Neidio i'r prif gynnwy

Bydd hysbyseb sy'n annog rhianta cadarnhaol yn ymddangos mewn sinemâu ledled Cymru yn ystod yr hanner tymor fel rhan o'r cam diweddaraf mewn ymgyrch gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae nifer o arbenigwyr ym meysydd rhianta ac ymddygiad plant wedi cyfrannu at yr ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo, sy'n dangos sut mae annog a chanmol plant am eu hymddygiad da yn fwy effeithiol na'u cosbi'n llym am gamymddwyn. Mae nifer o grwpiau cymorth i rieni ar draws Cymru wedi cefnogi'r ymgyrch hefyd.

Cafodd yr ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo ei lansio yn wreiddiol yn 2015, gyda gwefan benodol, tudalen Facebook, llyfryn a thaflenni cyngor sy'n cynnig cynghorion a gwybodaeth i rieni am ffyrdd o reoli straen wrth fynd ynglŷn â’u gweithgareddau teuluol bob dydd - amser gwely, amser bath, a siopa am fwyd, er enghraifft. Mae'r wefan yn ymdrin â materion penodol, gan gynnwys strancio a hyfforddiant i ddefnyddio’r poti, ac yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â datblygiad plentyn o’i eni hyd at bum mlwydd oed.

Ymwelodd miloedd o rieni â gwefan Magu plant. Rhowch amser iddo yn ystod cam cyntaf yr ymgyrch, tra bod y dudalen Facebook wedi rhoi cyfle i bobl rannu eu profiadau eu hunain o ran strategaethau rhianta llwyddiannus (ac aflwyddiannus), er lles pobl eraill. Fel rhan o'r ail gam, bydd yr hysbyseb rhianta gyntaf yn cael ei dangos mewn sinemâu yng Nghymru. Hefyd, bydd ymgyrch farchnata yn yr awyr agored ac ar-lein, yn ogystal â phartneriaethau gyda gwefannau rhianta poblogaidd yn y DU, sef Netmums a Mumsnet.

Wrth siarad am y cam diweddaraf yn yr ymgyrch, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:

“Nod yr ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo yw cefnogi rhieni plant bach drwy ddarparu cymorth a chyngor yn ystod cyfnod sy'n gallu achosi straen fawr, yn ogystal â bod yn adeg o foddhad mawr. Wrth gwrs, nid oes y fath beth â rhiant perffaith ond mae'r mwyafrif llethol o'r ymchwil yn dangos y gall plant a rhieni elwa'n fawr ar rianta cadarnhaol.

“Rydyn ni am i rieni ledled Cymru rannu eu profiadau o ran rhianta cadarnhaol a sut mae wedi gwneud gwahaniaeth i'w bywydau nhw, ac i fywydau eu plant”,

ychwanegodd Mr Sargeant.

“Mae'r ymgyrch hefyd yn darparu cyngor am sut i ddelio â'r heriau gwahanol sy'n gysylltiedig â rhianta, ac mae'r wefan yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Bydd rhagor o adnoddau i'w lawrlwytho yn cael eu hychwanegu wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen.”

Ym mis Mawrth 2016, cafodd canlyniadau'r arolwg rhianta a gynhaliwyd fel rhan o'r ymgyrch eu cyhoeddi, a dywedodd dwy ran o dair o blith y 1,490 o ymatebwyr fod cydbwyso gwaith a chyfrifoldebau teuluol ymhlith y tri phryder uchaf roeddent yn poeni amdanynt amlaf. Fe wnaeth yr arolwg hefyd ddangos bod 82% o rieni plant o dan 5 oed yng Nghymru yn rhestru gweithgareddau awyr agored, er enghraifft, mynd am dro neu chwarae yn y parc lleol, yn eu tair hoff ffordd o dreulio amser gyda’u teulu