Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch newydd i hybu codio ymhlith disgyblion yng Nghymru - Kirsty Williams

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cod sy'n ei gwneud yn bosibl i ni greu meddalwedd ar gyfer cyfrifiaduron, apiau a gwefannau. Mae'n fodd i ddysgwyr bontio o fod yn ddefnyddwyr i fod yn awduron technoleg. 

Nod Llywodraeth Cymru yw ehangu Clybiau Codio ym mhob rhan o Gymru. 

Mae tua 300 o glybiau'n bodoli eisoes ar draws y wlad ac mae'r Ysgrifennydd Addysg eisiau i bob disgybl gael cyfle i ddysgu am godio a throi ei law ato wrth i bwysigrwydd sgiliau digidol barhau i dyfu.

Ar hyn o bryd mae tua 1.5 miliwn o swyddi yn y sector digidol yn y DU, ac mae 400,000 ohonynt yn cynnwys codio. Amcangyfrifir y bydd 100,000 o swyddi codio newydd erbyn 2020.

Diben y cynllun newydd i hybu Clybiau Codio yng Nghymru - 'Cracio'r cod' - yw'r canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth o fanteision clybiau codio ymhlith athrawon, dysgwyr a rhieni;
  • Chwalu'r rhwystrau rhag cymryd rhan mewn clybiau codio;
  • Broceru a hwyluso profiadau codio gyda busnes a diwydiant.

Bydd gan y cynllun bwyslais penodol ar annog cydberthnasau cryfach â busnes, diwydiant a'r trydydd sector i gefnogi datblygu sgiliau codio.

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Annog rhieni i gymryd rhan mewn codio a datblygu sgiliau digidol;
  • Cymorth ac adnoddau yn Gymraeg;
  • Ennyn diddordeb mwy o ferched mewn codio a thechnoleg

Wrth i ni lansio ein cynllun heddi, mae nifer o bartneriaid lleol a rhyngwladol wedi cytuno i weithio gyda ni i gyflawni. Yn Code Club UK, Microsoft Education, Sony UK Technology Centre, BAFTA, Big Learning Company, British Council, BT Barefoot Computing, Computing at school (CAS), Coleg Meirion Dwyfor, Raspberry Pi Foundation , the RAF, Technocamps, and Universities in Wales.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Mae cod yn rhan o fywyd pawb bron iawn. Pan fyddwn yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, neu ap neu gyfrifiadur rydyn ni'n defnyddio systemau a gafodd eu dyfeisio â chod. Mae'n rhan annatod o'n byd cyfoes a dw i eisiau gwneud yn siwr fod cynifer â phosibl o'n pobl ifanc ni'n dysgu amdano wrth iddyn nhw ddatblygu'u sgiliau digidol.

"Drwy neilltuo'r £1.3 miliwn hwn o fuddsoddiad newydd, ein nod yw cynyddu'r nifer o glybiau codio ym mhob cwr o Gymru ar gyfer dysgwyr 3-16 oed i'w galluogi i ddatblygu sgiliau a fydd yn hollbwysig iddyn os ydyn nhw am ffynnu mewn economi lle y mae mwyfwy o alw am sgiliau digidol.

"Byddwn yn gweithio gydag athrawon, y consortia addysg ac eraill i'n helpu ni i gracio'r cod i'n holl ddisgyblion."

Dywedodd Maria Quevedo, Cyfarwyddwr Code Club UK:

"Mae'n gyffrous gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi cyfle i ragor o blant a phobl ifanc ledled Cymru fynd i Glwb Codio, ac i ddysgu am gyfrifiadureg ac i fireinio'u sgiliau digidol.

"Mae Clybiau Codio yn ffordd hwyliog a difyr i helpu'r genhedlaeth nesaf i ddatblygu'r sgiliau hanfodol hyn, fel eu bod yn gallu amgyffred ein byd cynyddol ddigidol yn llwyr a'u bod yn meddu ar y sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer swyddi'r dyfodol."

Mae newidiadau i'r cwricwlwm yn golygu y bydd sgiliau digidol yn cael eu defnyddio ym mhob rhan o addysg disgyblion bellach, ac na fyddant yn cael eu cyfyngu i wersi TGCh a Chyfrifiadureg penodol yn unig. Mae Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru ar gael i'n holl ysgolion bellach ac mae'n ffrwyth dau adolygiad annibynnol a argymhellodd y newidiadau.