Siaradwch am roi organau: Sarah Crosby
Ymdrin â bywyd a marwolaeth – Y profiad o ofyn i deulu mewn galar am organau eu hanwyliaid.
Mae gan Nyrsys Arbenigol Mewn Rhoi Organau rôl benodol a chymhleth iawn, a chânt eu hystyried yn aml fel rhai o’r bobl bwysicaf ar ddiwedd oes sydd ag un o’r swyddi anoddaf – nhw sy’n gofyn y cwestiwn does dim un aelod o’r teulu am ei glywed.
Meddai Sarah:
“Bob dydd, byddaf yn gofalu am deuluoedd sydd wrthi’n galaru neu’r rhai sy’n dod i delerau â cholli rhywun, ac yn ceisio rhoi cymaint o wybodaeth a chymorth â phosibl iddyn nhw fel y gallan nhw wneud penderfyniad deallus am roi organau.”
“Er bod pobl yn credu ein bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn a’u penderfyniad am roi organau, mae’n ymwneud yn bennaf â theuluoedd y rhai sy’n galaru. Rydyn ni’n eu helpu i ymchwilio i benderfyniad eu hanwyliaid, fel y gallan nhw anrhydeddu hynny pan ddaw’r amser.”
“Er mwyn agor y sgwrs am roi organau, mae angen i ni fod yn hyderus bod y teulu yn derbyn y farwolaeth neu’n dechrau ymdopi â’r syniad o farwolaeth. Os yw teulu’n cael trafferth ymdopi â’r sefyllfa, ein lle ni fel tîm yw cydweithio â nhw a gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i ddeall y sefyllfa.”
“Mae pobl yn gofyn i ni’n aml iawn ‘Roeddwn i’n meddwl bod y gyfraith yn golygu fy mod ar y gofrestr yn awtomatig.’ Wel, os ydych chi wedi cofrestru i roi organau, byddwn yn gofyn i’ch teulu a ydyn nhw’n ymwybodol o’ch penderfyniad, ac a ydyn nhw’n cefnogi’r penderfyniad hwnnw. Os nad ydych chi wedi cofrestru’ch penderfyniad i optio i mewn neu optio allan, ystyrir nad oes gennych unrhyw wrthwynebiad i roi organau, oni bai bod eich teulu yn gwybod fel arall.”
“Os yw eich teulu’n cofio cael y sgwrs, ac yn ymwybodol o’ch penderfyniad am roi organau, gofynnir iddyn nhw ar eich rhan.”
“Gan siarad o brofiad, mae’r teuluoedd sy’n gwybod penderfyniad eu hanwyliaid yn ymdopi’n well pan ddaw’r amser i gael y sgwrs gyda ni yn yr ysbyty. Yn anffodus, yn ein gwaith , yn aml iawn rydyn ni’n gweithio gyda theuluoedd sy’n ymdrin â cholledion annisgwyl - naill ai plentyn, partner neu frawd neu chwaer - ac er bod angen i ni roi’r cyngor gorau posibl, mae angen i ni ddeall hefyd y golled a’r straen i’r teuluoedd.”
“Gwn ei bod yn hawdd i mi ddweud, gan mai dyna yw fy ngwaith ac rydw i’n ei weld yn digwydd bob wythnos, ond gall anrhydeddu penderfyniad eich anwyliaid ar roi organau roi llawer iawn o gysur i chi, gan wybod bod eich gŵr, eich gwraig, eich mab neu eich merch yn gallu rhoi’r rhodd gorau oll - y rhodd o fywyd.”
“Yr hyn rydyn ni wedi ei weld yn y gorffennol yw os nad yw’r teulu’n ymwybodol o’r penderfyniad, mae’r sgwrs am roi organau’n digwydd am y tro cyntaf ar adeg emosiynol iawn. Dyma pryd rydyn ni’n gweld pobl yn gwneud penderfyniadau yn emosiynol yn hytrach nag er lles eu hanwyliaid.”
“ Fy nghyngor i yw, i fod yn glir, byddwch yn onest a gwnewch yn siŵr bod eich penderfyniad yn hysbys i bob unigolyn pwysig yn eich bywyd fel bod eich dewis yn cael ei barchu. Ac yna gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw dymuniad eich teulu hefyd.”
Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau
Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.