Neidio i'r prif gynnwy

Mae bywyd yn mynd yn ei flaen.

Siaradwch am roi organau: Conner Marshall

Bydd bywyd byth yr un fath eto i'r teulu Marshall yn y Barri. Cafodd Conner Marshall (18), mab Nadine a Richard, a brawd Jac a Georgia, ei lofruddio'n greulon wrth iddo fwynhau penwythnos i ffwrdd gyda ffrindiau ym maes carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl fis Mawrth 2015.

Ymosodwyd yn greulon ar Conner. Dioddefodd anafiadau difrifol, angeuol. Bedwar diwrnod wedi'r ymosodiad, fe wnaeth y meddygon a fu'n gofalu am Conner drafod â'i deulu y penderfyniad dirdynnol i ddiffodd y peiriant cynnal bywyd. Dyma pryd y gwnaethon nhw benderfynu anrhydeddu penderfyniad Conner i roi ei organau.

Mae mam Conner, Nadine Marshall yn egluro sut yr oedd Conner wedi gallu rhoi rhodd anhygoel, sef rhodd bywyd, ymysg y trawma, yr ofn, y boen a'r tristwch. Cafodd y teulu Wobr St John am roi organau ar ran Conner yn 2015:  

Mae'n cofio'n glir pan ddaeth Conner i siarad â hi am ei benderfyniad i roi organau:

"Pan drodd Conner yn 16 oed, fe wnaeth gais am drwydded yrru dros dro, a daeth i ddweud wrthyf ei fod wedi rhoi tic yn y blwch ar y ffurflen yn dweud ei fod am roi organau. Fe gawsom drafodaeth am hyn, ac roedd yn benderfynol iawn y byddai'n dymuno cael ei ystyried fel rhoddwr organau pe byddai unrhyw beth yn digwydd iddo.

"Ni wnaeth groesi fy meddwl y byddai'r foment honno'n digwydd dwy flynedd yn ddiweddarach. Ar ôl i Conner gael ei ganfod yn y maes carafanau, cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle gafodd ei roi ar beiriant cynnal bywyd yn yr adran gofal dwys. Roeddem yn gwybod ei bod yn sefyllfa ddifrifol iawn. Ond, er gwaetha'r amgylchiadau trychinebus a oedd yn ein hwynebu, fe gefais i a fy ngŵr, a'n dau o blant, lawer o gysur o'r ffordd y gwnaeth yr ysbyty ddelio â phob dim.

"Ar ôl i Conner fod yn yr ysbyty am bedwar diwrnod, daeth y meddygon i ddweud wrthym ni nad oedd modd gwneud rhagor i geisio achub ei fywyd ac y byddai'r peiriant cynnal bywyd yn cael ei ddiffodd. Daeth y tîm trawsblannu organau atom a rhoi gwybod i ni fod Conner wedi cofrestru i roi organau, a gofyn i ni am ein teimladau ynghylch anrhydeddu ei benderfyniad i roi ei organau. Roedd y tîm yn llawn empathi.

"I ddechrau, nid oeddwn am wneud. Roeddwn yn teimlo bod Conner wedi dioddef digon yn ystod yr ymosodiad a'r anafiadau erchyll a gafodd. Ond, yn ogystal â bod yn ymwybodol o benderfyniad Conner i roi organau, roedd ganddo hefyd datŵ ar ei fraich a oedd yn dweud 'Life Goes On'. Roedd hynny'n bwysig iawn i ni; roedd cael y cyfle i gefnogi penderfyniad Conner i roi ei organau yn teimlo fel cyfle gwych i alluogi hyn i ddigwydd – galluogi i fywyd Conner fynd yn ei flaen trwy rywun arall.

"Doedd dim ffordd o achub bywyd Conner, ond mae ef wedi gallu achub bywydau pobl eraill trwy roi ei organau. Fe wnaeth y nyrsys arbenigol egluro popeth mor dda a sensitif. Yn ogystal â delio â'r materion rhoi organau, roedden nhw hefyd yn siarad â ni am brintio ôl ei law a chadw rhywfaint o'i wallt i'w roi mewn loced. Roedd hyn i gyd yn gymaint o help mewn sefyllfa mor erchyll.

"Fel teulu, rydyn ni'n falch iawn fod gan Conner ei datŵ a'n bod wedi gallu anrhydeddu ei benderfyniad. Mae Conner wedi rhoi rhodd anhygoel, ac rydyn ni wedi gallu gwireddu ei ddymuniadau a chefnogi ei benderfyniad i roi organau.

"Dwi'n gwbl gefnogol o'r system rhoi organau newydd. Mae'n gyfle i ofyn y cwestiynau hynny ynghylch rhoi organau na fyddai pobl fel arfer yn siarad amdanyn nhw. Er mai 16 oed yn unig oedd Conner, roedd wedi gwneud y penderfyniad i roi ei organau ac yn ffodus, roedden ni wedi siarad am hyn. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn ein bod yn gwrando ar bobl ifanc ac yn rhoi'r cyfle iddyn nhw siarad am roi organau yn yr ysgol a'r coleg. Ymhen ychydig amser, byddan nhw'n oedolion. Mae hefyd yn bwysig i bobl siarad â'u hanwyliaid amdano fel bod eu teuluoedd yn ymwybodol o'u penderfyniad pe byddai'r sefyllfa anodd honno'n codi. Pwy a ŵyr beth fyddai ein penderfyniad pe na fyddai Conner ar y gofrestr a phe na fyddem yn ymwybodol o'i deimladau cryf i roi ei organau."

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.