Carwyn Jones

Doedd Carwyn ddim yn meddwl y byddai’n digwydd iddo fe.

Er ei fod yn ddiabetig math 1 ers ei fod yn ddwy oed, roedd Carwyn Jones (30) o Bont-siân yng Ngheredigion yn byw bywyd iach, gweithgar, tan iddo ddioddef methiant organau yn sydyn ym mis Gorffennaf 2016. Dyma fe i esbonio:

“Doedd dim rhybudd, heblaw mod i wedi cael haint yn y glust a oedd pallu gwella, ond ro’n i’n meddwl taw dim ond feirws oedd e. Dim ond yn fy ugeiniau oeddwn i, yn chwarae rygbi, yn rhedeg fy musnes fy hun yn gosod teiars, ac roeddwn i’n teimlo’n iach a heini. Digwyddodd popeth mor glou. Un diwrnod, fe es i wirio fy nghalon yn ôl yr arfer, ac fe ddywedon nhw ei bod hi ond yn pwmpio ar 25% o’r hyn y gallai, ac yna fe ges i fy rhuthro i’r ysbyty am fod fy arennau i’n methu. Fe aeth pethau o ddrwg i waeth, a nawr rydw i ar ddialysis am bedair awr y dydd, dair gwaith yr wythnos. Mae’n beth blinedig ofnadwy, ac rydw i’n ddi-hwyl, yn ddiflas ac yn methu â gwneud dim ar ôl y driniaeth, gan gynnwys gweithio. Mae bod ar ddialysis wedi cymryd drosodd fy holl fywyd.”

“Mae hi wedi cymryd bron i flwyddyn i gryfhau fy nghalon ddigon i gael fy rhoi ar y rhestr aros ar gyfer trawsblaniad. Bydd angen i mi gael trawsblaniad dwbl, a’r gobaith yw y gallan nhw wneud fy arennau a’r pancreas ar yr un pryd, oherwydd all cymhlethdodau ddatblygu. Wrth dderbyn y driniaeth, rydw i wedi cwrdd â chleifion dialysis eraill sydd wedi cael trawsblaniadau, ac rydw i wedi gweld cymaint mae eu bywydau nhw’n gwella. Mae’n rhoi gobaith i mi, a’r nerth i ddal ati. Rydw i’n gwybod y bydd yn rhaid i rywun farw er mwyn i fi gael fy nhriniaeth, a does gen i ddim geiriau i ddweud pa mor ddiolchgar fyddwn i i’r rhoddwr a’u teulu am roi’r cyfle i roi ail gynnig ar fywyd i mi.”

“Gall methiant organau effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys plant, a’r unig ffordd o wella yw cael trawsblaniad oddi wrth roddwr byw neu oddi wrth rywun sydd wedi marw. Heb y rhoddwyr hyn, mae llawer o bobl fel fi’n treulio ein bywydau dan driniaeth yn yr ysbyty, dim ond er mwyn byw.”

“Wnes i ddim edrych ar y system rhoi organau cyn i fi fynd yn dost, achos mod i’n meddwl y gallai fy organau fethu pan fyddwn i’n hŷn ond nid pan oeddwn i’n ifanc. Dydych chi ddim yn ystyried y gallai hyn ddigwydd i rywun fy oedran i. Dyna’r math o beth sydd ddim yn berthnasol i chi oni bai eich bod chi’n nabod rhywun sydd wedi bod drwy’r profiad, ond fe ddylai pobl optio i mewn a rhannu’u penderfyniad achos efallai na fydd angen trawsblaniad arnyn nhw, ond fe allai fod angen rhywbeth ar un o’u teulu. Neu falle y bydde angen iddyn nhw barchu penderfyniad rhywun pan fydd y gwaetha’n digwydd. Unwaith y byddwch chi wedi marw, fydd dim angen eich organau arnoch chi ragor, felly man a man i chi adael i rywun arall eu cael nhw. I’r person hwnnw, mae hi’n llythrennol yn fater o fyw neu farw.”

 

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.