Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Vaughan Gething, wedi lansio ymgyrch sticeri ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau GIG sydd ar gael ar y stryd fawr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y sticeri newydd yn cael eu gosod yn ffenestri adeiladau optometryddion, deintyddion a fferyllwyr cymunedol i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r rôl bwysig y mae contractwyr annibynnol yn ei chwarae yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau'r GIG.

Yn ystod ymweliad â Fferyllfa Pritchard yn Sir Ddinbych, dywedodd Vaughan Gething:

"Mae ein fferyllfeydd, ein practisiau optometreg a'n deintyddfeydd yn darparu gwasanaethau iechyd cyfleus i bobl yn eu cymunedau eu hunain.  Ynghyd â pharctisiau meddygon teulu, yn aml iawn dyma'r mannau cyntaf a mwyaf rheolaidd lle bydd pobl yn dod i gyswllt â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.

"Bydd y sticeri finyl newydd, a fydd yn cael eu gosod mewn ffenestri ledled Cymru, yn gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r rôl bwysig y mae contractwyr annibynnol yn ei chwarae  yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau'r GIG.

"Maen nhw'n derbyn mwy o swyddogaethau clinigol yr oedd meddygon, ac weithiau ysbytai, yn arfer eu cyflawni. Maen nhw hefyd yn derbyn mwy o gyfrifoldeb am roi cyngor a thriniaeth i bobl sydd â mân anhwylderau.

"Os oes gan rhywun yng Nghymru broblem â'i ddannedd, dylai fynd at y deintydd. Os oes gan rywun broblem â'i lygaid neu olwg, ei optometrydd lleol yw'r person gorau i drafod y broblem ag ef. Gall fferyllfeydd roi meddyginiaeth ar gyfer nifer o fân anhwylderau heb fod angen presgripsiwn gan feddyg. 

"Rydyn ni am i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o'r holl wasanaethau GIG hyn yn eu cymunedau ac i wneud y Dewis Doeth o'u defnyddio pan fydd hynny'n briodol, yn hytrach na defnyddio meddygon teulu neu adran argyfyngau."