Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl tri thrawsblaniad, gallai dyn o Lanfair-ym-muallt wynebu oes o ddialysis

Siaradwch am roi organau: Murray Beehan

Mae Murray Beehan, 31 oed, wedi dioddef cyfnodau o salwch ers yn ddim o beth a bellach, ar ôl i dri thrawsblaniad arennau fethu, gallai wynebu oes o ddialysis.

Ar ôl dioddef arennau’n methu wrth gael ei eni, dywedwyd wrth rieni Murray nad oedd llawer o gyfle iddo oroesi. Ond yn groes i’r disgwyl, goroesodd Murray a chafodd ei drin â dialysis peritoneaidd i’w gadw’n fyw a deiet arbennig i’w helpu i dyfu.

Gan fod sawl trawsblaniad aren wedi methu, gosododd rhieni Murray beiriant dialysis yn eu cartref yn Llanfair-ym-muallt a dysgu sut i gyflawni’r driniaeth ar gyfer eu mab.

Bellach yn 31 oed, mae Murray yn ôl ar ddialysis ac yn teithio i ysbyty Llandrindod dair gwaith yr wythnos i dderbyn triniaeth sy’n cymryd rhwng pedair a phum awr y sesiwn.

Meddai Murray:

“Torrais fy nghalon pan glywais fod fy aren a oedd wedi’i thrawsblannu wedi methu eto, roeddwn i’n teimlo mod i yn ôl lle dechreuais i. Ond, mae’n siŵr ei fod fel peiriant, ac yn anffodus, mae’n dechrau treulio.”

“Ar ôl pob sesiwn dialysis, roeddwn i’n teimlo fel cadach llestri ac yn cael cur pen yn aml. Ond dyma sy’n fy nghadw i’n fyw felly rwy’n ddiolchgar iawn amdano.”

Aeth Murray ymlaen:

“Pan gefais fy ngeni, dywedwyd wrth mam na fyddwn i’n byw. A minnau bellach yn 31 oed, rydw i wedi cyflawni cymaint o bethau nad oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n eu gwneud - rydw i wedi graddio o Brifysgol Caerdydd, wedi cystadlu i Dîm Prydain a Gogledd Iwerddon yn y Gemau Trawsblaniadau fel nofiwr, ac wedi cymhwyso fel cynghorwr ariannol, wedi cael gwaith llawn amser ac wedi syrthio mewn cariad.”

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.