cynnydd a ragwelir mewn problemau iechyd meddwl.
Gydag ymchwil yn dangos bod problemau iechyd meddwl yn dechrau'n bennaf pan fydd pobl yn blant neu'n bobl ifanc, bydd £4m ychwanegol ar gael i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol mewn ysgolion fel rhan o'r Dull Systemau Cyfan.

Caiff £5.4m arall ei roi i CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) er mwyn cefnogi pobl ifanc sydd angen cymorth mwy dwys yn y gymuned ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol.

Bydd hefyd mwy o gwnsela a chymorth emosiynol ar gael i blant ysgol, a fydd yn cyfrannu at eu hiechyd cyffredinol, eu lles, eu hiechyd emosiynol a'u gwydnwch.

Gwelwyd canlyniadau addawol ar ôl gwerthusiad interim o raglen beilot CAMHS mewn ysgolion, ac felly mae'r cyllid ychwanegol yn golygu y gellir cyflwyno'r rhaglen hon i bob ysgol yng Nghymru er mwyn meithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder, gan gefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion a gwella mynediad ysgolion at staff arbenigol, ymgynghorwyr a chyngor pan fo’u hangen.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, yn ystod lansiad Wythnos Iechyd Meddwl Plant heddiw (1 Chwefror):

Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn dangos ein bod yn cydnabod yr effaith y mae'r pandemig yn ei chael arnynt ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wella’r cymorth sydd ar gael iddynt.

Rydym yn deall y gall cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, mewn llawer o achosion, atal effeithiau andwyol tymor hwy, a dyna pam rydym yn rhoi blaenoriaeth i hyn.

Rydym yn parhau i wario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r GIG ac rwy'n falch ein bod yn cefnogi ein gwasanaethau gyda buddsoddiad ychwanegol yn y Gyllideb ddrafft.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

Mae sicrhau bod cymorth iechyd meddwl effeithiol ar gael i'n plant yn hanfodol os ydynt am dyfu i fod yn unigolion iach a hyderus.

Fel rhan o'n dull ysgol gyfan, rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn yr ysgol a thu allan i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwybod lle i fynd am gymorth emosiynol ac yn teimlo’u bod yn cael digon o gefnogaeth.

Bydd y cyllid o £4m yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r rhaglen hon a bydd yn gwella'r adnoddau a'r gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn y cyfnod heriol hwn.

Ychwanegodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

Mae'r pandemig yn cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl o bob oed, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae'r cymorth rydym yn ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl fel rhan o Gyllideb 2021-22 yn arwydd o'n hymrwymiad parhaus i'r gwasanaethau pwysig iawn hyn.