Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr her yn cael ei chynnal o 17 Mehefin tan 26 Mehefin 2018 mewn amryw o sefydliadau iechyd a gofal ar draws y DU i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r her Codi, Gwisgo, Symud (#EndPJParalysis) yn cael ei chynnal dros 70 diwrnod. Nod yr ymgyrch yw cyflawni gwerth un miliwn o ddiwrnodau claf gyda chleifion perthnasol yn newid o’u pyjamas a gwisgo a symud o gwmpas, dros gyfnod o 70 diwrnod. Bydd yr her yn cael ei chynnal o 17 Mehefin tan 26 Mehefin 2018 mewn amryw o sefydliadau iechyd a gofal ar draws y DU i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed. 

Mae ymchwil yn dangos, yn achos 60% o gleifion nad ydyn nhw’n symud, nad oes unrhyw reswm meddygol pam y dylent aros yn y gwely. Mae wedi dod i’r amlwg hefyd, yn achos cleifion sydd dros 80 oed, fod 10 niwrnod o orffwys yn y gwely yn gallu arwain at golli màs y cyhyrau sydd gyfystyr â’r hyn a gollir dros gyfnod o hyd at 10 mlynedd fel arfer. 

Cafodd ymgyrch Get up and Go! Ysbyty Treforys ei lansio’r llynedd i helpu cleifion a’u teuluoedd i ddeall pam mae cleifion yn cael eu hannog gan staff i godi o’r gwely a gwisgo tra eu bod dal ar y ward.  

Mae cymryd rhan mewn cynllun o’r fath yn arwain at fanteision fel: 

  • lleihau’r amser y bydd rhaid i gleifion aros yn yr ysbyty 
  • lleihau’r risg na fydd cleifion yn gallu symud mor hawdd, y byddant yn colli eu ffitrwydd neu’n syrthio 
  • lleihau gwastraff bwyd oherwydd bod cleifion yn symud mwy ac angen mwy o egni
  • lleihau’r risg y bydd angen gofal sefydliadol ar gleifion pan fyddant yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty 
  • gwella llesiant cleifion a staff.
Yn ystod ymweliad ag Ysbyty Treforys i weld y cynllun ar waith heddiw, dywedodd yr Athro White: 

“Drwy siarad â rhai o’r cleifion sydd yma, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun y manteision y bydd codi o’r gwely a gwisgo yn eu cael o safbwynt helpu pobl i wella.

“Mae’n well gan gleifion, yn gyffredinol, fod gartref nac yn yr ysbyty ac mae ymchwil yn dangos y gallai aros yn rhy hir yn y gwely wneud mwy o ddrwg nag o les. Felly, drwy fod yn fwy egnïol, mae cleifion yn aros yn gryf ac yn helpu eu hunain i wella fel y gallan nhw fynd adref yn gynharach.  

“Mae’n newid braf i weld cymaint o gleifion yn symud o gwmpas y ward heddiw. Gall y newid bach syml hwn gael effaith gadarnhaol iawn ar gleifion, o safbwynt eu hiechyd meddwl a chorfforol. Rwy’n annog pob sefydliad iechyd a gofal yng Nghymru i gymryd rhan yn yr ymgyrch Codi, Symud, Gwisgo.”  

Dywedodd y ffisiotherapydd Sharon Maggs:

“Mae ymchwil ar gael sy’n dangos bod 10 diwrnod yn y gwely yn gallu arwain at golli cryfder yn y cyhyrau sydd ar yr un lefel â’r hyn a fydd yn cael ei weld dros gyfnod o hyd at 10 mlynedd fel arfer. Mae hynny’n syfrdanol. 

“Rydyn ni’n gwybod nad aros yn y gwely yw’r peth gorau i gleifion ei wneud bob amser. Hoffem ni rannu’r neges â chleifion, aelodau eu teuluoedd ac ymwelwyr i beidio â chael syndod wrth ddod i’r ysbyty os byddan nhw’n fy ngweld i, neu fy nghydweithwyr, yn annog cleifion i godi, ymolchi a gwisgo.

“Rydyn ni eisiau eu gweld nhw’n ymddwyn fel byddan nhw’n ei wneud fel arfer, a bod yn naturiol. Dyna yw’r moddion gorau.”

Dywedodd y Therapydd Galwedigaethol Sarah Morse:

“Yr hyn rydyn ni eisiau gweld unigolion yn ei wneud pan fyddan nhw’n dod i’r ysbyty yw codi, dewis beth maen nhw ei eisiau i frecwast, gwisgo eu dillad, cerdded i’r ystafell ymolchi ac ymolchi. 

“Pethau y byddai rhywun yn ei wneud gartref o ddydd i ddydd yw’r rhain. Bydd gwneud hyn yn eich cadw chi’n iach, eich cadw chi’n gryf ac yn eich cadw chi’n egnïol.”