Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd heddiw yn gofyn i bobl wneud safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gall cefnogwyr yr ymgyrch roi lluniau o'u hunain braich ym mraich ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn dangos eu bod yn cefnogi'r ymgyrch, a defnyddio'r hashtag #cymruyngwneudsafiad. 

Bydd y lluniau yn cyd-fynd â’r ymgyrch hysbysebu sy'n dechrau heddiw ar drafnidiaeth gyhoeddus, posteri a byrddau o amgylch gorsafoedd trên Cymru, sy'n dangos grwpiau o bobl braich ym mraich. 

Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl sy'n profi cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol drwy wefan Byw Heb Ofn a llinell gymorth gyfrinachol 24 awr y dydd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:

"Dyw hi ddim bob amser yn hawdd sylwi ar achosion o gam-drin domestig a gall misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd fynd heibio cyn i rywun weld yr arwyddion.

"Efallai bod cydweithwyr, ffrindiau, cymdogion ac hyd yn oed aelodau'r teulu yn ofni gwneud unrhyw beth, er eu bod yn amau, gan eu bod nhw’n ofni gwneud camgymeriad, ymyrryd neu hyd yn oed wneud sefyllfa'r un sy'n dioddef yn waeth. Yn yr ymgyrch hon, ein nod yw gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt os ydyn nhw'n amau bod ffrind neu aelod o'r teulu yn cael ei gam-drin. 

"Rydyn ni wedi ymrwymo i drechu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain. Felly, rwy'n annog pawb yng Nghymru i wneud safiad a chefnogi ein hymgyrch."

Os ydych chi’n credu eich bod yn adnabod rhywun sy'n dioddef cam-drin domestig, neu os ydych chi'n ddioddefwr eich hunan, ffoniwch y llinell gymorth gyfrinachol 24-awr am ddim ar 0808 80 10 800 neu ewch i www.llyw.cymru/bywhebofn i gael rhagor o wybodaeth.