Siaradwch am roi organau: Lowri Davies
Rhoi aren i dad
Gwyliodd Lowri, 42 oed o'r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, ei thad yn goddef dwy rownd o ddialysis wrth aros am drawsblaniad aren, gan addo i’w hun, pe bai angen trawsblaniad arno byth eto, na fyddai'n gadael i'w phlant ei wylio'n dioddef, yn union fel y gwnaeth hi fel plentyn.
Dywedodd Lowri:
Prin pedair oed oeddwn i pan gafodd Dad ei drawsblaniad cyntaf, felly 'sa i'n cofio rhyw lawer. Ifanc oeddwn i, a ddim callach o'r boen yr oedd yn ei ddioddef.
Bymtheng mlynedd yn ddiweddarach ym 1998, dechreuodd aren Shôn ddirywio pan oedd yn 48 oed ac fe'i gorfodwyd i fynd nôl ar ddialysis.
Dywedodd Lowri:
Roeddwn i'n 20 oed ar y pryd, ac yn gallu gweld fel oedolyn pa effaith oedd dialysis yn ei chael arno. Doedd e ddim mor egnïol â’r arfer, ac roedd hi'n anodd ei weld yn dirywio.
Yn ffodus, yn y flwyddyn 2000, wedi 2 flynedd ar restr am drawsblaniad, cafodd Shôn yr alwad ffôn hollbwysig - a chafodd ei ail drawsblaniad aren.
Dod o hyd i roddwr
Un ar ddeg mlynedd yn ddiweddarach yn 2011, dechreuodd iechyd Shôn ddirywio unwaith eto a chafodd y teulu wybod y byddai angen trawsblaniad arall.
Ychwanegodd Lowri:
Cyn gynted ag y dywedwyd wrthym fod angen trydydd trawsblaniad ar dad; roeddwn i'n benderfynol na fyddai'n mynd drwy ddialysis eto, a chefais brawf ar unwaith.
Rwy'n ffodus fy mod wedi gweld gyda fy llygaid fy hun y gwahaniaeth mae fy mhenderfyniad wedi'i wneud i fywyd rhywun. Rwy'n un o'r rhai lwcus sy'n gallu gweld a gwerthfawrogi sut mae fy mhenderfyniad wedi cael effaith ar fywyd rhywun.
Bywyd ar ôl y trydydd trawsblaniad
Mae Shôn, sydd bellach yn 71 oed, yn mwynhau ei ymddeoliad i'r eithaf.
Dywedodd:
Roeddwn i ar fin wynebu cyfnod arall o ddialysis a dyfodol cyfyngedig, ond diolch i Lowri, nid felly mae pethau. Dydw i ddim wedi fy nghyfyngu mwyach; nawr, gallaf fwynhau gwylio fy wyrion a'm hwyresau'n tyfu, gallaf dreulio amser gyda'r merched a mwynhau bywyd bob dydd. Mae'n amhosib cyfleu fy ngwerthfawrogiad mewn geiriau – rwy'n wirioneddol ddyledus iddi.
Dywedodd Lowri:
Gobeithio bod ein profiad ninnau yn annog rhagor i siarad am roi organau fel bod modd achub mwy fyth o fywydau.
Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau
Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.