Neidio i'r prif gynnwy

Ffrindiau gorau yn cyd-sefydlu clwb pêl-droed i helpu i godi ymwybyddiaeth o roi organau

Siaradwch am roi organau: Ywain Shakespeare

Cydsefydlodd Colin Dixon, 37, o Benarth, y clwb pêl-droed elusennol Gobaith Cymru FC i godi ymwybyddiaeth o roi organau yng Nghymru ar ôl i’w ffrind gorau, Ywain Shakespeare, gael trawsblaniad a newidiodd ei fywyd.

Maent wedi codi bron i £850 ers iddynt ddechrau yn 2017, gan godi £350 yn y gêm ddiwethaf yn erbyn North Wales Dragons.

Nod y ddau yw creu digwyddiad blynyddol i gefnogi teuluoedd sy’n mynd drwy’r broses rhoi organau, drwy godi arian ar gyfer elusennau lleol sy’n helpu pobl fel Ywain a’i deulu.

Cafodd Ywain Shakespeare ei ddiagnosio â chlefyd o’r enw Biliary Atresia ar yr afu pan oedd ond yn 8 diwrnod oed.

Ar ôl pyliau o salwch a sawl llawdriniaeth, aeth enw Ywain ar y rhestr rhoi organau pan oedd yn 31 oed ac ym mis Mai 2017 cafodd driniaeth naw awr i gael trawsblaniad afu.

Meddai Ywain:

“Roedd hi’n anodd ar ôl fy llawdriniaeth. Roedd yn rhaid i mi frysio i wella erbyn geni fy mab, dim ond 10 diwrnod ar ôl y trawsblaniad. Y cwbl oeddwn i eisiau oedd gallu gwneud y pethau mae tadau yn eu gwneud a byddai hynny byth wedi digwydd heblaw am y trawsblaniad hwn.

“Breuddwyd arall i mi oedd cael troedio ar gae pêl-droed eto a chwarae gêm 11 bob ochr llawn. Felly, gyda Colin fy ffrind gorau, penderfynodd y ddau ohonom ni ddod â’r ddau beth at ei gilydd a dechrau CPD Gobaith Cymru.

“Ein gobaith yw dal ati gyda’r clwb ac yn y pen draw datblygu ein helusen allgymorth adsefydlu ein hunain yn y blynyddoedd nesaf.”

Nod Gobaith Cymru FC yw cefnogi pobl sydd wedi goroesi trawsblaniad i gymryd rhan drwy ddarparu grŵp cymorth lle gall pobl rannu profiadau, cyngor a chymorth, tra’n cadw’n brysur.

Meddai Colin:

“Roedd hi’n boenus gweld Ywain a’i deulu ifanc yn mynd trwy amser mor galed, ac fel ei ffrind gorau, roeddwn i am wneud rhywbeth i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael ail gyfle.”

Yn 2017-18, diystyrodd pum teulu Gofrestriad Rhoi Organau eu hanwyliaid i roi ac mewn 49 achos lle’r oedd cydsyniad tybiedig, roedd 16 achos lle nad oedd y teulu o blaid y cydsyniad hwnnw. Mae’r clwb pêl-droed am ledaenu’r neges ac annog pobl i gael y sgwrs gyda’u hanwyliaid.

Aeth Colin ymlaen:

“Mae gemau elusennol yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, cael hwyl, codi arian a chodi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw rhoi organau.

“Hyd yn oed os nad ydyn ni’n llwyddo ar y cae, mae’n teimlo fel buddugoliaeth wrth i ni godi arian a chael llawer o deuluoedd i sgwrsio am roi organau.

Mae Rhoi Organau Cymru yn annog pobl Cymru i siarad gyda’u teuluoedd am y pwnc pwysig hwn. Os yw mwy o bobl yn cael y sgwrs gyda’u teuluoedd am eu penderfyniad i roi organau, byddai mwy o fywydau nag erioed yn cael eu hachub.

 

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.