Angela Mary Bradley-Kidd

Rhannwch eich penderfyniad am roi organau, waeth beth yw eich oedran.

Mae Angela Mary Bradley-Kidd o Faenorbŷr, Dinbych-y-pysgod, wedi cefnogi rhoi organau ers i’w mab Charlie farw. Dyma Angela: 

“Bu’n rhaid i mi feddwl gyntaf am roi organau pan fu farw fy mab Charlie mewn damwain yn nhŷ ei ffrind yn 1999, dim ond 17 oedd e. Roedd Charlie mewn coma am 4 niwrnod, ac yn ystod yr amser hwnnw, fe ddywedwyd wrthym nad oedd dim y gallai’r meddygon ei wneud i’w achub. Bryd hynny, fe ddechreuon ni drafod rhoi organau, roedd tad Charlie yn gryf o blaid rhoi organau, ond doeddwn i ddim yn siŵr. Roedd Charlie mor ifanc pan fu e farw, doeddwn i ddim wedi meddwl am eiliad am siarad ag ef ynghylch yr hyn y byddai e’n ei ddymuno. Yn y diwedd, dywedodd ffrindiau Charlie wrthyf eu bod nhw’n teimlo y byddai ef wedi dewis rhoi’i organau, ac rydw i mor falch eu bod nhw wedi dweud hynny. Helpodd Charlie bum person drwy roi’i galon, ei afu a’i arennau. Roedd yr ieuengaf i dderbyn organ ond yn 5 mlwydd oed.

“Y tro nesaf y daeth rhoi organau i mewn i fy mywyd, wnes i ddim oedi cyn cytuno. Llynedd, cafodd fy mhartner strôc enfawr, a bu farw o fewn mis. Doedd e ddim wedi bod yn rhywun sâl cyn hyn, ac fe ddaeth ei farwolaeth fel sioc enfawr, ond roedd Stuart wedi codi llawer o arian ar gyfer y ward rhoi organau yn ysbyty Queen Elizabeth, Birmingham, felly gwyddwn mai’i ddymuniad oedd bod yn rhoddwr. Bu’n bosib i Stuart roi’i afu, arennau, falfiau’i galon a meinwe’r galon pan fu farw. 

“Rydw i mor falch fod fy mab a ’mhartner wedi gallu rhoi organau er mwyn achub bywyd rhywun arall. Baswn i wrth fy modd i wybod sut y newidiodd bywydau’r derbynwyr ers iddyn nhw gael y trawsblaniadau. Yn y pen draw, fe fyddwn i’n dweud wrth bawb am ‘optio i mewn’ i roi organau, mae’n ffordd mor amhrisiadwy o helpu eraill, ac mae hi mor bwysig trafod eich penderfyniad gyda’ch anwyliaid.”

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.